Ruth Haugen

Rheolwr Prosiect, Cronfa Lleoedd

Yn wreiddiol o orllewin Cymru, fe astudiodd Ruth Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers graddio mae hi wedi gweithio fel cerddor llawrydd a rheolwr prosiect medrus sydd â dros 15 mlynedd o brofiad o weithio yn y celfyddydau yng Nghymru. Mae Ruth yn arbenigo mewn celfyddydau cymunedol ac yn ei hamser rhydd mae hi’n rhedeg corau cymunedol, yn perfformio ac yn mwynhau mynd am dro yn y goedwig gyda’i chi, Brenin.

Mae Ruth yn rheoli prosiect newydd i Ganolfan Ffilm Cymru o’r enw Cronfa Lleoedd, sy’n defnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol gan y BFI. Bydd y peilot yn cefnogi tair canolfan ddod yn fwy gweledol a hygyrch i’w cymunedau lleol.

Rhagenwau Ruth yw hi/ei.

E-bost Ruth

1
Yn ôl
^
CY