Gwyliwch rai o’r ffilmiau diweddaraf cyn iddynt gael eu rhyddhau.
Archebwch y ffilmiau diweddaraf gyda chysylltiadau Cymreig.
Rydyn ni’n ychwanegu ffilmiau y gallai fod o ddiddordeb i arddangoswyr yng Nghymru yn rheolaidd. O’r ffilmiau diweddaraf gyda chysylltiadau Cymreig, i becynnau â themau neu’r ffilmiau annibynnol Prydeinig diweddaraf.
Gall pob aelod o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI y DU gofrestru am gyfrif i gael mynediad at ragddangosiadau. I gofrestru, anfonwch e-bost aton ni gan roi gwybod ym mha ranbarth rydych chi’n aelod. Os ydych yn aelod o Ganolfan Ffilm Cymru ac os hoffech ychwanegu cyfrif ystafell rhagddanos ychwanegol, e-bostiwch ni os gwelwch yn dda.
Nodwch: Cyn i chi gwblhau ffurflen aelodaeth, os ydych chi'n aelod o Ganolfan Ffilm ranbarthol arall yn y DU neu os ydych chi'n aelod o Ganolfan Ffilm Cymru eisoes ac am ddiweddaru eich manylion cyswllt, neu greu cyfrif ystafell rhagddangos ychwanegol, nid oes angen i chi gwblhau ffurflen aelodaeth, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw nid oes angen i chi gwblhau ffurflen aelodaeth, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw, cysylltu â ni.
Dewch o hyd i rai o’r ffilmiau diweddaraf sydd â chysylltiadau Cymraeg. Mae’r holl ffilmiau sydd wedi’u cynnwys yn gymwys i gael cefnogaeth ffilm Gymraeg.
I archebu unrhyw un o’r ffilmiau hyn, cysylltwch â’r dosbarthwr / cyswllt archebu ar y dudalen ffilm unigol.
Rhestr o ddosbarthwyr sy'n cynnal eu cyfleusterau sgrinio ar-lein eu hunain, y gallwch gael mynediad uniongyrchol iddynt. Cofrestrwch ar gyfer eu cylchlythyrau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu rhaglenni diweddaraf: