Cyllid

Cyllid i Aelodau

Gwybodaeth, cyfleoedd, canllawiau a ffurflenni cyflwyno.

Ymgeisiwch am gyllid i ddangos ffilmiau annibynnol o’r DU, ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw i gynulleidfaoedd ledled Cymru, neu am fwrsari ar gyfer cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau, neu wasanaeth ymgynghori a fydd yn ehangu eich sgiliau fel arddangoswr ffilmiau.

I gael cyllid gan Ganolfan Ffilm Cymru rhaid i chi ddod yn aelod. Gallwch ymuno am ddim – i ymaelodi, cwblhewch ein Ffurflen Ymaelodi.

Dewiswch dab i weld...

Mae’r Gronfa yn cefnogi arddangoswyr ffilmiau annibynnol i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol y DU, ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw.

Dysgwch sut rydym yn cefnogi ffilmiau, dangosiadau a gwneuthurwyr ffilmiau sydd yn dathlu Cymru.

Rydym yn cefnogi gwyliau ffilmiau sy’n rhedeg rhaglenni o ffilmiau annibynnol o’r DU a ffilmiau rhyngwladol, drwy Gronfa Arddangos Ffilmiau (GAFf). Gweler trosolwg o wyliau Cymreig isod.

Ymgeisiwch am fwrsari ar gyfer cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau ac ymgynghoriaeth. Byddwch yn ehangu ar eich sgiliau fel arddangoswr ffilmiau ac yn buddio’ch sefydliad.

Pob blwyddyn mae yna ‘Brif Raglen’, sef tymor y DU gyfan y gall aelodau BFI FAN dderbyn cyllid ar ei gyfer.

^
CY