Cipolwg:
- Cyfanswm sydd ar gael: Oddeutu £100,000
- Cyllid: hyd at £10k
- Ceisiadau’n agor: wythnos yn cychwyn 27ed Mawrth 2023
- Ceisiadau’n cau: 9am ddydd Llun 1ain Mai 2023 (rownd gyntaf) a dydd Llun 3ydd Gorffennaf 2023 (ail rownd)
- Ffenestr gweithgarwch: Mai 2023 - Mawrth 2024. Gallai cyllid amlflwyddyn fod ar gael, yn ddibynnol ar gronfeydd a phrawf bod gofyn amdano.
- Nod: Datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol y DU (gan gynnwys ffilmiau o Gymru) a ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw
Nodwch Dylai’ch gweithgaredd gychwyn o fis Mai ymlaen, er mwyn caniatáu penderfyniadau cyllido.
Darllenwch y canllawiau yn llawn a dilynwch y camau a nodir, er mwyn gwneud cais.