Ydych chi’n gallu helpu i gyllido fy ffilm?
Dydy Canolfan Ffilm Cymru ddim yn gallu cynnig cymorth ariannol ar gyfer cynhyrchu, datblygu na dosbarthu ffilmiau,yn cynnwys premieres ffilmiau. Gweler fanylion am 'Sefydliadau Sgrin yng Nghymru'.
Fyddwch chi’n helpu i ddosbarthu fy ffilm?
Ni all Canolfan Ffilm Cymru weithredu fel dosbarthydd/archebwr oherwydd maint a
chylch gwaith ein tîm. Unwaith y byddwn wedi hyrwyddo eich ffilm i arddangoswyr fe fyddwn yn eu hannog i archebu’n uniongyrchol trwy eich cyswllt archebu.
Ydych chi’n gallu rhoi manylion cyswllt sinemau Cymreig imi?
Rydym yn gweithio gyda rhwydwaith mawr iawn o sinemau ac am resymau diogelu data ni allwn ryddhau rhestrau cyswllt. Rydym yn hapus iawn i anfon gwybodaeth am eich ffilm ymlaen a’u hannog i gysylltu gyda chi.
Pryd ddylwn i anfon gwybodaeth am fy ffilm atoch?
Mae nifer o aelodau Canolfan Ffilm Cymru yn creu rhaglen dri mis o flaen llaw felly mae derbyn gwybodaeth mewn da bryd yn bwysig wrth gefnogi’r ffenestr theatr. Mae croeso i dameidiau o flaen llaw a nodyn i’r dyddiadur, hyd yn oed os ydy dyddiadau rhyddhau yn newid.
Un sgrin sydd gan y rhan fwyaf o sinemau yng Nghymru ac felly mae ffilmiau Cymreig yn rhannu gofod sgrin gyda theatrau, sinemau prif ffrwd a lleoliadau’n cael eu llogi’n allanol. Mae hyn yn rheswm da arall dros rannu gwybodaeth o flaen llaw.
Beth os nad wyf yn clywed oddi wrth y sinemau?
Mae yna alw am ffilmiau Cymreig gan arddangoswyr ond cofiwch mai dim ond un person sydd ganddyn nhw’n gweithio ar y rhaglen. Efallai bod y person yma’n Rheolwr/wraig Cyffredinol hefyd, yn Swyddog Marchnata ac yn weithredwr Blaen Tŷ ac mae rhaid i rai ymateb i gannoedd o geisiadau ar gyfer archebion ffilm bob mis. Byddwch yn amyneddgar os nad ydyn nhw’n ymateb ar unwaith.
Ydw i’n gallu dod yn aelod o Ganolfan Ffilm Cymru?
Sefydlwyd Canolfan Ffilm Cymru i gefnogi’r sector arddangos ffilmiau yng Nghymru. Mae ein haelodaeth a’n cymorth ariannol yn agored i sinemau, canolfannau celf, lleoliadau cymunedol, cymdeithasau a chyrff eraill sydd yn dangos ffilmiau i gynulleidfaoedd. Os ydych yn wneuthurwr ffilm, yn ddosbarthydd neu yn ymarferydd ffilm arall, dydych chi ddim yn gymwys i fod yn aelod o Ganolfan Ffilm Cymru ond rydym bob amser yn hapus i drafod sut y gallwn helpu.
Ai dim ond ffilmiau newydd ydych chi’n eu cefnogi?
Rydym yn annog aelodau i archebu ffilmiau Cymreig, ffilmiau byr ac archif ar draws y degawdau! Mae ein catalog Gwnaethpwyd yng Nghymru yn cynnwys manylion archebu ar gyfer amrediad eang o ffimlimiau Cymreig ac rydym yn rheolaidd yn cefnogi aelodau gyda thymhorau ffilmiau Cymreig.
Ydych chi’n gallu hyrwyddo cyllido torfol ar gyfer fy ffilm?
Ydym, os ydy’r ffilm o ddiddordeb i’n haelodau. Anfpnwch y manylion atom ac fe fyddwn yn eu rhannu ar draws ein rhwydwaith cymdeithasol