Mae’r adran hon yn cynnwys:
- Beth yw Canolfan Ffilm Cymru?
- Sut mae Canolfan Ffilm Cymru wedi'i gysylltu â Chapter, Caerdydd?
- Pa ardal ddaearyddol mae Canolfan Ffilm Cymru yn ei chynnwys?
- Ble alla i gael gwybod am gydraddoldeb a chynhwysiant?
- A oes gan Ganolfan Ffilm Cymru bolisi iaith Gymraeg?
Mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) yn dathlu'r sinema. Rydym yn bodoli i gefnogi'r sefydliadau sy'n sgrinio ffilmiau, o wyliau ffilm, i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydol cymysg (arddangoswyr). Rydym yn gweithio gyda dros 300 o arddangoswyr Cymreig i'w helpu i gynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i gynulleidfaoedd cyhoeddus ledled Cymru.
Rydym yn rhan o rwydwaith ledled y DU o wyth canolfan a ariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy'r Sefydliad Ffilmiau Prydeinig (BFI) sy'n ffurfio'r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN).
Os yw eich sefydliad yn sgrinio ffilmiau i gynulleidfa gyhoeddus, gallech elwa o fod yn aelod o'r Ganolfan. Rydym yn cynnig ymchwil, cyrsiau hyfforddi, bwrsariaethau, cronfeydd, cyngor a mwy. Ar ôl i chi ymuno fel aelod, gallwch hyd yn oed wneud cais am gymorth ariannol i ddatblygu eich cynulleidfa ffilm.
Rydym hefyd yn falch o fod wedi arwain ar strategaeth Sinema Cynhwysol y DU ar ran BFI FAN 2017-23.
Sut mae Canolfan Ffilm Cymru wedi'i gysylltu â Chapter, Caerdydd?
Mae gan bob Canolfan yr hyn a elwir yn 'Sefydliad Arweiniol Canolfan Ffilm' neu FHLO. Dyma'r prif ymgeisydd sy'n gwneud cais i'r BFI i redeg y Ganolfan a lle mae tîm y Ganolfan wedi'i leoli. Mae Chapter Chapter yn un o ganolfannau celfyddydol mwyaf a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemâu, theatrau, mannau arddangos, stiwdios, caffi, bariau arobryn, dros 60 o fannau gwaith diwylliannol a mwy.
Pa ardal ddaearyddol mae Canolfan Ffilm Cymru yn ei chynnwys?
Mae Canolfan Ffilm Cymru yn gweithio gyda dros 300 o safleoedd ar draws Cymru. Ein nod yw cefnogi gweithgarwch Cymru gyfan.
Ble alla i gael gwybod am gydraddoldeb a chynhwysiant?
Roedd Canolfan Ffilm Cymru yn falch o arwain y Strategaeth Sinema Gynhwysol ar ran BFI FAN, gan gynnal Rheolwraig y Prosiect Cynhwysiant, Toki Allison yn Chapter rhwng 2017 a 2023. Roedd Sinema Gynhwysol yn brosiect ledled y DU a ddatblygwyd gan Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN) a gynlluniwyd i gefnogi arddangoswyr sgrin. Mae'n dal yn bosib i chi gael mynediad at gannoedd o adnoddau ar y wefan.Cysylltwch â ni am gymorth ychwanegol. Rydym hefyd yn gweithredu yn ôl Polisi Cyfle Cyfartal Chapter.
A oes gan Ganolfan Ffilm Cymru bolisi iaith Gymraeg?
Rydym yn datblygu prosiectau sy'n dathlu treftadaeth gyfoethog iaith a diwylliant Cymru, gan gynnig llwyfan i dalent Cymru. Rydym yn gweithredu yn ôl polisi iaith Gymraeg Chapter sydd yn:
- Cynnig gwasanaeth o statws cyfartal i'r Gymraeg a siaradwyr Saesneg,
- Deall a chydnabod natur ddwyieithog Cymru,
- Rhoi mynediad ehangach i'n gweithgareddau,
- Codi ein proffil Cymraeg a chydnabod perchnogaeth gan siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg fel ei gilydd,
- Cryfhau ein hapêl tu fewn a thu allan i Gymru,
- Cryfhau ein gallu i ateb gofynion cyllidwyr a phartneriaid eraill,
- Sicrhau cydymffurfiaeth â'r manylebau ieithyddol a diwylliannol mewn deddfwriaeth a chanllawiau arferion gorau fel y cymeradwyir gan Gomisiynydd y Gymraeg.