Cyllid Gwnaethpwyd yng Nghymru

Dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig

Os ydych chi am ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau Cymreig yn eich sinema neu ŵyl, gallwch wneud cais i’n Cronfa Arddangos Ffilmiau (CAFf) neu Pot cynnig CAFf.

Nodwch – mae’r gronfa hon ar gyfer arddangos yn unig. Nid yw cynhyrchu, datblygu na dosbarthu ffilmiau yn gymwys, gan gynnwys dangosiadau ‘premiere’.

© Delwedd: Comrade Tambo’s London Recruits, Chapter, Caerdydd

Dewiswch dab i weld...

Credwn fod dathlu Cymru ar y sgrin yn bwysig. O dalent newydd i wneuthurwyr ffilmiau arloesol, lleoliadau a ieithoedd, hanes a storïau cudd.

Since 2013, we’ve promoted over 450 films with Welsh connections. We offer a range of activities from preview days for film programmers to the development of marketing campaigns and assets that cefnogi strategaethau rhyddhau in Wales.

Rydyn ni hefyd yn cydweithio â sefydliadau sgrin Cymru i hybu proffil ffilm Cymreig a’r canfyddiad o Gymru ar y sgrin.

Edrychwch ar ein rhestr o ffilmiau sydd yn dathlu Cymru yn y gorffennol a’r presennol yma, gyda manylion am sut i’w harchebu ar gyfer eich sinema neu ddigwyddiad. Gallwch wneud cais i'r FEF i gefnogi'r gweithgaredd hwn.

Treftadaeth y Sgrin

  • Ffilmiau nodwedd wedi’u gwneud yn broffesiynol, ffilmiau byr a rhaglenni dogfen y mae archifau sgrin yn cadw eu hawliau, e.e. The Life and Times of David Lloyd George (1918) neu ffilm amatur a gedwir mewn casgliadau personol.

Ffilmiau Nodwedd, Ffilmiau Dogfen a Ffilmiau Byrion

  • Yn cynnwys talent ffilm Gymreig (cyfarwyddwr/ cynhyrchydd/ awdur/ prif gast) e.e. ffilmiau'r actor Ray Milland.
  • Wedi'i wneud gan gwmnïau cynhyrchu neu wneuthurwyr ffilmiau sy'n weithgar yng Nghymru (gan gynnwys y rhai a wneir gyda chyllid gan asiantaeth Cymru neu'r Llywodraeth) e.e. The Toll (2021).
  • Wedi'i lleoli yng Nghymru, neu sy'n delio â straeon, digwyddiadau neu bobl Cymru e.e. Tiger Bay (1959).
  • Ffilmiau yn y Gymraeg e.e. Y Sŵn (2023).
  • Storïau rhyngwladol gan storïwyr o Gymru e.e. Donna (2022).

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn cynnig cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn ar gyfer gweithgaredd arddangos annibynnol yng Nghymru. Rydym yn cynnig dau faes o gyllid ar draws ‘hyfforddiant’ a ‘chynulleidfaoedd’. Gall aelodau wneud cais i’r canlynol:

Os ydych yn chwilio am gyllid ar gyfer gweithgarwch na fedrwn ei ariannu, gwelwch ein hadnodd codi arian ar gyfer dolenni allanol.

Rydym hefyd yn cynnig digwyddiadau rhwydweithio, cyrsiau hyfforddi, cymorth marchnata, a newyddion ffilm.

^
CY