Anim18 at Chapter, Cardiff
Fforwm Ffilm

Rydyn ni’n creu amser i siarad am ffilmiau!

Rydyn ni’n creu amser i siarad am ffilmiau! Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer ein cyfarfod rhaglennu chwarterol cyntaf. Byddwn yn trafod detholiad o’r ffilmiau Prydeinig annibynnol a ffilmiau rhyngwladol newydd gorau ac yn croesawu’r curadur Rachel Pronger fel ein gwesteiwr.

Dyma gyfle i ddarganfod argymhellion ffilm Rachel ar gyfer eich rhaglen (a hynny o’i thaith ddiweddar i Berlinale) a chael amser i sgwrsio gyda chyfoedion am y ffilmiau rydych chi’n edrych ymlaen at eu gweld a darganfod ffilmiau y byddech fel arall yn eu colli. Byddwn hefyd yn trafod sut i raglennu a marchnata’r ffilmiau.

Ein nod yw cynnal y sesiynau hyn bob chwarter, er mwyn eich cefnogi chi gyda datblygu cynulleidfa drwy gydol y flwyddyn. Mae croeso i arddangoswyr o bob math – byddwn yn archwilio’r ffordd orau o wneud y sesiynau’n ddefnyddiol i bawb.

Ynglŷn â Rachel
Mae Rachel Pronger yn guradur, ysgrifennwr ac ymgynghorydd rhaglen. Cychwynnodd ei gyrfa yn gweithio ym maes cyfathrebu i Ŵyl Ffilmiau Llundain y BFI, Picturehouse Cinemas a Chanolfan Ffilm yr Alban, cyn symud i faes rhaglennu yn Alchemy Film & Arts, Tyneside Cinema, Sheffield DocFest ac Aesthetica Short Film Festival. Fel cyd-sylfaenydd cymundod ffilm ffeminist Invisible Women, mae Rachel wedi cyd-guradu rhaglenni a chynnal digwyddiadau ar gyfer partneriaid megis BFI Southbank, Cinema Rediscovered, Eye Filmmuseum Amsterdam, BalkanCanKino Athens, HOME Manceinion a Glasgow Film Theatre. Mae ei gwaith ysgrifenedig am ffilm wedi cael ei gyhoeddi gan gwmnïau megis Sight & Sound, The Guardian, MUBI Notebook, Little White Lies a BBC Culture. Mae hi hefyd yn rheolaidd yn cadeirio sesiynau holi ac ateb, paneli a gweithdai sy’n ffocysu ar ffeministiaeth, archifo a hanes ffilm.

Pryd:

  • Dydd Iau 30 Mawrth 2023, 10am-12pm

Ble:

  • Ar-lein (Zoom)

Archebwch eich lle yma.

Mae hwn yn ddigwyddiad ecsgliwsif ar gyfer aelodau Canolfan Ffilm Cymru. Os nag ydych chi’n aelod, gallwch ymuno yma.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi!

Darllen rhagor
Hub Helo event montage
Hub Helo | Y Gelli Gandryll

Ymunwch â ni yn y Gelli, wrth i ni ddod ynghyd, fel bob blwyddyn. Cymerwch amser i adlewyrchu, cwrdd â chydweithwyr o bob cwr o Gymru a dod o hyd i ysbrydoliaeth o brosiectau 2022 drwy sesiynau rhyngweithio bychain. Byddwn hefyd yn rhoi diweddariad ar gronfeydd y ganolfan ar gyfer 2023.

Bydd y sesiynau hanner awr o hyd yn trafod pob math o themâu. O sut aeth Cinema Golau ati i ddatblygu digwyddiadau gŵyl Windrush newydd gyda Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Casnewydd, i raglen sinema F/fyddar y Magic Lantern a ‘Re-gathering’ – dangosiadau ffilm lleol yng Nglan yr Afon, Caerdydd gan Gentle/Radical.

Pryd:

  • Dydd Iau 23ain Mawrth 2023 - 10am - 4.30pm

Ble:

Gwyddwn mor anodd gall fod i fynychu digwyddiadau ar draws Cymru. Rydyn ni’n trefnu’r digwyddiad blynyddol hwn yn y Canolbarth gyda’r nod o gefnogi digwyddiadau ledled Cymru. Mae’r orsaf agosaf yn Henffordd, sydd 21 milltir i ffwrdd. Rydyn ni’n annog pobl i ystyried eu hallyriadau carbon a rhannu ceir lle’n bosib, neu drefnu trafnidiaeth ar y cyd o orsaf Henffordd.

Archebwch eich lle yma.

*Mae hwn yn ddigwyddiad ecsgliwsif ar gyfer aelodau Canolfan Ffilm Cymru ac aelodau o Ganolfannau Ffilm ledled y DU. Os nag ydych chi’n aelod, you can join here.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi!

Cefnogaeth Bwrsari ac Aelodaeth

  • Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys i gefnogaeth bwrsari. Gall CFfC dalu costau trafnidiaeth a llety er mwyn i aelodau fynychu. Cwblhewch ffurflen yma..
Darllen rhagor
^
CY