Mae Pot Cynigion CAFf yn estyniad o’r prif CAFf. Cronfa dreigl gyda throsiant cyflym ar gyfer grantiau o £500 neu lai, gyda’r nod o gefnogi arddangoswyr ffilmiau annibynnol wrth iddyn nhw ailddechrau rhaglenni datblygu cynulleidfa yn dilyn Covid-19.
Os ydych yn ystyried digwyddiad untro neu gyfres fer o ddangosiadau, llanwch y Ffurflen Gais Potyn Cynnig Cronfa Arddangos Ffilmiau ac fe fyddwn yn cysylltu gyda chi cyn gynted â phosibl.
Caiff digwyddiadau ar-lein a hybrid eu hystyried os oes gwerth datblygu cynulleidfa ond caiff digwyddiadau mewn lleoliadau eu blaenoriaethu.