Brides
Dyddiad Rhyddhau: Gwanwyn 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Catryn Ramasut, Alice Lusher (cyd-gynhyrchwyr), ie ie Productions (cwmni cynhyrchu). Ariannwyd gan Gronfa Datblygu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales, drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol..
Crynodeb: Nid yw Doe, merch dawel a gwyliadwrus, wedi bod i unrhyw le ers cyrraedd y DU fel ffoadur tair oed o Somalia. Mae Muna, merch eofn o etifeddiaeth Pacistanaidd, yn arweinydd naturiol. Wrth iddi dywys Doe drwy ardal diogelwch y maes awyr, mae’r merched yn gyffrous ac yn hysterig, ond mae eu hwyliau’n newid wrth glywed manylion ei hediad yn cael eu cyhoeddi. Nid gwyliau yw pwrpas taith y merched, ond mynd i Istanbul, i gyfarfod dieithriad a fydd yn mynd â nhw ymlaen at y ffin i gychwyn bywyd newydd yn Syria. Pan nad yw’r dieithryn yn ymddangos, mae angen iddynt ffurfio cynllun newydd i barhau â’u taith heb gymorth, gan brofi eu gwytnwch, eu ffydd a’u cyfeillgarwch.
Satu – Year of the Rabbit
Dyddiad Rhyddhau: Mawrth 2025
Cysylltiadau Cymreig: Joshua Trigg (cyfarwyddwr, ysgrifennwr)
Crynodeb: Pan mae bom yn peryglu teml Pha Tang, mae Satu, plentyn amddifad a llafuriwr, yn penderfynu mynd i ogledd ei wlad – drwy dirwedd gyfoethog a gwyllt Laos – i chwilio am ei fam goll, gyda’i ffrind newydd, y ffoto-ohebydd, Bo.
Cymru Anabl
Dyddiad Rhyddhau: Gwanwyn 2025
Cysylltiadau Cymreig: Amrywiol
Roedd Cymru Anabl yn brosiect blwyddyn o hyd gyda ffocws ar wella hygyrchedd casgliadau ffilm a fideo Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â gwella’r gynrychiolaeth o wneuthurwyr ffilmiau anabl a Byddar o fewn y casgliadau. Fe gyflwynwyd y prosiect mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru, TAPE a Hijinx, gyda chefnogaeth gan gronfeydd Loteri Genedlaethol y BFI. Bydd pecyn o ffilmiau byrion sy’n cynnwys teitlau megis Blue Kenny ar gael i ganolfannau eu dangos, gydag isdeitlau disgrifiadol a sain ddisgrifiad.
Oed yr Addewid
Dyddiad Rhyddhau: 2000 (sgan newydd Gwanwyn 2025, dyddiad i’w gadarnhau)
Cysylltiadau Cymreig: Emlyn Williams (ysgrifennwr/cyfarwyddwr), Stewart Jones, Arwel Gruffydd, Gwenno Elis Hodgkins, Gwyn Vaughan (cast), Alun Ffred Jones (cynhyrchydd)
Crynodeb: Ym 1997, mae William Davies (Stewart Jones) yn cerdded o’i dŷ un bore, gyda’r nod o dorri’r system wleidyddol, yn dilyn 18 mlynedd o lywodraeth y Torïaid. Wrth i ddiwrnod yr etholiad agosáu, mae William a’i deulu yn dysgu ambell i wirionedd am ei gilydd a’u teimladau tuag at eu cartref. Mae’r ffilm hon sydd wedi ennill gwobr BAFTA, yr un mor berthnasol heddiw, bron i 25 mlynedd yn ddiweddarach, yn y ffordd y mae hi’n archwilio dadrithiad gwleidyddol, gofal cymdeithasol a heneiddio.
Protein
Dyddiad Rhyddhau: Gwanwyn 2025
Cysylltiadau Cymreig: Craig Russell (cynhyrchydd, cast), Tom Gripper, Dan Bailey (cynhyrchwyr), Kezia Burrows, Charles Dale, Richard Mylan, Kai Owen, Steven Meo (cast)
Crynodeb: Mae llofrudd cyfresol sydd ag obsesiwn â’r gampfa, yn lladd ac yn bwyta deliwr cyffuriau lleol am ei brotein. Wrth wneud hyn mae’n tanio rhyfel lleol ffyrnig a gwaedlyd ar ei filltir sgwâr, rhwng gangiau cyffuriau gwrthwynebol.
H is for Hawk
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: John Giwa-Amu (cynhyrchydd), Caerdydd, Cymru (lleoliad ffilmio). Ariannwyd gan Gymru Greadigol, gyda chefnogaeth gan Ffilm Cymru Wales.
Crynodeb: Gan groniclo stori wir Helen Macdonald (Claire Foy), sy’n colli ei thad, ffoto-ohebydd uchel ei barch (Brendan Gleeson), i drawiad ar y galon, mae’r ffilm hon yn gweld Helen yn dod o hyd i gysur annisgwyl yng nghwmni gwalch gogleddol ystyfnig o’r enw Mabel. Yr her o hyfforddi gwalch glas ifanc fydd ei golau arweiniol drwy’r broses alaru ac mae ei chwlwm unigryw â Mabel yn ei hailgyflwyno i harddwch bywyd a byd natur.
Hamnet
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Cymru (lleoliad ffilmio)
Crynodeb: Dyma stori Agnes – gwraig William Shakespeare – sy’n ymdrechu i ddod i delerau gyda marwolaeth ei hunig fab, Hamnet. Stori ddirdynnol a theimladwy sy’n gefndir i greadigaeth drama enwocaf Shakespeare, Hamlet.
Havoc
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Gareth Evans (cyfarwyddwr / ysgrifennwr / cynhyrchydd), Ed Talfan (cynhyrchydd), Richard Harrington (cast)
Crynodeb: Mae’r stori wedi’i gosod ar ôl i ddêl gyffuriau fynd o’i le, pan fydd yn rhaid i dditectif dan ei glwyfau frwydro ei ffordd trwy isfyd troseddol i achub mab gwleidydd sydd wedi ymddieithrio. Wrth wneud hyn mae’n datrys gwe ddofn o lygredd a chynllwyn sy’n swyno ei ddinas gyfan.
Madfabulous
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Celyn Jones (cyfarwyddwr), Callum Scott Howells (cast), Mad as Birds (cwmni cynhyrchu). Ariannwyd gan Gronfa Datblygu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales, drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol..
Crynodeb: Pan fydd Henry Cyril Paget yn etifeddu ffortiwn enfawr, mae ei ffordd o fyw afradlon a’i ymddygiad ecsentrig yn arwain at adfail ariannol, a’i farwolaeth yn Ffrainc yn 29 oed, yn dlotyn ar ôl gwastraffu ei gyfoeth aruthrol.
Mr Burton
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Marc Evans (cyfarwyddwr), Aimee-Ffion Edwards, Aneurin Barnard (cast), Ed Talfan and Hannah Thomas (cynhyrchwyr, Severn Screen). Ariannwyd gan BBC Cymru Wales a Chronfa Datblygu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales, drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol..
Crynodeb: Mae Richard yn breuddwydio am fod yn actor, ond mae ei uchelgais mewn perygl o gael ei daflu i’r neilltu gan gyfuniad o anghydfod teuluol, pwysau rhyfel a’i ddiffyg disgyblaeth. Mae Mr Burton yn cydnabod talent pur ei ddisgybl, ac yn ei gwneud yn genhadaeth i ymladd drosto, gan ddod yn diwtor iddo, yn dasgfeistr llym ac yn y pen draw yn dad mabwysiadol iddo.
The Man in My Basement
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: John Giwa-Amu (cynhyrchydd). Ariannwyd gan Gronfa Datblygu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales, drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol..
Crynodeb: Mae Charles Blakey, dyn Affricanaidd-Americanaidd sy’n byw yn Sag Harbor, yn sownd mewn rhigol, mewn twll ariannol ac ar fin colli hen gartref ei deulu pan mae dyn busnes gwyn od gydag acen Ewropeaidd yn cynnig rhentu islawr ei dŷ am yr haf.
The Scurry
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Craig Roberts (cyfarwyddwr), Cliff Edge Pictures (cwmni cynhyrchu), Rhys Ifans (cast)
Crynodeb: Mae The Scurry yn dilyn dau swyddog difa pla sy’n cael eu galw i gaffi eco mewn parc eco i archwilio problem rheoli fermin sydd yn ymddangos yn ddigon cyffredin. Wrth iddi nosi, mae llif o wiwerod gwallgof yn cyrraedd, i ddial a chreu anrhefn pur i staff ac ymwelwyr y parc. Gyda nifer o bobl yn marw, mae goroeswyr yn llochesu yn y caffi wrth i storm bwerus ddiffodd eu pŵer a’u hunig ffordd o gyfathrebu, gan eu gadael yn ynysig a dan ymosodiad.
Uncle
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Adam Partridge (cynhyrchydd), Morfydd Clark (cast). Ariannwyd gan Gronfa Datblygu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales, drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol..
Crynodeb: Ar ôl llofruddiaeth greulon eu teulu, mae Millie, sydd prin yn ei harddegau, a'i hewythr John yn cychwyn ar genhadaeth greulon o ddial. Ond wrth iddyn nhw nesáu at y bobl sy’n gyfrifol, mae’n rhaid i Millie benderfynu a yw hi’n barod i ddilyn llwybr gwaedlyd dial… a’r daith dreisgar, gynamserol i fyd oedolion.
The Walk
Dyddiad Rhyddhau: 2025
Cysylltiadau Cymreig: Harri Grace (cynhyrchydd), Caryl Lewis (cynhyrchydd cyswllt)
Crynodeb: Mae The Walk yn seiliedig ar ymdrech artistig ryfeddol yn 2021 a welodd byped 3.5m o daldra o’r enw Amal yn teithio o’r ffin â Syria, yr holl ffordd ar draws Ewrop. Mae’r ffilm yn dilyn taith Amal wrth iddi chwilio am ddiogelwch a man lle mae’n teimlo bod croeso iddi. Mae The Walk yn cymysgu rhaglen ddogfen vérité ag elfennau lled-sgriptiedig rhyfeddol i greu stori dylwyth teg i oedolion, gan archwilio’r atgofion, breuddwydion ac ofnau sy’n rhan o brofiad y ffoadur.
Out There
Dyddiad Rhyddhau: 2025
Cysylltiadau Cymreig: Aneurin Barnard, Iwan Rheon, Michael Sheen (cast), Katie Dolan (cynhyrchydd)
Crynodeb: Ar ôl i Maz, sy’n 16 oed, sy’n frwd dros seryddiaeth, weld UFO uwchben ei thref glan môr yng Nghymru, mae’n ymuno â’i ffrind gorau amheugar a damcaniaethwr cynllwynio alltud i lansio ymchwiliad a fydd yn peryglu ei pherthnasoedd a’i bywyd. Yn llawn drama deimladwy a throeon digrif, mae Out There yn ffilm dwymgalon am gred, canfod ystyr a dod i delerau â cholled.
Mission
Dyddiad Rhyddhau: 2025
Cysylltiadau Cymreig: Lowri Roberts (cynhyrchydd), Maisie Williams (cynhyrchydd cyswllt)
Crynodeb: Mae Mission yn archwiliad pync o’r seice sy’n dilyn yr ynysig Dylan (George MacKay) wrth iddo daflu hualau ei fywyd unig i ffwrdd mewn ymgais i brofi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bodolaeth ar ei eithaf, gan gychwyn ar daith wefreiddiol o ddarganfod ei hun. Darganfyddiad sy'n ysbrydoledig ac yn arswydus ar yr un pryd.
Learning to Breathe Underwater
Dyddiad Rhyddhau: 2025
Cysylltiadau Cymreig: Nan Davies (cynhyrchydd)
Crynodeb: Gan gyd-gynhyrchwyr y llwyddiant diweddar Kneecapmae’r ffilm yn dilyn bachgen wyth oed (newydd-ddyfodiad Ezra Carlisle) wrth iddo lywio bywyd ar ôl marwolaeth ei fam tra bod ei dad yn troi rhwng creadigrwydd manig a phryder gwanychol. Mae dyfodiad ‘au pair’ o Fwlgaria (a chwaraeir gan Maria Bakalova) yn dod â newidiadau annisgwyl i'r cartref.
My Extinction
Dyddiad Rhyddhau: 2025
Cysylltiadau Cymreig: Rob Alexander (cynhyrchydd)
Crynodeb: Mae'r ffilm ddogfen hon yn dilyn yr actor/awdur anabl David Proud. Mae e wedi dyheu am deulu erioed – ond mae’r technegau ffrwythlondeb sydd eu hangen arno wedi’u cynllunio i greu “plant iach” a diystyru pobl anabl fel ef.