Cymerwch amser i fyfyrio, cwrdd â chydweithwyr o bob cwr o Gymru a dod o hyd i ysbrydoliaeth ym mhrosiectau eich gilydd drwy sesiynau rhyngweithiol byr. Byddwn hefyd yn rhoi diweddariad ar gronfeydd Hyb ar gyfer 2026.
Bydd y sesiynau’n trafod ystod eang o bynciau megis ymgysylltu cymunedol, technegau marchnata, mewnosod rhaglen clwb ffilmiau, dod o hyd i gynulleidfa ar gyfer ffilmiau Cymreig a llawer mwy. Manylion llawn i’w cadarnhau.
Byddwn hefyd yn cloi’r diwrnod gyda dangosiad arbennig o ffilm Gymreig y mae cyffro mawr amdani…
Gallwch gyrraedd Pontypridd ar drên, fws neu mewn car. Os fyddwch yn teithio mewn car, rydym yn annog pobl i ystyried eu hallyriadau carbon ac i rannu cerbydau lle fo’n bosib ac / neu ystyried gwrthbwyso carbon.
Mae hwn yn ddigwyddiad ecsgliwsif ar gyfer aelodau Canolfan Ffilm Cymru. Os nag ydych chi’n aelod, gallwch ymuno yma.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld!
Cefnogaeth Bwrsari ac Aelodaeth