Ymchwil Sinema Wledig (CFfC)

Yn 2013, comisiynodd Canolfan Ffilm Cymru Jim Barratt o Bigger Picture Research i ymchwilio i’r ffordd orau i’r Ganolfan gefnogi gweithredwyr cymunedol gwledig a llai i ddatblygu a ffynnu ledled Cymru.


  • Nododd yr ymchwil 70 o arddangoswyr cymunedol ledled Cymru mewn lleoliadau gwledig neu led-wledig. Roedd tua 50% o’r rhai a nodwyd yn anhysbys i Canolfan Ffilm Cymru, gan ganiatáu inni adeiladu gwell darlun o ddarpariaeth wledig yng Nghymru.
  • Cyflwynodd yr adroddiad 13 o argymhellion yn seiliedig ar yr anghenion cymorth a’r gwasanaethau presennol yn y sector ffilm gymunedol, gan gynnwys cyfleoedd cyllido cyfredol, a fydd yn galluogi’r Ganolfan i ddarparu cyngor mwy cynhwysfawr i ymarferwyr newydd a phresennol.
  • Bydd y Ganolfan yn ystyried pob un o’r argymhellion, gan alluogi ymarferwyr a all fod yn rhan-amser neu’n wirfoddol i gysylltu ag ystod o gronfeydd a gweithgareddau na fyddent o bosibl yn eu cyrchu (hy gan eu Awdurdodau Lleol, cefnogaeth ledled y DU sydd ar gael gan y BFFS ( sydd newydd ei enwi, Cinema for All) a Chronfa Lleoliadau Cymunedol y BFI, a hefyd cyfleoedd cymorth ac ariannu Ewropeaidd posib).

Cyflwynwyd yr adroddiad terfynol gan Jim Barratt yn Niwrnodau Sgrinio Ffilm Cymru / ICO Cymru a gynhaliwyd yn Chapter ar benwythnos 6-7 Gorffennaf 2014.

Lawrlwythwch yr adroddiad terfynol

^
CY