Cardiff Animation Festival yn cynnal digwyddiadau ar-lein yn ystod cyfyngiadau symud.

Efallai bod cyfyngiadau symud wedi gorfodi gohirio Cardiff Animation Festival 2020 yn y cnawd ond mae’r tîm wedi bod yn brysur tu ôl i’r llenni. Er cyflwyno cyfyngiadau symud mae’r tîm wedi bod wrthi fel lladd nadredd yn symud digwyddiadau i YouTube Live, Slack a Zoom i ddiddanu cynulleidfaoedd a chdaw animeiddwyr mewn cysylltiad wrth gadw pellter cymdeithasol. Nawr mae gan Cardiff Animation Festival bedwar digwyddiad newydd ar gyfer ffans animeiddio ym mhob cwr o’r byd – dosbarth meistr ar-lein gyda Chyfarwyddwr Animeiddio Cartoon Saloon Lorraine Lordan, gweithdy ar-lein gyda’r animeiddiwr o Gymru Kyle Legall, a chyfle i weld rhai o’r ffilmiau annibynol o bedwar ban ar cyfer teuluoedd ac oedolion wedi’i ffrydio dros y we.

Bydd Cardiff Animation Nights, noswaith rad ac am ddim o ffilmiau byr bob deufis, yn dychwelyd i YouTube Live am yr eildro ar ddydd Iau 30 Ebrill am 8.15pm, gydag 11 animeiddiad gwych arall. Pan aeth y tîm â Cardiff Animation Nights ar-lein am y tro cyntaf yn gynharach yn y mis ymunodd rhyw dair gwaith yn fwy o bobl nag arfer - dros 500 o bobl o bob cwr o’r byd - i wylio ffilmiau byr gyda’i gilydd, ar wahân.

Ar fore sadwrn gall y plant anghofio am y cartŵns arferol a mwynhau awr o animeiddio anibynnol i’r teulu cyfan. Bydd Cardiff Animation Kids yn ffrydio’n fyw ar ddydd Sadwrn 2 Mai am 10.30am, gan gynnwys dangosiad ar-lein cyntaf o ffilm stop-motion anibynnol Sum of its Parts wedi’i chyfarwyddo gan Alisa Stern.

Ar brynhawn dydd Sadwrn 2 Mai am 4pm, bydd y Cyfarwyddwr Animeiddio Lorraine Lordan yn ymuno â Cardiff Animation Festival yn fyw o Iwerddon mewn dosbarth meistr i roi o’i phrofiad helaeth yn y byd animeiddio rhyngwladol, wedi’i gyflwyno ar y cyd â ScreenSkills. Mae Lorraine wedi treulio mwyafrif ei gyrfa gyda’r stiwdio Wyddelig enwog Cartoon Saloon, gan gynnwys fel Goruchwylydd Animeiddio ar y gyfres deledu a enwbwyd am wobr Annie Puffin Rock, Goruchwylydd Animeiddio Cyfres ar The Breadwinner a enwbwyd am Oscar, ac fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar ffilm hir newydd Puffin Rock. Mae ei gyrfa wedi mynd â hi i bob cwr o’r byd i stiwdios yn Cechia, yr Almaen, Kuala Lumpur, Malaysia, Cambodia a’r DU. bydd Lorraine yn trafod bywyd dan gyfyngiadau symud, sut mae wedi llwyddo i gynhyrchu ffilm fer tra’n arwain gwaith ar ffilmiau hir, ac yn rhannu’r hyn mae wedi dysgu yn ystod ei gyrfa drawiadol.

Gall animeiddwyr newydd neu unrhyw un sydd angen ymarfer ymuno â gweithdy dylunio cymeriadau ar-lein gyda’r animeiddiwr a’r artist amlgyfrwng o Gymru, Kyle Legall ar ddydd Mawrth 5mai am 6pm, wedi’i gyflwyno ar y cyd â Cinema Golau. Dechreuodd Kyle ei yrfa’n gwneud ffilmiau animeiddio byr am hanes pobl dduon a’i filltir sgwâr yn Butetown, Caerdydd, gan gyfarwyddo, dylunio ac animeiddio ffilmiau byr ar gyfer Channel 4 ac S4C. Wedi gweithio mewn amryw gyfryngau gan gynnwys gair llafar, cerddoriaeth fyw, celfyddyd berfformio, graffiti a dylunio dillad, mae’r Kyle amryddawn yn dychwelyd at animeiddio. Bydd cyfle i animeiddwyr sy’n dechrau ar eu taith fraslunio wrth i Kyle roi cyngor ar ddefnyddio dylunio cymeriadau i gyfleu emosiwn.

Noddir Cardiff Animation Festival gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales, a Canolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa’r BFI Film (FAN), BFI NETWORK Wales, ac Ymddiried drwy Gronfa Ysgoloriaeth Owen Edwards, gyda nawdd ychwanegol gan Cloth Cat Animation, Picl Animation, Creative Europe Desk UK – Cymru, Prifysgol De Cyrmu, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Jammy Custard Animation, Gwobrau Animeiddio Prydain, S4C a Chronfa Sgiliau Animeiddio ScreenSkills gyda chyfraniadau gan gynyrchiadau animeiddio o’r DU.

Am y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch Cardiff Animation Festival ar Twitter, Facebook FAN BFI a Instagram a chofrestru i dderbyn ein cylchlythyr e-bost.

^
CY