Datganiad i’r Cyfryngau:
Mae Canolfan Ffilm Cymru yn dyfarnu £52,000 mewn cronfeydd Covid-19 i sinemau a gwyliau yng Nghymru.
Mae lleoliadau ffilm yn rhoi llesiant ar y blaen yn eu rhaglenni ailagor ôl Covid-19.
Mae Canolfan FfIlm Cymru wedi dyfarnu £52,000 mewn cyllid Loteri Cenedlaethol, drwy Gronfa Arddangos FAN BFI, i 15 o sinema annibynnol a gwyliau ffilm wrth iddyn nhw gynllunio i ailagor.
Defnyddir yr arian i gynorthwyo adferiad, gan alluogi lleoliadau i ailddechrau dangos ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, yn cynnwys drwy seddi ar steil cabaret a ‘swigod sgrin fawr’, er mwyn iddyn nhw allu ailgysylltu gyda’r cymunedau mwyaf ynysig yng Nghyrmu sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyfnod clo.
Cynhelir gweithgareddau ffilm gan gadw pellter cymdeithasol ar draws Cymru, gan greu gofod diogel lle gall pobl barhau i deithio’r byd drwy gyfrwng y sgrin fawr, am brisiau fforddiadwy. Fe fydd cynulleidfaoedd ar flaen y broses o wneud penderfyniadau, gyda’u hadborth yn cael ei werthfawrogi gan leoliadau wrth iddyn nhw ailadeiladu.
Er enghraifft, mae TAPE yn Hen Golwyn yn ailgychwyn Sinema Soffa ac fe fydd yn dangos Sanctuary mewn partneriaeth gydag asiantaeth paru lleol newydd i bobl gydag anableddau dysgu, Yn y Barri, fe fydd Canolfan Gelfyddydau’r Memo yn creu gweithgareddau ‘Swigen Sgrin Fawr’ gyda chrefftau digidol a chludo ymaith, ac yn y Magig Lantern, Tywyn, fe fyddan nhw’n ‘ailgynnau’r lantern hud’ gan osod y sinema fel goleudy dewr, eofn ar gyfer y dyfodol.
Ers cychwyn y pandemig mae nifer o safleoedd wedi methu agor eu dryau i’r cyhoedd. Gyda’r dyfodol yn parhau’n ansicr, maen nhw wedi bod yn gweithio i amrywio eu model busnes, datblygu gweithdrefnau iechyd a diogelwch cadarn a sicrhau ffynonellau incwm amgen holl bwysig.
Mae Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru yn esbonio:
Mae angen inni gydnabod effaith sinemau yn ein cymunedau a’r golled potensial y bydd pawb ohonom yn ei wynebu os ydyn nhwn cau oherwydd y pandemig. O Neuadd Ogwen, oedd yn darparu bwyd i 600 o bobl drwy ei fanc bwyd, i’r Magic Lantern a Theatr Gwaun oedd yn darparu cyflenwadau meddygol a chefnogaeth iechyd meddwl i ddefnyddwyr bregus, mae lleoliadau annibynnol wedi mynd yr ail filltir i helpu’r rhai sydd fwyaf mewn angen. Maen nhw weid gwneud hyn ac ar yr un pryd yn cynllunio ar gyfer eu dyfodol ansicr eu hunain, archwilio eu cynlluniau busnes, adolygu eu dulliau mynediad a chydraddoldeb, edrych ar gynaliadwyedd amgylcheddol. Fe fydd y cronfeydd yma yn eu helpu i ailgychwyn darpariaeth cymdeithasol, economaidd a diwylliannol holl bwysig drwy weithgareddau ar y sgrin.
Annie Grundy, Cyd-gyfarwyddwraig The Magic Lantern:
Mae’r arian yma yn ein galluogi i lapio pelen fawr o wlan cotwm o amgylch ffilmiau Prydeinig, annibynnol ac ieithoedd tramor yn ein rhaglen yr oeddem yn yr hen ddyddiau cyn coronafeirws roeddem wedi eu tanysgrifio inni ein hunain. Mae’n sicrhau y gall ein cynulleidfaoedd, hyd yn oed gyda chapasiti llawer llai (36 o seddi yn lle 280 oherwydd rheolau cadw pellter) ddod i wylio cymysegdd eclectig o ffilmiau gwych ar y sgrin yn y Magic Lantern.
Ychwanega Sue Whitbread, Prif Swyddog Gweithredol Theatr Gwaun:
Mae cefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru yn golygu ein bod yn gallu mynd ymlaen gyda’n strategaeth ffilm newydd. Fe fydd Theatr Gwaun nawr yn canolbwynto ar ffilmiau amrywiol, annibynnol gan adfywio diddordeb a datblygu cynulleidfaoedd newydd yn ein cymuned. Mae cyllid yn hanfodol, a hefyd y cyngor a’r mentora arbenigol.
Mae Blanche Giacci yn byw ychydig strydoedd i ffwrdd o Theatr Gwaun ac ar gyfnod normal fe fyddai'n mynychu dangosiad o leiaf unwaith yr wythnos:
Mae Theatr Gwaun yn rhan hanfodol o'n cymuned, yn darparu sinema, diwylliant ac adloniant i bob grwp oedran a diddordeb. Mae'n ganolfan gymdeithasol sydd yn gwella llesiant y gymuned.
Dywed Ben Luxford, Pennaeth Cynulleidfaoedd DU yn BFI:
Mae eleni wedi dangos pwysigrwydd ac angen rhaglennu y tu hwnt i'r prif ffrwd, ac rydym yn falch o allu cefngi arddangoswyr yng Nghymru i barhau i wneud hynny.
Mae’r gronfa arddangos ffilm (BFI) drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae’r gronfa yn cynnig cymorth hanfodol a pharhad busnes i arddangoswyr ar draws y DU gyfan. Gweinyddir y cronfeydd yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm.
Diwedd
Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma
O'r chwith i'r dde: Galeri Caernarfon, Memo Arts Centre Barry © Jon Pountney, Theatr Gwaun, The Magic Lantern © Mathieu Gasquet, WOW Women’s Film Club © Jon Pountney, Wicked Wales Tir Morfa Awards, Memo Arts Centre Barry WAM © Jon Pountney, Monmouth Savoy © David Broadbent