Mae ieithoedd yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau beunyddiol pobl, nid yn unig fel offeryn ar gyfer cyfathrebu, addysg, integreiddio a datblygu cymdeithasol ond hefyd fel ystorfa ar gyfer hunaniaeth unigryw, hanes diwylliannol, traddodiadau a’r cof pob unigolyn. Er gwaethaf eu gwerth aruthrol, mae ieithoedd ledled y byd yn parhau i ddiflannu ar raddfa frawychus.
Gyda hyn mewn golwg, cyhoeddodd y cenhedloedd Unedig 2019 yn Flwyddyn yr ieithoedd brodorol (IY2019) er mwyn codi ymwybyddiaeth i’r rhai sy’n siarad yr ieithoedd ond hefyd i eraill werthfawrogi’r cyfraniad pwysig a wnânt i hanes diwylliannol cyfoethog ein byd.
I ddathlu IYIL2019, rydyn ni wedi llunio rhestr o ffilmiau sy’n ceisio codi proffil rhyngwladol yr iaith Gymraeg ynghyd ag ieithoedd rhai o’r cymunedau rhyngwladol mwyaf sy’n ffurfio ein cynulleidfaoedd yng Nghymru.
Read our IYIL2019 pack to find out about available support.