BETH YW BLWYDDYN Y MÔR?
Efallai eich bod wedi gweld ein bod yn dathlu Blwyddyn y Môr yng Nghymru yn ystod 2018, gyda Blwyddyn Darganfod ar y gorwel ar gyfer 2019. Mae Visit Wales yn ein gwahodd i archwilio arfordir rhagorol ein gwlad, gan wahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epig newydd o amgylch ein glannau, gyda digwyddiadau ac atyniadau arbennig trwy gydol y flwyddyn.
Mae Blwyddyn y Môr yn cyflwyno cyfle arbennig inni hyrwyddo Cymru i’r byd fel cyrchfan arfordirol yr 21ain Ganrif, o lannau llyn i lannau afonydd, baeau a thraethau. Tra maeAdrift a On Chesil Beach taro’r sgrin fawr, rydyn ni wedi treillio trwy restr o ffilmiau maint y môr i ddod â rhai o’n ffefrynnau ar thema’r môr i chi, o’r cyfoes, i’r cwlt a pheidio ag anghofio’r gorau o sinema Cymru.
Darllenwch ein canllaw rhaglennu a digwyddiadau llawn i ddod o hyd i’n rhestr o ffilmiau a ffyrdd o gynnal digwyddiadau gweithgaredd ychwanegol.