Rwyf yn Wneuthurwr Ffilm/Dosbarthwr, sut all canolfan ffilm cymru fy helpu?

Lawrlwythwch y ddalen cefnogaeth i Wneuthurwyr Ffilmiau/Dosbarthwyr i ddysgu rhagor...

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 300 o arddangoswyr Cymreig, ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU.

Rydym yn un o wyth o ‘hybiau’ ledled y DU a ariennir gan Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) i ffurfio’r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), gyda Chapter yn Sefydliad Arweiniol y Ganolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru. Fe welwch hybiau eraill yn Llundain, Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, y De Orllewin, yr Alban, y Gogledd a’r De Ddwyrain, yr ydym hefyd yn gweithio gyda nhw ar fentrau ffilm ledled y DU.

Ers 2013 rydyn ni wedi cefnogi dros 310 o brosiectau sinema cyffrous, including Anim18, Roald Dahl on Film y Queer Film Network UK, reaching over 560,000 audience members.

Roeddem hefyd yn falch o arwain strategaeth Sinema Cynhwysol y DU ar ran FAN BFI 2017-23.

I ddarllen mwy am ein gwaith hyd yma, gweler ein huchafbwyntiau yma.

Rydyn ni i gyd am wylio, felly sut allwn ni helpu gwneuthurwyr ffilm? Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut rydyn ni’n cefnogi ffilm Gymraeg.

“Yr hyn mae’r ffilmiau yma ei angen ydy ymgysylltiad diwylliannol a gwelededd” - Gwneuthurwr ffilm

Yn CFC rydym yn dathlu ein hunaniaeth, iaith a diwylliant cenedlaethol trwy ein strategaeth Gwneud yng Nghymru.

Ers 2013 rydym wedi cefnogi arddangos 80 o ffilmiau Cymreig unigryw, 24 ohonyn nhw na fydden nhw wedi cael eu rhyddhau i theatrau fel arall. Rydym wedi buddsoddi dros £35,000 mewn prosiectau’n arddangos ffilmiau Cymreig (fel blwyddyn o ffilmiau Cymreig yn y Phoenix Ton Pentre) ac rydym wedi gwella cynulleidfaoedd ar gyfer teitlau ffilm Cymreig sydd wedi’u hunanddosbarthu o 23%.

Rydym yn gweithio gydag arddangoswyr ar y gweithgareddau ffilmiau Cymreig canlynol:

  • Welsh Film Preview Days sydd yn galluogi arddangoswyr i weld ffilmiau o flaen llaw, cefnogi rhaglennu a thrafodaethau ehangach (yn amodol i argaeledd cynnwys addas a digonol o fewn ffrâm amser ymarferol. Rydym wedi cynnal 15 diwrnod rhagddangos mewn 11 gwahanol lleoliad ar draws Cymru.

"Heb weld y ffilm yn y Diwrnod Rhagddangos mae’n debygol na fyddem wedi dangos y ffilm yma.” - Aelod o Ganolfan Ffilm Cymru

  • Rydym yn cynnig hystafell sgrinio ar-lein ar i aelodau’r Ganolfan lle mae modd iddyn nhw wylio dangoswyr ffilm Cymreig rhwng Dyddiau Rhagddangos,
  • Rydym yn anfon newyddlen rheolaidd yn cynnwys diweddariadau ar ffilmiau sy’n cael eu rhyddhau,
  • Rydym yn siarad ac yn rhannu gwybodaeth yn rheolaidd gyda dosbarthwyr, gwneuthurwyr ffilm a phartneriaid fel Ffilm Cymru Wales, INTO Film a Sgrin Cymru,
  • Rydym yn rhedeg Rhwydwaith Rhaglennwyr IfancBFI FAN, gyda 4 lleoliad yng Nghymru a llawer mwy ar draws y DU. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i gynulleidfaoedd ifanc roi adborth ar ffilmiau Cymreig,
  • Rydym yn cynnig adran Gwnaethpwyd yng Nghymru ar ein gwefan lle mae catalog o ffilmiau Cymreig wedi’u rhestru,
  • Rydym yn cynnig cymorth ariannol i arddangoswyr  i helpu i hyrwyddo ffilmiau wedi’u gwneud yng Nghymru, ffilmau Cymraeg a ffilmiau archif.

 

Ydych chi’n gallu helpu i gyllido fy ffilm?

Dydy Canolfan Ffilm Cymru ddim yn gallu cynnig cymorth ariannol ar gyfer cynhyrchu, datblygu na dosbarthu ffilmiau,yn cynnwys premieres ffilmiau. Gweler fanylion am bartneriaid defnyddiol eraill isod.

Fyddwch chi’n helpu i ddosbarthu fy ffilm?

Ni all Canolfan Ffilm Cymru weithredu fel dosbarthydd/archebwr oherwydd maint a chylch gwaith ein tîm. Unwaith y byddwn wedi hyrwyddo eich ffilm i arddangoswyr fe fyddwn yn eu hannog i archebu’n uniongyrchol trwy eich cyswllt archebu.

Ydych chi’n gallu rhoi manylion cyswllt sinemau Cymreig imi?

Rydym yn gweithio gyda rhwydwaith mawr iawn o sinemau ac am resymau diogelu data ni allwn ryddhau rhestrau cyswllt. Rydym yn hapus iawn i anfon gwybodaeth am eich ffilm ymlaen a’u hannog i gysylltu gyda chi.

Pryd ddylwn i anfon gwybodaeth am fy ffilm atoch?

Mae nifer o aelodau Canolfan Ffilm Cymru yn creu rhaglen dri mis o flaen llaw felly mae derbyn gwybodaeth mewn da bryd yn bwysig wrth gefnogi’r ffenestr theatr. Mae croeso i dameidiau o flaen llaw a nodyn i’r dyddiadur, hyd yn oed os ydy dyddiadau rhyddhau yn newid.

Un sgrin sydd gan y rhan fwyaf o sinemau yng Nghymru ac felly mae ffilmiau Cymreig yn rhannu gofod sgrin gyda theatrau, sinemau prif ffrwd a lleoliadau’n cael eu llogi’n allanol. Mae hyn yn rheswm da arall dros rannu gwybodaeth o flaen llaw.

Beth os nad wyf yn clywed oddi wrth y sinemau?

Mae yna alw am ffilmiau Cymreig gan arddangoswyr ond cofiwch mai dim ond un person sydd ganddyn nhw’n gweithio ar y rhaglen. Efallai bod y person yma’n Rheolwr/wraig Cyffredinol hefyd, yn Swyddog Marchnata ac yn weithredwr Blaen Tŷ ac mae rhaid i rai ymateb i gannoedd o geisiadau ar gyfer archebion ffilm bob mis. Byddwch yn amyneddgar os nad ydyn nhw’n ymateb ar unwaith.

Ydw i’n gallu dod yn aelod o Ganolfan Ffilm Cymru?

Sefydlwyd Canolfan Ffilm Cymru i gefnogi’r sector arddangos ffilmiau yng Nghymru. Mae ein haelodaeth a’n cymorth ariannol yn agored i sinemau, canolfannau celf, lleoliadau cymunedol, cymdeithasau a chyrff eraill sydd yn dangos ffilmiau i gynulleidfaoedd. Os ydych yn wneuthurwr ffilm, yn ddosbarthydd neu yn ymarferydd ffilm arall, dydych chi ddim yn gymwys i fod yn aelod o Ganolfan Ffilm Cymru ond rydym bob amser yn hapus i drafod sut y gallwn helpu.

Ai dim ond ffilmiau newydd ydych chi’n eu cefnogi?

Rydym yn annog aelodau i archebu ffilmiau Cymreig, ffilmiau byr ac archif ar draws y degawdau! Mae ein catalog Gwnaethpwyd yng Nghymru  yn cynnwys manylion archebu ar gyfer amrediad eang o ffimlimiau Cymreig ac rydym yn rheolaidd yn cefnogi aelodau gyda thymhorau ffilmiau Cymreig.

Ydych chi’n gallu hyrwyddo cyllido torfol ar gyfer fy ffilm?

Ydym, os ydy’r ffilm o ddiddordeb i’n haelodau. Anfpnwch y manylion atom ac fe fyddwn yn eu rhannu ar draws ein rhwydwaith cymdeithasol

Os ydych yn gwneud, neu wedi gwneud ffilm Gymreig ac os hoffech inni ei hyrwyddo i dros 300 o arddangoswyr yng Nghymru (a thros 1,500 o aelodu BFI FAN DU gyfan, lle mae'n briodol yn y datganiad) llanwch y ffurflen yma:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses yma, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda: robfilmhubwales.org


Lawrlwythiadau:

  • Cefnogaeth i Wneuthurwyr Ffilmiau/Dosbarthwyr (PDF neu Word)

Cysylltiadau:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Ganolfan Ffilm Cymru cysylltwch gyda:

^
CY