Sinemau yn mynd i hudo cynulleidfaoedd y gaeaf hwn gydag Adfywiad Dewiniaeth ar y Sgrin

© Gwen (Bulldog Film Distribution), Annwn (Ffion Pritchard), I Am Not a Witch (BFI), Gwledd / The Feast (Picturehouse Entertainment)
Dydd Mawrth 24ain Hydref, 2022

Gyda chefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru fe fydd sinemau ar draws Cymru yn archwilio hud oesol Cymru ar sgrin y gaeaf yma gan gyflwyno hud, ysbrydion a chwedlau i gynulleidfaoedd Cymru, drwy dymor o ffilmiau a digwyddiadau am ddewiniaeth Cymru.

Fel rhan o'u 'Galwch Heibio Cymunedol' fe fydd Canolfan Gelfyddydau Wyeside yn cynnal dangosiad o Annwn ac yna trafodaeth Gwrachod Heddiw ar y Wrach Gymreig fodern. Gall cynulleidfaoedd alw heibio unwaith eto ar y 23ain ar gyfer recordiad o'r ail drafodaeth, dan arweiniad Off Y Grid, y cyfan am hanes ehangach menywod fel gwrachod yn y sinema.

Fe fydd Off Y Grid, rhwydwaith o saith o leoliadau ar draws gogledd Cymru (yn cynnwys Pontio) sydd yn cydweithio i gyflwyno‘r gorau o sinema annibynnol Prydeinig a rhyngwladol i gynulleidfaoedd Cymru, yn cynnal ail bodlediad byw am sinema arswyd a Gwrachod gyda dangosiad o ffilm arswyd arbrofol Gaspar Noe, Lux Aeterna.

Caiff y ddau ddigwyddiad eu recordio yn fyw ac ar gael i sinemau ar draws Cymru gyda chefnogaeth cyllid gan linyn Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru, sydd yn dathlu ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig. Gall cynulleidfaoedd fwynhau cyfres o ffilmiau ar thema gwrachod yn eu sinema leol, fel Gwledd, St Maud ac I am not a Witch, Rungano Nyoni sydd yn 5 oed ym mis Hydref.

Yng Nghymru cafodd pump o bobl eu lladd am ‘droseddau’ dewiniaeth. Gan dynnu ar wreiddiau Celtaidd a chysylltiadau dwfn gyda’r amgylchedd, roedd ‘defodau’, ‘gweddiau’, ‘bendithion’ ac arferion ysbrydol crefyddol heb fod yn Gristnogol yn gyfarwydd i’r Cymry oedd yn ymarfer dewiniaeth yn y cyfnod hwnnw, roedd yn hawdd gwahaniaethu gwir ddewiniaeth gyda’r cyhuddiadau. Yn y canrifoedd i ddilyn, roedd Cristnogaeth a deddfau llymach ynghylch siarad Cymraeg wedi rhoi pwysau ar genedlaethau i ildio rhagor o’u treftadaeth diwylliannol a diflannodd arferion dewiniaeth, yn araf.

Mae Radha Patel, Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru yn esbonio pam bod y Ganolfan yn annog cynulleidfaoedd i ddysgu am hanes dewiniaeth:  

“Heddiw, mae cenhedlaeth newydd o wrachod Cymreig ifanc yn ymddangos ac yn edrych eto ar eu harferion a’u treftadaeth diwylliannol. Fe wnaeth cysylltiad ysbrydol unigryw Cymru gyda’r tir, cymdeithas gymunedol a synnwyr cyffredin achub miloedd o fenywod rhag cael eu lladd oherwydd ofergoeliaeth. Yn y dyfodol pa adegau newid bywyd allai gael eu hysbrydoli gan yr adferiad newydd yma mewn ysbrydolrwydd Celtaidd? Credwn y gall ffilm ein helpu i archwilio ac ateb y cwestiynau hyn.”

Mae Emyr Williams, Cydlynydd Sinema yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio yn ychwanegu: 

''Dydy sinema arswyd ddim wedi ei fwriadu i chi ei wylio ar eich pen eich hun – mae profiad cymunedol o arswyd yn rhywbeth rydym yn ceisio ei gynnig i’n cynulleidfaoedd. Mae ein penwythnos ar thema Gwrachod yn Pontio yn rho[‘r cyfle inni ddangos ffilmiau arswyd gwych ac ymgysylltu yn uniongyrchol gyda diddordebau ein cynulleidfa, drwy recordio dau bodlediad dwyieithog gerbron cynulleidfa fyw. Rydym wedi gwahodd arbenigwyr i drafod Dewiniaeth yn ei holl ffurfiau, o gwestiynu cynrychiolaeth sinematig a stereoteipio rhyw i ailedrych ar fytholeg a hanes cymdeithasol Cymru yn ogystal â dychmygu sut mae Gwrachod yn addasu i’r oes ddigidol.''

Dywedodd Ffion Pritchard, Cyfarwyddwraig ‘Annwn’:  

Roedd “‘Gwrach’ ar un adeg yn ddedfryd o farwolaeth i fenywod y tu allan i’r normau cymdeithasol – menywod anabl, menywod sengl, menywod di-blant. Nawr mae cymaint ohonom yn troi at ein draddodiadau. Mae’r ffilmiau a’r sgyrsiau yma yn profi nad ydy’r profiadau yma yn brin ac yn rhan o fudiad ehangach o adennill benywdod a threftadaeth mewn cyd-destunau artistig ac ysbrydol mewn cyfnod diwylliannol cyffrous i Gymru. Mae’r straeon yma yn haeddu cael eu gweld a’u hadrodd o’r newydd. Mae mawredd gweledol yr hen chwedlau yn haeddu profiad sgrin fawr – lle gwell i ailddyfeisio hen chwedlau nag yn eich sinema leol?” 

Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn cynnig llu o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn mewn partneriaeth gydag arddangoswyr Cymreig, yn cynnwys catalog ffilmiau gyda 600 o ffilmiau byr a hir gyda chysylltiadau Cymreig.

Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn derbyn cyllid gan Creative Wales a chyllid y Loteri Cenedlaethol drwy Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI DU gyfan. Fel rhan o FAN, mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn. Gweninyddir cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm.  

Caiff dros £30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Genedlaethol. 

-DIWEDD-

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

 

Mae Dewiniaeth Cymreig yn dymor o ffilmiau, ffilmiau byr, animeiddiadau, ffilmiau dogfen ac archif am dreftadaeth ysbrydol unigryw Cymru ac arferion dewiniaeth. Gan ganolbwyntio ar safle menywod fel gwrachod mewn sinema ac edrych ar y bobl ifanc Cymreig sydd yn edrych eto ar eu harferion diwylliannol – pa adegau newid bywyd allai gael eu hysbrydoli gan yr adfywiad newydd yma mewn ysbrydoldeb Celtaidd a sut y gall ffilm ein helpu i archwilio hyn?

Gall sinemau wneud cais i Ganolfan Ffilm Cymru am gyllid i raglennu ffilmiau o’r tymor hwn a chael cefnogaeth ar gyfer eu dangosiadau. 

I ddarganfod rhagor cliciwch ar y dolenni iso: 

Dyma’r digwyddiadau sydd yn cael eu cynnal ar draws y tymor.

Pontio, Bangor (28 – 31 Hydref)

Sabbath Gwrachod – digwyddiad penwythnos cyfan gyda dangosiadau o ffilmiau arswyd Cymreig, clasuron rhyngwladol a Holi ac AtebA’s gyda siaradwyr gwadd am y ‘wrach fodern’ yn holi ‘ydy sinema arswyd yn rym positif neu negyddol i gynrychiolaeth menywod ar y sgrin?  

Gŵyl Ffilm SeeMôr Ynys Môn  (29 - 30 Hydref)

Fe fydd Canolfan Ucheldre yn dathlu Calan Gaeaf gyda gweithdy gwneud lantern a thaith tric neu trît ar ddydd Sadwrn ac yna dangosiad o Gwledd a St. Maud ar ddydd Sul.

Neuadd Dwyfor, Pwllheli  (21 Hydref – 3 Tachwedd)

Dangosiadau o Gwledd (The Feast), The Witches (1990) ac Annwn gyda recordiad o ‘Gwrachod Heddiw’ gyda Mari Elen Jones, Efa Lois a Ffion Pritchard. Cynhelir sesiynau crefft a stori gyda The Witches i blant ifanc dan arweiniad Mair Tomos Ifans, am wrachod lleol ym Mhwllheli.

Wicked Wales, Rhyl (20 Hydref- 23 Hydref)

Fel rhan o’u gŵyl ffilm flynyddol gall cynulleidfaoedd yn Rhyl fynychu gweithdy gwneud wandiau ac yna dangosiadau o Harry Potter, Annwn ac I am Not a Witch ar ddydd Sul y 23ain.

Chapter, Caerdydd (22 Hydref – 6 Tachwedd)

Ochr yn ochr gyda ‘In Dreams are Monsters’ BFI yn dangos ffilmiau am ‘esblygiad anghenfilod’ a’r ‘anghenfilod y tu mewn’ mae Chapter yn cynnal amrediad o ffilmiau yn archwilio Dewiniaeth Cymreig yn cynnwys Gwledd, The Witches, St Maud a Haxan sydd yn dadbacio myth y wrach fel offeryn gormes ledled Ewrop.

Wyeside, Llanfair ym Muallt 9 – 23 Tachwedd

Fel rhan o'u ''Galwch Heibio Cymunedol', Canolfan Gelfyddydau Wyeside yn cynnal dangosiadf Annwn followed by Gwrachod Heddiw’s discussion on the modern Welsh Witch. Audiences can stop by once again on the 23ydd for a recording of the second discussion, led by Off Y Grid, all about the wider history of women as Witches in cinema.

 

Dyddiadau yn amodol i newid – gweler gwefannau sinemau. Cyhoeddir rhagor o leoliadau a dyddiadau eto. 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda: 

Am Canolfan Ffilm Cymru: 

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 300 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 508,000 o aelodau cynulleidfa.

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.

Gwefan, Twitter, Facebook 

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI  

Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.  

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:  

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham 
  • Arweinir Canolfan Ffilm y Gogledd ar y cyd gan Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manchester  
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office  
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste 
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre  
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast  
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd 
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London 

Gwefan  

Am BFI  

Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy: 

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU 
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd 
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad 
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd 
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU 

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.  

Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.

Gwefan, Facebook, Twitter  

Am Chapter 

Chapter ydy un o ganolfannau celfyddydau mwyaf, a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemâu, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn a dros 60 gofod gweithio diwylliannol a mwy. Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd. 

Gwefan, Facebook, Twitter

Am Cymru Greadigol   

Mae Cymru Greadigol yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi datblygiad y diwydiant creadigol sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo twf ar draws y sectorau Sgrin, Digidol, Cerddoriaeth a Chyhoeddi, gan leoli Cymru fel un o'r lleoedd gorau yn y byd i fusnesau creadigol ffynnu.   

Gwefan, Twitter 

Darllenwch fwy am Gwnaethpwyd yng Nghymru a'r Stori Gyfan
^
CY