Digwyddiadau Sinemau cymunedol yn ailgysylltu cymunedau Cymreig yn dilyn Covid

10fed Tachwedd 2021

Mewn neuaddau pentref, llyfrgelloedd, canolfannau celfyddydau gwledig a gofod cymunedau trefol ar draws Cymru, mae digwyddiadau sinema cymunedol a gwirfoddol yn ailuno pobl leol yn ddiogel drwy brofiadau’r sgrin fawr.

Yn aml mae’r 120 a rhagor o grwpiau sinemau cymunedol yng Nghymru yn achubiaeth i gynulledifaoedd sydd yn gorfod teithio dros hanner awr yn y car, neu bellteroedd hirach ar drafnidiaeth cyhoeddus, i gyrraedd eu sinemau amlbleth neu ganolfan gelffyddydau lleol.  

I gefnogi’r gwasanaethau cymunedol hanfodol yma mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) yn gweithio gyda lleoliadau i gynnig cymorth rhaglennu a marchnata. Maen nhw hefyd wedi awarded a series of small grants dyfarnu cyfres o grantiau bychain drwy Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (FAN) gan ddyfarnu cyllid y Loteri Cenedlaethol i gymunedau cymunedol yng Nghymru a chymdeithasau ffilm wrth iddyn nhw ailagor yn dilyn COVID-19. 

Defnyddir yr arian i helpu i gylfwyno’r ffilmiau DU a rhyngwladol gorau i bobl leol, mewn sinemau cymunedol y maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru, gan gynnwys llu o ffilmiau o Gymru. Fe fydd arddangoswyr yn cefnogi llesiant ac yn lleihau ynysigrwydd a grewyd gan y pandemig, yn enwedig i aelodau hŷn cymunedau sydd wedi teimlo’n llai hyderus i ddychwelyd i ddigwyddiadau cyhoeddus. Bydd sinemâu cymunedol, a fydd hefyd yn cael eu heffeithio gan reoliadau pasio COVID newydd yng Nghymru, yr un mor ddibynnol ar gefnogaeth ac amynedd cynulleidfaoedd yn ystod y misoedd nesaf wrth iddynt ailadeiladu.

Ym mhentref Brynaman ar ochr ddeheuol y Mynydd Du, mae’r Sinema Neuadd Gyhoeddus yn rhedeg tymor o ffimliau Cymreig gan alluogi eu cynulleidfaoedd i gysylltu gyda’r straeon ar y sgrin.

Mae Tom Smith y Rheolwr Cyffredinol yn esbonio:

Mae ein sinema mewn ardal wledig incwm isel ac i fwyafrif ein cwsmeriaid dyma’r unig leoliad maen nhw’n gallu mynd iddo yn rheolaidd i gael adloniant. Rydym yn bwriadu dangos ffilmiau a ffilmiwyd neu a osodwyd yng Nghymru gyda straeon perthnasol sydd yn agos i gartref ac yn berthynol i’n cynulleidfa, yn enwedi ein grŵp teyrngar dros 60 oed sydd yn mynychu ein Cyflwyniadau Sgrin Arian. Rydym yn edrych ymlaen at gael cyflwyno ffilmiau annibynnol i’n holl gwsmeriaid sydd heb gael y cyfle efallai i weld ffilmiau annibynnol yn y sinema o’r blaen.

Yn Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin mae Sinema Sadwrn yn dangos ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol bob mis.

Dywedodd gwirfoddolwraig Sinema Sadwrn Mair Craig:

Rydym yn edrych ymlaen at ailagor, gyda chyfyngiadau COVID, fel bod pobl yn gallu dod at ei gilydd i fwynhau rhannu profiad. Rydym wedi’n lleoli mewn pentref gwledig yn Sir Gaerfyrddin ac rydym wedi colli digwyddiadau cymunedol dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf. Ystafell Ddarllen glyd ydy ein lleoliad ac mae ein dangosiadau yn ffordd o gyflwyno’r gymuned yn ddiogel yn ôl i ddigwyddiadau cymdeithasol rheolaidd. Rydym yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru.

Fe fydd digwyddiadau gyda chefnogaeth yn cael eu cynnal ar draws Cymru o nawr tan Mawrth 2022 wrth i’r sinemau weithio’n agos gyda’u cynulleidfaoedd i gasglu adborth ac addasu i anghenion lleol. Dywedodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru:

Mae lleoliadau heb fod yn theatrau sydd yn dangos o DVD neu Blu-Ray, lleoliadau llai mewn lleoliadau trefol wedi parhau ar gau am gyfnodau hir yn ystod COVID. Mae nifer yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr gweithgar ac heb gyllid na staff i barhau ar agor. Mae colled ar eu holau ac roeddem eisiau cefnogi a dathlu eu dychweliad. Maen nhw’n cynnig amrediad eang o ffilmiau na fyddai cynulleidfaoedd lleol yn gallu eu gweld fel arall ac maen nhw’n aml yn gartref i amrediad o wasanaethau cymunedol ychwanegol, hanfodol.

Mae Cronfa Arddangos Ffilmiau FAN BFI yn bosibl diolch i gyllid y Loteri Cenedlaethol gan Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (FAN. Mae’r gronfa yn cynnig cymorth i arddangoswyr ailagor ar draws y DU, i hybu rhaglennu diwylliannol ac i ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd amrywiol wrth i gyfyngiadau lacio. Gweinyddir y cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm.

Mae dros £30m yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU gan y Loteri Genedlaethol.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma.

-DIWEDD-

Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru

Sinema New Dot

Sinema gymunedol groesawgar yng nghanol Llangollen gyda’r nod o roi adloniant ac ysbrydoli cynulleidfaoedd ar draws Dyffryn Dyfrdwy wledig gyda detholiad o’r gorau o sinema Prydeinig, annibynnol, archif, dogfen, tŷ celf a byd. Maen nhw’n ailadeiladu yn dilyn y pandemig gyda chyfleoedd cymdeithasdol holl bwysig i’w grwpiau hŷn a gwefan mwy hygyrch i gefnogi prynu tocynnau ar-lein i’w haeloadau cynlluneidfa mwy bregus. Mae ffilmiau yn mynd i gynnwys drama deulu Koreaidd America Minari (2020) a ffilm annibynnol Gymreig La Cha Cha (2021).
Gwefan

Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru

Sinema Occasional
Cymdeithas ffilm ydy Sinema Occasional sydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr o’r Mill Bistro, Seiont, Caernarfon a lleoliad newydd yn dod yn fuan. Fel rheol caiff ffilmiau eu dangos yn fisol o Fedi i Mawrth gyda rhai digwyddiadau arbennig. Maen nhw’n bwriadu ail-lansio’r sinema ym mis Tachwedd gyda ffilmiau fel Honeyland (2019), Looking for Oum Kulthum (2019) a The Heiresses (2018).
Gwefan

Rhanbarth: Canolbarth Cymru

Sgrin Llanandras
Sinema gymunedol annibynnol sydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr sydd yn angerddol am ffilmiau. Maen nhw wedi bod yn dangos sinema byd-eang am dros 40 mlynedd ac wedi eu lleoli yn Ystafelloedd Ymgynnull Llanandras ym Mhowys. Mae eu tymor yr Hydref ar-lein nawr ac mae’n cynnwys Rocks (2020) a ffilm gyntaf mawr ei chanmoliaeth gan y gwneuthurwr ffilm Saenseg-Pacistani Aleem Khan, After Love (2020).
Gwefan  

Cymdeithas Ffilm Aberhonddu
Mae’r gymdeithas yn dangos 10 ffilm y flwyddyn ar ddydd Llun cyntaf bob mis o Fedi i Mehefin yng Brecon Coliseum. Gan fod Covid wedi amharu ar eu tymor ffilm yn 2020, maen nhw’n cynnig tair ffilm am ddim i aelodau’r gymdeithas yr hydref yma. Mae ffilmiau i ddod yn cynnwys The Toll (2021), Ida (2013) a Tove (2020), i gyd-fynd gyda Gŵyl Fenywod Aberhonddu (i’w gadarnhau). Maen nhw hefyd yn gobeithio dangos y clasur Cymraeg Coming Up Roses/ Rhosyn a Rhith yn y gwanwyn, gyda chyfweliad cyn y ffilm gyda’r prif actor Dafydd Hywel.
Gwefan

Flicks in the Sticks
Wrth i gangen sinema deithiol Arts Alive, Flicks fynd â ffilmiau sgrin fawr i gymunedau gwledig lle mae mynediad i’r sinema yn hynod o gyfngedig, mae Flicks yn cynnig ffilmiau gwych i gymunedau yn eu hardaloedd lleol am brisiau fforddiadwy ac mewn awyrgylch gyfeillgar a chyfarwydd.. Mae lleoliadau Cymreig sydd yn lansio eu rhaglenni ffilm yr Hydref yma yn cynnwys Sinema Gymunedol Knighton, Ystafell Ymgynnull y Drenewydd a Phafiliwn Canolbarth Cymru yn Llandrindod.

Fe fydd Flicks a Chanolfan Ffilm Cymru yn cydweithio i guradu dewis o ffilmiau Cymreig.
Gwefan

Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru

Sinema Gymunedol Llancarfan
Clwb ffilmiau gwirfoddol di-elw sydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ym mhentref Llancarfan a’r ardal gyfagos. Dangosiadau misol sydd yn cael eu rhedeg gan y gymuned., i’r gymuned,gan roi cyfle i bobl leol (ac unrhyw un arall sydd yn mynd heibio) i ddod at ei gilyddd a manteisio ar y gorau sydd gan sinema i’w gynnig. Fe fyddan nhw yn rhedeg dangosiadau ddwywaith y mis o Moviola.
Gwefan

Cinema & Co Abertawe
Tŷ ffilm unigrw gyda sinema 56 sedd a gofod oriel ar stryd fawr Abertawe. Cyfle i wylio ffilmiau gwych mewn cwmni da, yn aml yn dangos gwaith gwneuthurwyr ffilm ifanc, lleol ochr yn ochr gyda chynlluniau allgyrraedd creadigol amrywiol. Maen nhw’n cynllunio cyfres o ffilmiau Cymraeg mewn partneriaeth gyda Menter Iaith Abertawe, gyda’r bwriad o groesawu cynulleidfaoedd yn ôl gyda dathliad o ddiwylliant Cymraeg gyda sesiynau Holi ac Ateb, cerddoriaeth byw a vox pops.
Gwefan

Rhanbarth, De Orllewin Cymru

Sinema Sadwrn
Sinema gymunedol gwirfoddol ydy Sinema Sadwrn sydd yn dangos ffilmiau o ansawdd bob mis yn Ystafell Ddarllen Llansadwrn yn Sir Gaerfyrddin ac yn achlysurol yn y The Sexton Arms, Llansadwrn. Rhwng nawr a 31 Mawrth 2022 mae ganddyn nhw 4 ffilm annibynnol Brydeinig neu ryngwladol i’w dangos yn cynnwys Nomadland (2020) a ennillodd Oscar.
Gwefan

Cymdeithas Ffilm Abergwaun
Wedi ei sefydlu dros bum mlynedd ar hugain yn ôl, nod y gymdeithas ydy cynnig ffilmiau rhyngwladol a thŷ celf mewn amgylchedd braf. Maen nhw wedi eu lleoli yn Theatr Gwaun yng nghanol Sir Penfro wledig. Yn y tymor i ddod maen ganddyn nhw Minari (2020)a ennillodd Oscar, La Vérité (2019) a noson arbennig o ffilmiau byr yn dathlu Cyfarwyddwyr Prydeinig eiconig.
Gwefan

Rhanbarth: De Cymru

Neuadd Gyhoeddus Brynamman
Gyda’i wreiddiau yn yr 1920au a seddi sydd yn codi ac wedi’u gorchuddio mewn cordiroi aur hen, mae’r Neuadd yn cael ei rhedeg gan dîm brwdfrydig a phwyllgor o wirfoddolwyr. Gyda’u grwpiau sgrin arian dros 60 oed dan sylw, maen nhw’n cyflwyno cyfres o ffilmiau Cymreig i wneud i’w cynulleidfa deimlo’n gartrefol wrth iddyn nhw ddychwelyd. Mae ffilmiau yn cynnwys The Toll (2021) a Men Who Sing (2021) TBC.
Gwefan 

 

Silvia Sheehan,Swyddog Cyfathrebu ar 02920 311 057 / silvia@filmhubwales.org (rhan amser Mawrth-Iau)
Lisa Nesbitt, Swyddog Datblygu, ar 02920 311 067 / lisa@filmhubwales.org
Hana Lewis, Rheolwraig Strategol ar 02920 353 740 / hana@filmhubwales.org 

I weld rhestr lawn o sinemau cymunedol a chymdeithasau ffilm yng Nghymru, ewch i fap Aelodau Canolfan Ffilm Cymru yma .

Am Canolfan Ffilm Cymru: 

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 250 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 480,000 o aelodau cynulleidfa.

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o  Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), mae Chapter  wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Rydyn ni hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol DU ar ran FAN BFI. 

GwefanTwitterFacebook 

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI  

Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.  

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:  

  • Canolfan Ffilm y Midlands dan arweiniad Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth gyda Flatpack Birmingham 
  • Film Hub North dan gyd arweinyddiaeth Showroom Workstation, Sheffield, a HOME Manchester.  
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office  
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste 
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre  
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast  
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd 
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London 

Gwefan  

 

Am BFI  

Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy: 

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU 
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd 
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad 
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd 
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU 

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.  

Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.

GwefanFacebookTwitter 

Am Chapter 

Mae Chapter yn un o ganolfannau celfyddydau mwyaf a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn, dros 60 o ofod gweithio diwylliannol a rhagor. 

Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o’r perfformiadau, ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd. 

GwefanFacebookTwitter 

^
CY