Oed yr Addewid: Ynglŷn â Gwleidyddiaeth Dosbarth Gofal yng Nghymru

The Screen and Sound Archive of the National Library of Wales

Diffwys Criafol yw ffugenw awdur sy’n byw yng Nghaerdydd sydd â diddordeb mawr mewn dosbarth cymdeithasol. Mae’r themâu o amgylch ei gwaith fel arfer yn canolbwyntio ar y pwnc yma, fel arfer mewn perthynas â’i phrofiad bywyd ei hun. Gallwch ddod o hyd iddi ar Linktree / Instagram

Cyfieithwyd i’r Gymraeg gan Mair Lannen

"Mae [diwylliant Cymreig] yn ddiwylliant ôl-drefedigaethol, yn ymwybodol drwy’r amser o’i wendidau a photensial ei hun, yn ysu am fod yn ei hun, i ddod yn fyd ei hun, ond gyda llawer, llawer gormod ar ei gefn i allu wynebu ei ddyfodol go iawn yn gyson” - Daniel Williams ar waith Raymond Williams yn y cyflwyniad i 'Who Speaks for Wales' 2008.

Dyma ffilm sy’n wynebu nid yn unig stori un teulu ond y newid sydd wedi digwydd ar gyflymder syfrdanol yng Nghymru dros yr 20fed ganrif. Yn anesmwyth am y gorffennol, mewn penbleth yn y presennol ac yn edrych i’r dyfodol gyda llygedyn o obaith.

Oed yr Addewid - Alun and William
Oed yr Addewid – Alun a William

Fe ryddhawyd “Oed yr Addewid’” yn 2001 ond mae’r ffilm wedi’i gosod yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol y DU ym 1997 – gyda’r ffilm yn cyrraedd ei hanterth ar noson ganlyniadau’r etholiad pan enillodd y Blaid Lafur ‘newydd’ ar ôl 16 mlynedd o lywodraeth y Torïaid. Fodd bynnag, nid ffilm hanesyddol-wleidyddol yn unig mo hon, na chwaith ffilm am y problemau sy’n codi wrth heneiddio mewn cymdeithas sy’n gynyddol unigolyddol a neo-ryddfrydol. Mae’n mynd llawer dyfnach. Mae ei phortread o ddeinamig teulu yn cyffwrdd ar hanfodion ein seicoleg fel pobl a wladychwyd. Yn ymrafael rhwng ymdebygu er mwyn ymuno a chymryd rhan mewn system o greulondeb amhersonol a’r gwrth-frwydr i hyn – yr ysgogiad i gydio’n dynn yn ein diwylliant, iaith, dosbarth a lle.

I mi, mae’r cymeriadau’n alegori o densiynau a chyfeiriadau dosbarth o fewn cyd-destun y fro Gymraeg.Y Fro GymraegMae’n ymddangos bod gan William Davies, y Tad, afiechyd Alzheimer, ac mae angen gofal arno – ond pwy fydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb o’i ofal? Mae William Davies, cyn-chwarelwr a blaenor lBlaenoryn y capel , yn bortread clasurol o Gymro dosbarth gweithiol yr 20fed ganrif.

Mae’r gwrthdaro rhwng ei blant ar fater gofal William yn bersonoliad o densiwn dosbarth sy’n deillio o aelodau teulu’n symud i ddosbarth cymdeithasol gwahanol. Mae’r mab hynaf – John Meredydd – yn symud i fyny’n gymdeithasol, mae Maureen – mam sengl, yn symud i ddosbarth is. Tra bod Alun Cledwyn, y trydydd plentyn wedi cyrraedd croesffordd – yn ei chael hi’n anodd dal ymlaen i’r bywyd dosbarth canol y mae e wedi’i ddatblygu, tra’n delio a’i salwch cronig o orddibyniaeth ar alcohol.

Mae John Meredydd, sydd wedi pellhau’n gorfforol ac yn feddyliol o’i deulu er mwyn gwneud ei ffortiwn, bellach yn edrych i lawr ar ei deulu (dosbarth gweithiol) yn ddirmygus. Mae disgwyl i Maureen wneud gwaith gofal heb dâl tra’n magu tri o blant ac yn ceisio gweithio mewn dwy swydd. Mae Alun Cledwyn yn ymrafael rhwngY Fro Gymraega’r byd ehangach, ei uchelgais dosbarth canol yn mynd yn groes i’w gysylltiad â’i gartref a’i ‘etifeddiaeth’Mae tir, cymuned, iaith, teulu a Chymreictod ei hun yn cyfuno – ar un pwynt yn y ffilm, fe’i disgrifir fel rhaff am ei wddf. Dyma wrthddywediadau Cymreictod wedi eu distyllu i'w ffurf fwyaf eglur.

Mae’r ffilm hefyd yn dangos yn fedrus goblygiadau dynol preifateiddio gofal. Rydym yn gwylio polisïau’r wladwriaeth yn cipio urddas unigolion a’u teuluoedd yn ystod misoedd olaf eu bywyd.

Mae teitl y ffilm yma, “Oed yr Addewid” yn ddywediad Cymreig (ond yn gwreiddio o’r Beibl) sy’n golygu mai dim ond tan 70 oed sydd wedi’i addo i ni, mae popeth ar ôl 70 yn fonws yn ôl bob sôn! Mae’r ffilm yn agor gyda phen-blwydd William yn 70. Mae’n teimlo’n arwyddocaol i mi ers i’r ffilm ei rhyddhau am y tro cyntaf, bod y blynyddoedd gwerthfawr hyn o ymddeoliad cyn ‘oed yr addewid’ bellach yn cael eu treulio’n gweithio. Ers y Mileniwm, mae’r rhyfel dosbarth unochrog yn ein herbyn wedi ymlâdd. Bellach ni allwn edrych ymlaen at flynyddoedd o ymddeoliad – cyfle i orffwys a chael amser gyda’r teulu tra bod ein iechyd yn dda. Nawr, mae llawer o bobl (fy nhad yn un ohonynt) yn gweithio mewn swyddi sy’n gorfforol heriol ymhellach i’w 70au, tra’u bod yn deilio â nifer o gyflyrau iechyd.

Mae’r disgrifiadau o ddosbarth drwy gydol y ffilm yn hynod ystyrlon a chynnil. Teimlaf fod hwn yn arteffact diwylliannol prin sy’n llwyddo i anrhydeddu cymhlethdodau dosbarth o fewn cyd-destun siaradwyr Cymraeg. Mae’n teimlo’n ddiddorol iawn yn y dydd sydd ohoni, yn dilyn yr hyn sy’n ymddangos yn oes o galedi ariannol di-baid ers chwalfa ariannol 2008. Oes o galedi sydd wedi rhoi 22% o oedolion a thraean o blant mewn tlodi yng Nghymru,gyda llawer o’r tlodi yn effeithio ar y fro Gymraeg.

Dyma ffilm sy’n parhau’n berthnasol i’n bywydau cyfoes. Yr argyfyngau sy’n digwydd ar yr un pryd o fewn un teulu, eu perthynas â’i gilydd, a dewrder y ffilm i ymdrin â phynciau na fyddai llawer ohonom ni am eu hwynebu. Marwolaeth, gwallgofrwydd, dosbarth, hunaniaeth, a cholli ystyr. Dwyster ac ing cymunedau o siaradwyr Cymraeg. Gorddibyniaeth, rolau rhywedd, a’r ffordd yr ydym yn trin ein henoed – mae’r themâu hyn i gyd yn cael eu trafod yn y ffilm hon. Mae digon o bynciau heriol, ond i mi, fodd bynnag, mi roedd yn gathartig i’w gwylio.

Mae ymdeimlad o obaith cadarn yn rhedeg drwy’r ffilm, ynghyd â hiwmor tywyll a ffraethineb miniog dosbarth gweithiol yn y deialog sy’n helpu cario’r themâu dwys. Yn wir, dyma oedd un o’r ffilmiau gorau i mi ei gweld mewn amser hir iawn, mewn unrhyw iaith. Mae’n amserol ei rhyddhau nawr – mae angen i ni wynebu’r problemau sy’n cael eu trafod yn y ffilm ar lefel unigol ac fel cymunedau, yn awr yn fwy nag erioed.

Mae sgan newydd o Oed Yr Addewid yn dod i sinemâu yn 2025 o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Chanolfan Ffilm Cymru..

Fe gomisiynwyd yr erthygl yma gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o’n strategaeth Gwnaethpwyd yng Nghymru sy’n dathlu ffilmiau â chysylltiadau Cymreig, diolch i gyllid gan Gymru Greadigol a’r Loteri Genedlaethol drwy’r BFI.

It was first published in Buzz Magazine.

Darllenwch y PDF

^
CY
Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.