Am Canolfan Ffilm Cymru:
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn ariannu, hyfforddi ac yn cynghori sefydliadau sy'n dangos ffilmiau annibynnol o’r DU a ffilmiau rhyngwladol, o wyliau ffilm i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros Working with over 270 o arddangoswyr Cymreig, ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 380 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 717,500 o aelodau cynulleidfa.
Rydym yn rhan o rwydwaith ledled y DU o wyth canolfan a ariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy'r Sefydliad Ffilmiau Prydeinig (BFI) sy'n ffurfio'r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Rheolir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter. Rydyn ni hefyd yn arwain Gwnaethpwyd yng Nghymru, prosiect sy’n dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig, a gefnogir gan Gymru Greadigol. Rydym hefyd yn falch o fod wedi arwain ar strategaeth Sinema Gynhwysol DU ar ran BFI FAN 2017-23.
Ganolfan Ffilm Cymru: Gwefan, X (Twitter gant), Facebook, Instagram
Ynglŷn â Gwnaethpwyd yng Nghymru
Mae prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru (GYNg) Canolfan Ffilm Cymru yn dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig. Mae’n cynnig gweithgareddau ar hyd y flwyddyn mewn partneriaeth ag arddangoswyr yng Nghymru, gan gynnwys catalog ffilmiau, sy’n gartref i dros 1000 o ffilmiau hir a byr a phodlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru. Gall cynulleidfaoedd dderbyn y newyddion diweddaraf ynglŷn â ffilmiau Cymreig newydd a’r cyfweliadau diweddaraf drwy ddilyn Gwnaethpwyd Yng Nghymru ar Instagram, Facebook, TikTok, podlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru, YouTube a Letterboxd.
Mae GYNg yn bosib drwy gyllid Cymru Greadigol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (RhCFf) y BFI. Mae RhCFf y BFI yn cynnig cefnogaeth i arddangoswyr ledled y DU, er mwyn hybu rhaglennu diwylliannol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol. Yng Nghymru, arweinir y gweithgarwch gan Ganolfan Ffilm Cymru, dan reolaeth Chapter.
Gwnaethpwyd yng Nghymru Instagram, TikTok, Facebook, podlediad Made in Wales, YouTube, Letterboxd
Am Chapter
Mae Chapter yn lleoliad ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes, sydd â’i wreiddiau yng Nghaerdydd, Cymru. Cafodd ei sefydlu gan artistiaid yn 1971 i ddathlu arbrofi a meddwl radical, ac rydyn ni wedi bod yn sbardun ar gyfer creadigrwydd a meddwl beirniadol byth ers hynny.
Rydyn ni’n ganolfan ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno gwaith arloesol, difyr, o safon fyd-eang. Mae ein horiel yn comisiynu ac yn cynhyrchu arddangosfeydd o’r gwaith gorau ym maes celf genedlaethol a rhyngwladol. Mae ein gofodau theatr yn llwyfan ar gyfer dramâu, dawns, cerddoriaeth, celf fyw a llawer mwy sy’n arbrofol ac yn ysgogi’r meddwl. Mae ein sinemâu yn cynnig ffilmiau annibynnol a heriol, ochr yn ochr ag ystod o wyliau a digwyddiadau unigryw, ac rydyn ni’n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd, drwy Ganolfan Ffilm Cymru.
Ochr yn ochr â’n rhaglen graidd, rydyn ni hefyd yn gartref i fwy na 50 o artistiaid a chwmnïau creadigol sydd wedi’u lleoli yn ein stiwdios. O animeiddwyr a chwmnïau cynhyrchu ffilm sydd wedi ennill gwobrau, i artistiaid, dylunwyr a ffotograffwyr, ac i stiwdios fframio celf, printio, a recordio, mae ein cymuned greadigol wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.
Mae ein rhaglen a’n cymuned yn dod at ei gilydd yn ein caffi bar clodwiw sydd â lle i tua 120 o bobl eistedd, ac mae’n lle gwych i gwrdd â ffrindiau, i ganfod cornel dawel i wneud ychydig o waith oddi cartref, neu i gael tamaid o fwyd a diod ffres a lleol.
Y tu allan, rydyn ni’n falch o weithio gyda Garddwyr Cymunedol Treganna sy’n meithrin ein mannau gwyrdd ac yn rhannu eu gwybodaeth drwy waith allgymorth gydag ysgolion a’n cymunedau lleol. Maen nhw’n gofalu am ein gwenyn hyfryd hefyd!
Mae llawer o bobl yn ymweld â ni wrth fynd i ystod o ddosbarthiadau, gweithdai a digwyddiadau cyffrous sy’n cael eu cynnal gan wahanol fusnesau lleol bob dydd. Rhowch gynnig ar greu printiau, Lindy Hop, Tae Kwando, bale, tap, cerddoriaeth i fabanod, y gerddorfa ieuenctid, a llawer mwy, yn awyrgylch cynhwysol ein safle ymlaciol. Rydyn ni hefyd yn cynnig ystod o ofodau unigryw a rhesymol i’w llogi os ydych chi’n chwilio am safle ffilmio anarferol, lleoliad hygyrch ar gyfer cynhadledd neu gyfarfod, neu rywle i ddathlu achlysur arbennig.
Croeso i bawb!
Gwefan, Facebook, X (Twitter gant), Instagram