Effi o Blaenau: Goroesi, Hunaniaeth a Chost Bod yn Fenyw yn y Gymru Fodern

© MetFilm

This article was published in Buzz Magazine.

Mae Gemma June Howell yn awdur, golygydd ac yn adolygydd diwylliannol sy'n byw yn Abertawe. Hi yw awdur The Crazy Truth ac mae'n gweithio ym meysydd cyhoeddi, theatr a ffilm. Mae ei gwaith yn edrych ar ddosbarth a rhywedd yn y Gymru gyfoes. Darganfyddwch fwy ar ei gwefan yma.

Bydd Effi o Blaenau yn agor gyda synau fy ieuenctid, yn tyfu i fyny mewn ystâd dai a fu gynt yn ystâd dai i’r glowyr yn ne Cymru: beiciau, cŵn yn cyfarth, cerddoriaeth ddawns. Ond dyma Flaenau Ffestiniog, ardal y llechi, 'y dref a oedd yn toi'r byd,' a chymuned gyfartal wedi'i ffurfio gan ddiwydiant gwahanol ond wedi'i dylanwadu gan un etifeddiaeth o galedi, undod a dygnwch. Roedd fy nhad yn sefyll ar y llinellau piced yn Ffestiniog yn yr 80au ac mae'r ymdeimlad hwnnw o hunaniaeth dosbarth gweithiol yn parhau yno, fel y dywed Effi, "Blaenau Ffestiniog: lle anodd, pobl gref. Dim dewis mewn gwirionedd, suddo neu nofio."

Mae'r fersiwn ffilm hon o Iphigenia in Splott gan Gary Owen yn cynnig mewnwelediad newydd, wrth symud y stori o Gaerdydd ddinesig i ardal wledig ogledd Cymru. Yn Y Sblot, roedd y ddrama yn bortread ffyrnig o ddosbarth cymdeithasol a llymder.

Ym Mlaenau, mae'n cyflwyno safbwyntiau newydd ar bellter, unigedd a loteri cod post gofal iechyd. Mae hefyd yn arwyddocaol bod hon yn ffilm Gymraeg ei hiaith; dewis beiddgar sy'n cyflwyno ochr fwy amrwd a thywyll o Gymru wledig ddiwydiannol yn hytrach na chydymffurfio â delwedd ramantaidd How Green Was My Valley image.

Mae Effi yn amlwg yn cael ei chastio fel cymeriad 'chavette': yn gwisgo’i chot ‘puffer’, clustdlysau cylch mawr ac yn llawn dyfeisgarwch amrwd. Mae hi’n herfeiddiol ac yn ddisglair, yn erbyn cefndir llwm Cymru ôl-ddiwydiannol. Mae Leisa Gwenllian yn rhoi perfformiad syfrdanol, rhagorol ac mae gweld merched ifanc fel Effi ar y sgrin fawr yn rhoi cysur gwirioneddol. Mae hi'n ffrydiwr Gen Z, sy'n dogfennu popeth ar ei iPhone, gan gynnwys sgan uwchsain ei babi, ac eto mae hi'n cael ei dal ar yr un pryd mewn swigen o ‘r 1990au - hen soffas a chyfleoedd cyfyngedig. Mae'r byd wedi symud ymlaen, ond nid i fenywod ifanc fel Effi.

Mewn un olygfa wych, dywyll gomig, ar ôl darganfod ei bod hi'n feichiog, mae Effi yn croesi'r pentref, yn gwagio bag siopa o ddarnau arian ar gownter y siop ac yn mynnu, "Fodca os gwelwch yn dda." Mae'n bortread anghyfforddus o real o geisio fferru poen bodolaeth. Ond nid yw'r ffilm byth yn ei lleihau hi i’r pwynt ei bod hi’n rhoi gorau i bopeth. Na, mae Effi yn wyllt, yn fywiog ac yn ddigywilydd yn y ffordd orau bosibl! Fel Alma’s Not Normal a Rain Dogsmae'r ffilm hon yn gwrthod parchusrwydd, ond mae hi'n dal i gael ei beirniadu a'i hecsbloetio. Yn yr ysbyty, mae hi'n cael ei gwahaniaethu oherwydd nad oes ganddi ŵr, dim eiriolwr amlwg, dim asiantaeth, a dim pŵer cymdeithasol. Trwy gyfres o fethiannau a rhagfarnau systemig, mae'r sefydliad a grëwyd gan Gymro ar gyfer pobl fel hi yn ei methu. Mae hi'n cael ei rhoi ar ei phen ei hun mewn ward sy'n dal i gael ei adeiladu ac yna’n cael ei chludo mewn ambiwlans drwy storm eira, heb fydwraig. Mae gofal mamolaeth fel pwnc yn teimlo hyd yn oed yn fwy dwys mewn lleoliad gwledig, lle mae gwasanaethau'n cael eu hymestyn a lle mae'r gefnogaeth yn aml ymhellach i ffwrdd. Mae daearyddiaeth ei hun yn dod yn haen arall i'r frwydr.

Mae'r ffilm hefyd yn chwalu'r myth o'r ‘compo scrounger’ ac fel llawer o bobl dosbarth gweithiol, mae Effi yn derbyn nad oes ganddi lais, ac yn llyncu’r anghyfiawnder yn hytrach na ecsbloetio GIG sydd eisoes ar ei gliniau. Mae’r frawddeg "Llai o arian, llai o welyau... dyna sut mae hi," yn fyrdwn llym i'r Gymru fodern, gan ddangos y twll sydd rhwng egwyddorion sylfaenol y GIG a'r realiti rydyn ni'n ei wynebu heddiw.

Wrth wylio Effi, meddyliais ar unwaith am linell o fy nofel The Crazy Truth sy 'n taflu goleuni ar sefyllfa’r prif gymeriad Girlo fel awdur sy'n ei chael hi’n anodd bod yn awdur: 'It was not that she could not write, just that she was made to feel like she didn't have the right to.' Y drasiedi fan hyn yw nid methu mae’r menywod ifanc yma, ond yn hytrach maent wedi cael eu siapio mewn ffordd yn annheg gan gymdeithas sy'n eu dysgu i beidio â disgwyl gwell: peidio â disgwyl gofal, nac urddas, na hyd yn oed yr hawl i gael gwrandawiad. Yn hynny o beth, mae straeon fel hyn yn gwneud rhywbeth hanfodol: maent yn mynnu nad yw bywydau dosbarth gweithiol yn ymylol nac yn dafladwy; maent yn haeddu sylw a lle. Mae straeon fel hyn yn ein hatgoffa o ddiffygion dynoliaeth a bod pob bywyd yn haeddu cael ei glywed, ei weld a'i ofalu amdano.

Mae'r ffilm hon yn perthyn i draddodiad hanfodol o adrodd straeon sy'n ymgysylltu’n gymdeithasol, o Streetlife, Ms Rhymney Valley a Owen Sheers' To Provide All PeopleYn yr ystyr hwnnw, mae hefyd yn teimlo fel darn sy’n cyd-fynd â Nyeberfformiwyd gan Michael Sheen: ffilm sy’n ein hatgoffa pa mor werthfawr yw'r GIG ond ei fod cefnogaeth ac angen ei foderneiddio.

Er ei holl dor calon, mae hon yn ffilm obeithiol yn y pen draw. Ar adegau wrth edrych dros y llyn, mae Effi yn myfyrio ar y cyfle am ddyfodol gwahanol. Mae angen ffilmiau fel hyn ar Gymru: straeon sy'n dangos bywydau sy'n rhy aml yn cael eu hanwybyddu ac yn mynnu y gall goroesi fod yn fath o wrthwynebiad.

Bydd Effi o Blaenau yn dod i sinemâu ledled y DU o Fehefin 19, 2026, gyda'i première yng Nghymru yn Cellb  ar Fehefin 17.

The film has various connections to Wales including director Marc Evans, producer Branwen Cennard and a cast featuring Leisa Gwenllian, Tom Rhys Harries, Owen Alun, Nel Rhys Lewis, Mared Llywelyn and Sion Eifon. It was filmed in Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Port Talbot and was funded by Creative Wales and S4C.   

Mae gan y ffilm nifer o gysylltiadau â Chymru gan gynnwys y cyfarwyddwr Marc Evans, y cynhyrchydd Branwen Cennard a chast yn cynnwys Leisa Gwenllian, Tom Rhys Harries, Owen Alun, Nel Rhys Lewis, Mared Llywelyn a Sion Eifon. Cafodd ei ffilmio ym Mlaenau Ffestiniog, Caernarfon a Phort Talbot ac fe'i hariannwyd gan Gymru Greadigol ac S4C.

^
CY
Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.