Ffilmiau Cymreig i’w Gwylio yn 2025

15 Ionawr 2025

O fywyd gormodol Ardalydd ecsentrig o Ynys Môn i anturiaethau yn nhirwedd gyfoethog Laos, mae straeon eclectig gyda chysylltiadau Cymreig yn dod i’r sgrin fawr i ddiddanu cynulleidfaoedd yn 2025.

Dewch ar daith ledled Cymru a thu hwnt eleni, gyda straeon lleol a byd-eang sy’n dod i sinemâu. Mae gan bob un gysylltiadau Cymreig – o’r lleoliadau, i’r cast a thalent y tu ôl i’r camera. Bydd ffilm hir gyntaf Joshua Trigg, sy’n enedigol o Bowys, yn cael ei rhyddhau yn y gwanwyn: Bydd Satu – Year of the Rabbit yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith i Laos i ddilyn dau blentyn ar siwrnai drawiadol wrth iddynt ddod i oed a chanfod eu teuluoedd, cyfeillgarwch a phrydferthwch bywyd beunyddiol. Gyda’r premiere yn digwydd yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance 2025, bydd ffilm hir ddiweddaraf cwmni ie ie Productions, Brides, yn cyflwyno dwy ferch yn eu harddegau sy’n chwilio am ryddid, cyfeillgarwch a theimlad o berthyn pan fyddant yn dianc o’u bywydau yn y DU ac yn mynd ar drywydd peryglus i Syria.

Esbonia’r cynhyrchydd, Alice Lusher, sut y ffilmiwyd Brides yng Nghymru fel rhan o gydweithrediad rhyngwladol:

Roedd yn fraint o’r mwyaf i ni, dîm ieie productions gydweithio â’r cynhyrchwyr Nicky Bentham (Neon Films – DU) a Marica Stocchi (Rosamont – Yr Eidal) ar BRIDES, sef ffilm gyntaf y Cyfarwyddwr Nadia Fall a’r Ysgrifennwr Suhayla El-Bushra. Dyma gydweithrediad wirioneddol ryngwladol sy’n archwilio themâu byd-eang o hunaniaeth a pherthyn – a ffilmiwyd yng Nghymru, Twrci a Sisili. Fe gefnogodd y Cynhyrchwyr griwiau a busnesau lleol ym mhob gwlad, ac mae wedi bod yn bleser go iawn gweld gwaith a thalent anhygoel yn disgleirio drwy’r ffilm brydferth a phwysig hon. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r ffilm gyda’r byd.

Bydd y rheiny sy’n chwilio am wefr a drama ar ben eu digon eleni, gan fod gwledd o ffilmiau llawn drama, ffilmiau seicolegol a ffilmiau arswyd yn dod i sinemâu hefyd. Mae cynulleidfaoedd wedi bod yn aros yn eiddgar am Havoc gan y cyfarwyddwr o Gymru Gareth Evans (The Raid). Fe ffilmiwyd yng Nghymru, ac mae’n dilyn Tom Hardy a Forest Whitaker wrth iddynt ymladd eu ffordd trwy isfyd troseddol, gan ddatrys llygredd a chynllwyn ar hyd y ffordd. I ddilyn, daw’r ffilm ddirgel The Man in My Basement sy’n serennu Willem Dafoe, ac sy’n seiliedig ar nofel o’r un enw gan Walter Mosley. Fe’i ffilmiwyd yn Sir Gâr, gyda’r cynhyrchydd o Gymru, John Giwa-Amu, yn rhan o’r tîm. Mae disgwyliadau’n uchel hefyd ar gyfer The Scurry, gan y cyfarwyddwr o Gymru, Craig Roberts a Cliff Edge Pictures. Mae’n dilyn stori swreal dau swyddog difa pla sy’n dod ar draws pla o wiwerod gwallgof sy’n dial ar staff ac ymwelwyr ac yn creu anrhefn pur mewn parc gwlad eco.

John Giwa-Amu yn cynnig ei feddyliau ar The Man in My Basement a’i gysylltiadau â Chymru:

Mae wedi bod yn anrhydedd mawr i Good Gate ddod â darn mor eiconig o ddiwylliant Americanaidd i ffilmio yng Nghymru. Allwn ni ddim aros i gynulleidfaoedd weld y ffilm gyffro dywyll ac unigryw hon yn dod yn fyw.

Mae hefyd llu o ffilmiau sy’n gryf eu cysylltiadau â threftadaeth Cymru. Mae Canolfan Ffilm Cymru yn cydweithio ag Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn cyflwyno sgan newydd o’r ffilm Oed yr Addewid (2002) a enillodd wobr BAFTA. Mae’r ffilm sy’n gyflwyniad teimladwy o ddadrithiad gwleidyddol, gofal cymdeithasol a heneiddio hyd yn oed yn fwy perthnasol heddiw, 25 mlynedd ar ôl ei ryddhau. Bydd pecyn o ffilmiau byrion 90 munud o hyd hefyd ar gael o brosiect Cymru Anabl – prosiect blwyddyn o hyd yr Archif sy’n ffocysu ar wella hygyrchedd eu casgliadau ffilm a fideo, yn ogystal â gwella cynrychiolaeth o wneuthurwyr anabl a Byddar yn y casgliadau.

I’r rheiny sy’n hoff o fywgraffiadau, bydd straeon dau ffigwr eiconig o Gymru yn dod i sgriniau yn 2025. Mae ffilm newydd Mad as Birds, Madfabulous yn rhoi darlun o fywyd yr ecsentrig Henry Cyril Paget, sef 5ed Ardalydd Ynys Môn, ac yn serennu’r actor o Gymru Callum Scott Howells (It’s A Sin) ochr yn ochr â Rupert Everett a Siobhán McSweeney. Gan y cwmni cynhyrchu o Gymru, Severn Screen, a’r cyfarwyddwr Marc Evans, bydd Mr Burton yn dilyn stori bywyd cynnar yr actor Richard Burton, ac yn serennu talent o Gymru, Aneurin Barnard ac Aimee-Ffion Edwards, ochr yn ochr â Toby Jones a Lesley Manville. Cip olwg yn unig yw hyn o’r ffilmiau sydd i’w rhyddhau yn 2025, gyda llawer mwy i ddod.

Esbonia Toki Allison, Rheolwr Prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru sut mae prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi rhyddhau ffilmiau megis y rhain::

Nod Gwnaethpwyd yng Nghymru yw llenwi’r bwlch yn ecosystem y byd ffilmiau, gan greu pont rhwng gwneuthurwyr a dosbarthwyr ffilmiau, gan edrych ar sut mae’r ffilm yn cyrraedd cynulleidfaoedd. Gan gydweithio â sinemâu a gwyliau yng Nghymru, rydym yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig, gan sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael cyfle i weld y straeon hyn fel rhan o brofiad cyfunol arbennig mewn lleoliad sinema. Mae rhywbeth arbennig yn digwydd o ran adrodd straeon yng Nghymru, ac mae safbwynt unigryw sy’n haeddu cael ei weld a’i fuddsoddi ynddo. Mae Cymru yn nifer o bethau, ac rydyn ni’n benderfynol o ehangu ar y naratif hwn.

Dywedodd Joedi Langley, Pennaeth Dros Dro Cymru Greadigol:

Mae'n flwyddyn gyffrous ar gyfer ffilm, gyda llawer o deitlau disgwyliedig ar y ffordd. Mae Cymru Greadigol yn falch o fod wedi cefnogi sawl un o'r cynyrchiadau hyn, yn annibynnol a hefyd drwy'r Gronfa Cynhyrchu Ffilmiau Nodwedd trwy Ffilm Cymru – sydd ynddo'i hun wedi cyfrannu at sawl rhyddhad diweddar, gan gynnwys ‘Chuck Chuck Baby’, ‘The Almond and the Seahorse’ a ‘Timestalker’. Mae'r prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru yn tynnu sylw at ehangder y dalent ffilmio sydd gennym yma yng Nghymru, ac yn rhoi llwyfan pwysig i ffilmiau nodwedd newydd trwy godi eu proffil ymhlith cynulleidfaoedd ac yn dathlu cysylltiadau Cymreig pob un, ac mae'n brosiect yr ydym yn falch iawn o'i gefnogi. Rydyn yn edrych ymlaen at flwyddyn lwyddiannus yn 2025 ar gyfer y sector ffilm yng Nghymru.

Mae prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru (GYNg) Canolfan Ffilm Cymru yn dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig. Mae’n cynnig gweithgareddau ar hyd y flwyddyn mewn partneriaeth ag arddangoswyr yng Nghymru, gan gynnwys catalog ffilmiau, sy’n gartref i dros 1000 o ffilmiau hir a byr a phodlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru. Gall cynulleidfaoedd dderbyn y newyddion diweddaraf ynglŷn â ffilmiau Cymreig newydd a’r cyfweliadau diweddaraf drwy ddilyn Gwnaethpwyd Yng Nghymru ar Instagram, Facebook, TikTok, the podlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru, YouTube a Letterboxd.

Mae GYNg yn bosib drwy gyllid Cymru Greadigol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (RhCFf) y BFI. Mae RhCFf y BFI yn cynnig cefnogaeth i arddangoswyr ledled y DU, er mwyn hybu rhaglennu diwylliannol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol. Yng Nghymru, arweinir y gweithgarwch gan Ganolfan Ffilm Cymru, dan reolaeth Chapter.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

- DIWEDD -

Brides
Dyddiad Rhyddhau: Gwanwyn 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Catryn Ramasut, Alice Lusher (cyd-gynhyrchwyr), ie ie Productions (cwmni cynhyrchu). Ariannwyd gan Gronfa Datblygu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales, drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol..
Crynodeb: Nid yw Doe, merch dawel a gwyliadwrus, wedi bod i unrhyw le ers cyrraedd y DU fel ffoadur tair oed o Somalia. Mae Muna, merch eofn o etifeddiaeth Pacistanaidd, yn arweinydd naturiol. Wrth iddi dywys Doe drwy ardal diogelwch y maes awyr, mae’r merched yn gyffrous ac yn hysterig, ond mae eu hwyliau’n newid wrth glywed manylion ei hediad yn cael eu cyhoeddi. Nid gwyliau yw pwrpas taith y merched, ond mynd i Istanbul, i gyfarfod dieithriad a fydd yn mynd â nhw ymlaen at y ffin i gychwyn bywyd newydd yn Syria. Pan nad yw’r dieithryn yn ymddangos, mae angen iddynt ffurfio cynllun newydd i barhau â’u taith heb gymorth, gan brofi eu gwytnwch, eu ffydd a’u cyfeillgarwch.

Satu – Year of the Rabbit
Dyddiad Rhyddhau: Mawrth 2025
Cysylltiadau Cymreig: Joshua Trigg (cyfarwyddwr, ysgrifennwr)
Crynodeb: Pan mae bom yn peryglu teml Pha Tang, mae Satu, plentyn amddifad a llafuriwr, yn penderfynu mynd i ogledd ei wlad – drwy dirwedd gyfoethog a gwyllt Laos – i chwilio am ei fam goll, gyda’i ffrind newydd, y ffoto-ohebydd, Bo.

Cymru Anabl
Dyddiad Rhyddhau: Gwanwyn 2025
Cysylltiadau Cymreig: Amrywiol
Roedd Cymru Anabl yn brosiect blwyddyn o hyd gyda ffocws ar wella hygyrchedd casgliadau ffilm a fideo Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â gwella’r gynrychiolaeth o wneuthurwyr ffilmiau anabl a Byddar o fewn y casgliadau. Fe gyflwynwyd y prosiect mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru, TAPE a Hijinx, gyda chefnogaeth gan gronfeydd Loteri Genedlaethol y BFI. Bydd pecyn o ffilmiau byrion sy’n cynnwys teitlau megis Blue Kenny ar gael i ganolfannau eu dangos, gydag isdeitlau disgrifiadol a sain ddisgrifiad.

Oed yr Addewid
Dyddiad Rhyddhau: 2000 (sgan newydd Gwanwyn 2025, dyddiad i’w gadarnhau)
Cysylltiadau Cymreig: Emlyn Williams (ysgrifennwr/cyfarwyddwr), Stewart Jones, Arwel Gruffydd, Gwenno Elis Hodgkins, Gwyn Vaughan (cast), Alun Ffred Jones (cynhyrchydd)
Crynodeb: Ym 1997, mae William Davies (Stewart Jones) yn cerdded o’i dŷ un bore, gyda’r nod o dorri’r system wleidyddol, yn dilyn 18 mlynedd o lywodraeth y Torïaid. Wrth i ddiwrnod yr etholiad agosáu, mae William a’i deulu yn dysgu ambell i wirionedd am ei gilydd a’u teimladau tuag at eu cartref. Mae’r ffilm hon sydd wedi ennill gwobr BAFTA, yr un mor berthnasol heddiw, bron i 25 mlynedd yn ddiweddarach, yn y ffordd y mae hi’n archwilio dadrithiad gwleidyddol, gofal cymdeithasol a heneiddio.

Protein
Dyddiad Rhyddhau: Gwanwyn 2025
Cysylltiadau Cymreig: Craig Russell (cynhyrchydd, cast), Tom Gripper, Dan Bailey (cynhyrchwyr), Kezia Burrows, Charles Dale, Richard Mylan, Kai Owen, Steven Meo (cast)
Crynodeb: Mae llofrudd cyfresol sydd ag obsesiwn â’r gampfa, yn lladd ac yn bwyta deliwr cyffuriau lleol am ei brotein. Wrth wneud hyn mae’n tanio rhyfel lleol ffyrnig a gwaedlyd ar ei filltir sgwâr, rhwng gangiau cyffuriau gwrthwynebol.

H is for Hawk
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: John Giwa-Amu (cynhyrchydd), Caerdydd, Cymru (lleoliad ffilmio). Ariannwyd gan Gymru Greadigol, gyda chefnogaeth gan Ffilm Cymru Wales.
Crynodeb: Gan groniclo stori wir Helen Macdonald (Claire Foy), sy’n colli ei thad, ffoto-ohebydd uchel ei barch (Brendan Gleeson), i drawiad ar y galon, mae’r ffilm hon yn gweld Helen yn dod o hyd i gysur annisgwyl yng nghwmni gwalch gogleddol ystyfnig o’r enw Mabel. Yr her o hyfforddi gwalch glas ifanc fydd ei golau arweiniol drwy’r broses alaru ac mae ei chwlwm unigryw â Mabel yn ei hailgyflwyno i harddwch bywyd a byd natur.

Hamnet
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Cymru (lleoliad ffilmio)
Crynodeb: Dyma stori Agnes – gwraig William Shakespeare – sy’n ymdrechu i ddod i delerau gyda marwolaeth ei hunig fab, Hamnet. Stori ddirdynnol a theimladwy sy’n gefndir i greadigaeth drama enwocaf Shakespeare, Hamlet.

Havoc
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Gareth Evans (cyfarwyddwr / ysgrifennwr / cynhyrchydd), Ed Talfan (cynhyrchydd), Richard Harrington (cast)
Crynodeb: Mae’r stori wedi’i gosod ar ôl i ddêl gyffuriau fynd o’i le, pan fydd yn rhaid i dditectif dan ei glwyfau frwydro ei ffordd trwy isfyd troseddol i achub mab gwleidydd sydd wedi ymddieithrio. Wrth wneud hyn mae’n datrys gwe ddofn o lygredd a chynllwyn sy’n swyno ei ddinas gyfan.

Madfabulous
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Celyn Jones (cyfarwyddwr), Callum Scott Howells (cast), Mad as Birds (cwmni cynhyrchu). Ariannwyd gan Gronfa Datblygu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales, drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol..
Crynodeb: Pan fydd Henry Cyril Paget yn etifeddu ffortiwn enfawr, mae ei ffordd o fyw afradlon a’i ymddygiad ecsentrig yn arwain at adfail ariannol, a’i farwolaeth yn Ffrainc yn 29 oed, yn dlotyn ar ôl gwastraffu ei gyfoeth aruthrol.

Mr Burton
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Marc Evans (cyfarwyddwr), Aimee-Ffion Edwards, Aneurin Barnard (cast), Ed Talfan and Hannah Thomas (cynhyrchwyr, Severn Screen). Ariannwyd gan BBC Cymru Wales a Chronfa Datblygu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales, drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol..
Crynodeb: Mae Richard yn breuddwydio am fod yn actor, ond mae ei uchelgais mewn perygl o gael ei daflu i’r neilltu gan gyfuniad o anghydfod teuluol, pwysau rhyfel a’i ddiffyg disgyblaeth. Mae Mr Burton yn cydnabod talent pur ei ddisgybl, ac yn ei gwneud yn genhadaeth i ymladd drosto, gan ddod yn diwtor iddo, yn dasgfeistr llym ac yn y pen draw yn dad mabwysiadol iddo.

The Man in My Basement
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: John Giwa-Amu (cynhyrchydd). Ariannwyd gan Gronfa Datblygu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales, drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol..
Crynodeb: Mae Charles Blakey, dyn Affricanaidd-Americanaidd sy’n byw yn Sag Harbor, yn sownd mewn rhigol, mewn twll ariannol ac ar fin colli hen gartref ei deulu pan mae dyn busnes gwyn od gydag acen Ewropeaidd yn cynnig rhentu islawr ei dŷ am yr haf.

The Scurry
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Craig Roberts (cyfarwyddwr), Cliff Edge Pictures (cwmni cynhyrchu), Rhys Ifans (cast)
Crynodeb: Mae The Scurry yn dilyn dau swyddog difa pla sy’n cael eu galw i gaffi eco mewn parc eco i archwilio problem rheoli fermin sydd yn ymddangos yn ddigon cyffredin. Wrth iddi nosi, mae llif o wiwerod gwallgof yn cyrraedd, i ddial a chreu anrhefn pur i staff ac ymwelwyr y parc. Gyda nifer o bobl yn marw, mae goroeswyr yn llochesu yn y caffi wrth i storm bwerus ddiffodd eu pŵer a’u hunig ffordd o gyfathrebu, gan eu gadael yn ynysig a dan ymosodiad.

Uncle
Dyddiad Rhyddhau: 2025, dyddiad i’w gadarnhau
Cysylltiadau Cymreig: Adam Partridge (cynhyrchydd), Morfydd Clark (cast). Ariannwyd gan Gronfa Datblygu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales, drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol..
Crynodeb: Ar ôl llofruddiaeth greulon eu teulu, mae Millie, sydd prin yn ei harddegau, a'i hewythr John yn cychwyn ar genhadaeth greulon o ddial. Ond wrth iddyn nhw nesáu at y bobl sy’n gyfrifol, mae’n rhaid i Millie benderfynu a yw hi’n barod i ddilyn llwybr gwaedlyd dial… a’r daith dreisgar, gynamserol i fyd oedolion.

The Walk
Dyddiad Rhyddhau: 2025
Cysylltiadau Cymreig: Harri Grace (cynhyrchydd), Caryl Lewis (cynhyrchydd cyswllt)
Crynodeb: Mae The Walk yn seiliedig ar ymdrech artistig ryfeddol yn 2021 a welodd byped 3.5m o daldra o’r enw Amal yn teithio o’r ffin â Syria, yr holl ffordd ar draws Ewrop. Mae’r ffilm yn dilyn taith Amal wrth iddi chwilio am ddiogelwch a man lle mae’n teimlo bod croeso iddi. Mae The Walk yn cymysgu rhaglen ddogfen vérité ag elfennau lled-sgriptiedig rhyfeddol i greu stori dylwyth teg i oedolion, gan archwilio’r atgofion, breuddwydion ac ofnau sy’n rhan o brofiad y ffoadur.

Out There
Dyddiad Rhyddhau: 2025
Cysylltiadau Cymreig: Aneurin Barnard, Iwan Rheon, Michael Sheen (cast), Katie Dolan (cynhyrchydd)
Crynodeb: Ar ôl i Maz, sy’n 16 oed, sy’n frwd dros seryddiaeth, weld UFO uwchben ei thref glan môr yng Nghymru, mae’n ymuno â’i ffrind gorau amheugar a damcaniaethwr cynllwynio alltud i lansio ymchwiliad a fydd yn peryglu ei pherthnasoedd a’i bywyd. Yn llawn drama deimladwy a throeon digrif, mae Out There yn ffilm dwymgalon am gred, canfod ystyr a dod i delerau â cholled.

Mission
Dyddiad Rhyddhau: 2025
Cysylltiadau Cymreig: Lowri Roberts (cynhyrchydd), Maisie Williams (cynhyrchydd cyswllt)
Crynodeb: Mae Mission yn archwiliad pync o’r seice sy’n dilyn yr ynysig Dylan (George MacKay) wrth iddo daflu hualau ei fywyd unig i ffwrdd mewn ymgais i brofi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bodolaeth ar ei eithaf, gan gychwyn ar daith wefreiddiol o ddarganfod ei hun. Darganfyddiad sy'n ysbrydoledig ac yn arswydus ar yr un pryd.

Learning to Breathe Underwater
Dyddiad Rhyddhau: 2025
Cysylltiadau Cymreig: Nan Davies (cynhyrchydd)
Crynodeb: Gan gyd-gynhyrchwyr y llwyddiant diweddar Kneecapmae’r ffilm yn dilyn bachgen wyth oed (newydd-ddyfodiad Ezra Carlisle) wrth iddo lywio bywyd ar ôl marwolaeth ei fam tra bod ei dad yn troi rhwng creadigrwydd manig a phryder gwanychol. Mae dyfodiad ‘au pair’ o Fwlgaria (a chwaraeir gan Maria Bakalova) yn dod â newidiadau annisgwyl i'r cartref.

My Extinction
Dyddiad Rhyddhau: 2025
Cysylltiadau Cymreig: Rob Alexander (cynhyrchydd)
Crynodeb: Mae'r ffilm ddogfen hon yn dilyn yr actor/awdur anabl David Proud. Mae e wedi dyheu am deulu erioed – ond mae’r technegau ffrwythlondeb sydd eu hangen arno wedi’u cynllunio i greu “plant iach” a diystyru pobl anabl fel ef.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

About Film Hub Wales
Film Hub Wales (FHW) celebrates cinema. We support organisations that screen film, from film festivals, to societies and mixed arts centres. Working with over 300 Welsh exhibitors, we aim to bring the best UK and international film to all audiences across Wales and the UK. Since Film Hub Wales set up in 2013, we’ve supported over 347 exciting cinema projects, reaching over 589,000 audience members.

We’re part of a UK wide network of eight hubs which forms the British Film Institute (BFI) Film Audience Network (FAN), made possible thanks to National Lottery funding. Film Hub Wales is managed by Chapter. We also lead Made in Wales, a project celebrating films with Welsh connections. We were also proud to lead on the UK inclusive cinema strategy on behalf of BFI FAN 2017-23.
Film Hub Wales: Website, X (Formerly Twitter), Facebook, Instagram

Made in Wales: Instagram, TikTok, Facebook, Made in Wales podcast, YouTube, Letterboxd.

About the BFI Film Audience Network
Supported by National Lottery funding, the BFI Film Audience Network (FAN), is central to the BFI’s aim to ensure the greatest choice of film is available for everyone. Established in 2012 to build wider and more diverse UK cinema audiences for British and international film, FAN is a unique, UK-wide collaboration made up of eight Hubs managed by leading film organisations and venues strategically placed around the country. FAN also supports talent development with BFI NETWORK Talent Executives in each of the English Hubs, with a mission to discover and support talented writers, directors and producers at the start of their careers.

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
  • Arweinir Canolfan Ffilm y Gogledd ar y cyd gan Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manchester
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London

Gwefan

Am BFI
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy:

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.
Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI ydy Jay Hunt.
Gwefan, Facebook, X (Twitter gant)

About Chapter
Set up by artists in 1971, Chapter is an international centre for contemporary arts and culture. We are a hub for the production and presentation of world-class, inventive and compelling work. Our gallery commissions and produces exhibitions of the very best in national and international art. Our theatre spaces are a platform for experimental and thought-provoking work. Our cinemas offer independent and challenging films alongside a range of unique festivals and events, and we bring more films, to more people, in more places through Film Hub Wales.

Ochr yn ochr â’i rhaglen graidd, mae Chapter hefyd yn gartref i 56 o artistiaid a chwmnïau creadigol sy’n gweithio yn eu stiwdios. O animeiddwyr a chwmnïau cynhyrchu ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau, i artistiaid, dylunwyr a ffotograffwyr, yn ogystal â chwmni fframio celf, argraffwyr a stiwdios recordio. Mae’r gymuned greadigol wrth galon holl weithgarwch Chapter.

Daw’r rhaglen a’r gymuned ynghyd yn eu Caffi Bar sydd wedi ennill gwobrau. Gyda lle i hyd at 120 o bobl eistedd, mae’r caffi yn lle gwych i gyfarfod ffrindiau, darganfod lle tawel i weithio, neu i fwynhau diod neu damaid o fwyd blasus, ffres wedi’i baratoi â chynhwysion a brynwyd yn lleol, o fwydlen eang.
Gwefan, Facebook, X (Twitter gant), Instagram

Am Gymru Greadigol Mae Cymru Greadigol yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi datblygiad y diwydiant creadigol sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo twf ar draws y sectorau Sgrin, Digidol, Cerddoriaeth a Chyhoeddi, gan leoli Cymru fel un o'r lleoedd gorau yn y byd i fusnesau creadigol ffynnu.
Gwefan

^
CY