Beth sy ’mlaen yn Sinemâu Cymru: Ffilmiau fforddiadwy i Gymunedau ledled Cymru

© Ngŵyl Ffilmiau Arswyd Abertoir
23 Gorffennaf 2024

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) wedi rhoi dros £100,000 o gyllid Loteri Genedlaethol y BFI i 19 o sinemâu annibynnol a gwyliau ffilmiau yng Nghymru drwy ei Chronfa Arddangos Ffilm. 

Bydd yr arian yn galluogi cynulleidfaoedd yng Nghymru i wylio’r ffilmiau annibynnol diweddaraf o’r DU a ffilmiau rhyngwladol yn eu cymunedau lleol, am bris fforddiadwy. O ddangosiadau ymlaciedig, ffilmiau i’r teulu, llinynnau eco a’r ffilmiau Cymreig diweddaraf, mae digon o ddewis.  

Bydd cynulleidfaoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Ffestiniog yn cael gwylio’r ffilmiau mewn safleoedd sinema newydd a chyffrous. Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn lansio Prosiect Sinema Cwm Llynfi yn Neuadd y Dref Maesteg, yn dilyn adnewyddiad werth miliynau o bunnoedd. Yn Cellb, bydd ‘Sgrin Emyr Ankst’ yn agor er cof am Emyr Glyn Williams – arloeswr cerddoriaeth a sinema Gymreig – bydd ei gyfraniad yn parhau i ysbrydoli pobl ifanc Cymru am flynyddoedd lawer.  

Esbonia Rhys Roberts o Cellb bwysigrwydd eu sgrin newydd i’r gymuned: 

Mae Cellb wedi’i leoli yng nghanol tref Blaenau Ffestiniog, lleoliad mynyddig islaw chwareli Stiniog, gyda’i hanes cyfoethog yn niwydiant, treftadaeth a diwylliant. Dyma oedd lleoliad y ffilm gyntaf yn y Gymraeg, Y Chwarelwr, ffilm bwysig sy’n adlewyrchu bywydau’r chwarelwyr lleol yn y gymuned. Roedd diwylliant hanesyddol a’r Gymraeg yn holl bwysig i’w ddynameg gymdeithasol a diwylliannol.

Heddiw, teimlwn ei bod hi’n bwysig dathlu ac addysgu ein pobl ifanc am arwyr cyfoes fel Emyr, a gyda hyn ar flaen ein meddyliau yr ydym yn dymuno cyflwyno ein Sgrin 1 yn ei enw. Mae angen modelau rôl ar bobl ifanc – unigolion sydd wedi llewyrchu yn y celfyddydau a diwylliant, ac mae Emyr yn esiampl arbennig o fachgen ifanc a anelodd yn uchel a gafodd effaith enfawr ar ddiwylliant Cymreig. Mae hwn i ti, Emyr, rwyt ti wedi’n hysbrydoli ni ac fe gadwn dy fflam ynghyn i’r bobl am flynyddoedd i ddod. Diolch Emyr, Caru chdi.

Yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, maent yn adeiladu cysylltiadau gyda’u cynulleidfaoedd a’u partneriaid lleol, gan archwilio themâu byd-eang hunaniaeth groestoriadol, a hynny drwy eu rhaglen o ffilmiau. Maent yn agor yr adeilad i gymunedau newydd drwy ddathlu dyddiadau ymwybyddiaeth o bwys megis Hanes Mis Pobl Ddu, Mis Hanes LGBTQIA+ a Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau.

Esbonia Chelseyy Gillard, Cyfarwyddwr Artistig,Theatr y Torch:

Rydyn ni wrth ein boddau’n cydweithio â Chanolfan Ffilm Cymru i gyflwyno cyfres o dymhorau sinema sy’n dathlu, ar draws chwe mis. Bydd y cyllid yn ein caniatáu ni i adeiladu perthynas gyda’n cymunedau a darganfod beth mae pobl am ei weld yn eu sinema leol, gan lywio ein cynaliadwyedd tymor hir. Drwy gydweithio â phartneriaid ledled Cymru sy’n dod â chyfoeth o brofiadau bywyd, byddwn yn gallu dangos amrywiaeth fwy eang o ffilmiau a hwyluso digwyddiadau ar ôl y dangosiadau y gobeithiwn y bydd yn cefnogi trafodaeth, myfyrdod a chysylltiad.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae digwyddiadau dan arweiniad pobl ifanc yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin yn Abertawe a Theatr Gwaun, Abergwaun; dangos gwaith gwneuthurwyr ffilmiau niwrowahanol yng Ngŵyl Undod Hijinx a drwy linyn Lleisiau Gwahanol Gŵyl Animeiddio Caerdydd; yn ogystal â llinyn natur/ecoleg o fewn arswyd yng Ngŵyl Ffilmiau Arswyd Abertoir – megis parasitiaid ffiaidd go iawn a ‘natur yn ymladd yn ôl’.

Dywedodd Hana Lewis, Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru:   

Mae’r gronfa wedi’i chynllunio i helpu sinemâu, gwyliau a sgriniau cymunedol ddod â’r gorau o ffilmiau annibynnol y DU a ffilmiau rhyngwladol i gynulleidfaoedd Cymru, mewn ffyrdd fforddiadwy a hygyrch. Mae gymaint i edrych ymlaen ato eleni, a does dim posib i gymunedau gael yr un wefr o wylio ffilm gartref. Drwy fynd i’w sinema leol, maent yn rhan o rywbeth mwy yn eu cymuned, a gyda llu o weithgareddau eraill ar gael, mae cynulleidfaoedd yn cael noson mas am bris eu tocyn sinema.

Cefnogir y prosiectau gan Ganolfan Ffilm Cymru, sy’n rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), gan ddefnyddio cyllid gan y Loteri Genedlaethol i sicrhau bod y dewis gorau o sinema ar gael i bawb ledled y DU. Mae cronfeydd yng Nghymru’n cael eu gweinyddu gan GFfC drwy Chapter, fel Sefydliad Arweiniol y Ganolfan Ffilm.

Caiff dros £30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Genedlaethol.  

Diwedd.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

About Film Hub Wales
Film Hub Wales (FHW) celebrates cinema. We support organisations that screen film, from film festivals, to societies and mixed arts centres. Working with over 300 Welsh exhibitors, we aim to bring the best UK and international film to all audiences across Wales and the UK. Since Film Hub Wales set up in 2013, we’ve supported over 347 exciting cinema projects, reaching over 589,000 audience members.  

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Rydym hefyd yn falch o fod wedi arwain ar strategaeth Sinema Cynhwysol y DU ar ran BFI FAN 2017-23.
Gwefan, X (Twitter gant), Facebook, Instagram 

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI
Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.  

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:  

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
  • Arweinir Canolfan Ffilm y Gogledd ar y cyd gan Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manchester 
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office 
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre 
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast 
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London 

Gwefan 

Am BFI
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy: 

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU 

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.  

Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI ydy Jay Hunt.
Gwefan, Facebook, X (Twitter gant) 

Am Chapter
Sefydlwyd Chapter gan artistiaid ym 1971, fel canolfan ryngwladol ar gyfer celfyddydau a diwylliant cyfoes. Mae’n gartref i’r celfyddydau, lle cynhyrchir a chyflwynir gwaith dyfeisgar, apelgar o’r radd flaenaf. Mae eu horiel yn comisiynu ac yn cynhyrchu arddangosfeydd o gelfyddyd gorau’r wlad a’r byd. Mae eu gofodau theatr yn llwyfan i waith arbrofol sy’n procio’r meddwl. Mae eu sinemâu yn cynnig ffilmiau rhyngwladol a heriol ochr yn ochr â nifer o wyliau a digwyddiadau. Mae’r sinemâu yn dod â rhagor o ffilmiau i ragor o bobl mewn rhagor o leoedd drwy Ganolfan Ffilm Cymru.

Ochr yn ochr â’i rhaglen graidd, mae Chapter hefyd yn gartref i 56 o artistiaid a chwmnïau creadigol sy’n gweithio yn eu stiwdios. O animeiddwyr a chwmnïau cynhyrchu ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau, i artistiaid, dylunwyr a ffotograffwyr, yn ogystal â chwmni fframio celf, argraffwyr a stiwdios recordio. Mae’r gymuned greadigol wrth galon holl weithgarwch Chapter.

Daw’r rhaglen a’r gymuned ynghyd yn eu Caffi Bar sydd wedi ennill gwobrau. Gyda lle i hyd at 120 o bobl eistedd, mae’r caffi yn lle gwych i gyfarfod ffrindiau, darganfod lle tawel i weithio, neu i fwynhau diod neu damaid o fwyd blasus, ffres wedi’i baratoi â chynhwysion a brynwyd yn lleol, o fwydlen eang.
Gwefan, Facebook, X (Twitter gant), Instagram
 

 

^
CY