Wrth i lechi gael eu cludo i wledydd ledled y byd, yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, trawsnewidwyd tirwedd amaethyddol Cymru ynghyd â’r cymunedau oedd yn byw yno –adeiladwyd ysgolion,siopao a threfi cyfan gan greu bywoliaeth i’r rhai oedd yn gweithio yn y chwareli llechi, am dros 200 mlynedd. Ym mis Gorffennaf 2021, dyfarnwyd statws Safle Treftadaeth Byd UNESCO i dirwedd gogledd orllewin Cymru, gan eistedd ochr yn ochr gyda mannau fel Wal Fawr Tseina a’r Grand Canyon.
Yn debyg i’r cyflawniadau yma mae gan chwareli llechi gogledd Cymru hanes am safle Cymru fel gwlad drefedigol a buddiolwr y cyfoeth a gynhyrchwyd gan yr Ymerodraeth Brydeinig drwy gynhyrchu llechi y dylid ei ddatgelu ochr yn ochr gyda dathlu’r statws Newydd yma.
Mewn partneriaeth gyda’r Archif Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae arddangoswyr ar draws y DU yn gallu cael gafael ar ffilmiau archif byr, ffilmiau a ffilmiau dogfen cyfoes yn amlygu hanes llechi yng Nghymru. Rydym yn creu trafodaeth am ei effaith ar gymunedau lleol, cysylltiadau gyda chaethwasiaeth a phrosiectau trefedigaethol eraill a arweinwyd gan yr ymerodraeth Brydenig, gan edrych yn ddyfnach ar gloddio a hawliau mwyngloddwyr o amgylch y byd heddiw.