To Llechi ar Gyfer Pob Tŷ

© O'r Graig (Wicked Wales) / Slate Quarrying (Archif Sgrin a Sain)
Gwylio’r Rhagddangosiad:
Mae gan y ffilm yma ragddangosiad i aelodau
Mewngofnodwch i wylio

Yn dod i sinemau Cymruy yn 2022 yma, cyfres o ffilmiau a gweithgareddau yn dathlu statws treftadaeth y byd UNESCO i dirwedd llechi gogledd orllewin Cymru ac archwilio cysylltiadau llai adnabyddus i wladychiaeth.

Wrth i lechi gael eu cludo i wledydd ledled y byd, yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, trawsnewidwyd tirwedd amaethyddol Cymru ynghyd â’r cymunedau oedd yn byw yno –adeiladwyd ysgolion,siopao a threfi cyfan gan greu bywoliaeth i’r rhai oedd yn gweithio yn y chwareli llechi, am dros 200 mlynedd. Ym mis Gorffennaf 2021, dyfarnwyd statws Safle Treftadaeth Byd UNESCO i dirwedd gogledd orllewin Cymru, gan eistedd ochr yn ochr gyda mannau fel Wal Fawr Tseina a’r Grand Canyon.

Yn debyg i’r cyflawniadau yma mae gan chwareli llechi gogledd Cymru hanes am safle Cymru fel gwlad drefedigol a buddiolwr y cyfoeth a gynhyrchwyd gan yr Ymerodraeth Brydeinig drwy gynhyrchu llechi y dylid ei ddatgelu ochr yn ochr gyda dathlu’r statws Newydd yma. 

Mewn partneriaeth gyda’r Archif Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae arddangoswyr ar draws y DU yn gallu cael gafael ar ffilmiau archif byr, ffilmiau a ffilmiau dogfen cyfoes yn amlygu hanes llechi yng Nghymru. Rydym yn creu trafodaeth am ei effaith ar gymunedau lleol, cysylltiadau gyda chaethwasiaeth a phrosiectau trefedigaethol eraill a arweinwyd gan yr ymerodraeth Brydenig, gan edrych yn ddyfnach ar gloddio a hawliau mwyngloddwyr o amgylch y byd heddiw. 

Os oes gennych dymor neu ddigwyddiad ar gyfer gwanwyn 2022 sydd yn ateb themâu To Llechi ac os hoffech rhywfaint o gefnogaeth, gallwn gynnig bwrseriaethau o hyd at £500. Os oes gennych rhywbeth neilltuol o arbennig neu dymor hirach mewn golwg sydd angen rhagor o arian, rhowch wybod inni).

Mae enghreifftiau o’r costau y gallwn eu talu yn cynnwys: 

  • Marchnata, 
  • Allgyrraedd cymunedol, 
  • Gwerth ychwanegol (costau Holi ac Ateb, gweithdai), 
  • Gwerthusiadau cynulleidfa, 
  • Staffio

Cysylltwch gyda lisa@filmhubwales.org a dweud:

  • Eich dyddiad dangos/digwyddiad arfaethedig 
  • Rhifau cynulleidfa, 
  • Unrhyw gynlluniau ar gyfer digwyddiad arbennig, 
  • Eich syniadau marchnata, 
  • Costau rydych chi angen help gyda nhw, 
  • Pa ornest y gallwch ei chynnig (swyddfa docynnau / amser mewn nwyddau ac ati). Canllaw 20-50%.

Gellir dangos ffilmiau byr treftadaeth ochr yn ochr gyda ffilmiau archif dethol, yn ogystal â ffilmiau dogfen cyfoes gyda chyfleoedd am drafodaethau wedi hynny yn amlygu hanes y diwydiant llechi yng Nghymru, ei effaith ar gymunedau lleol, cysylltiadau gyda chaethweisiaeth a phrosiectau trefedigaethol ehangach a arweiniwyd gan yr Ymerodraeth Brydeinig.

Lawrlwythwch y Rhaglen here

Gallwch hefyd weld ein dogfen waith fyw gyda ffilmiau ychwanegol ar gyfer eich rhaglen yma

Canllaw ‘sut i’ i’ch helpu chi i raglennu’r ffilmiau yma, llywio sgyrsiau anodd yn aml yma gyda’ch cynulleidfaoedd, a ffyrdd o gynnal digwyddiadau gweithgaredd ychwanegol.

Gallwch weld a lawrlwytho'r canllaw (lawrlwythiad PDF) yma:

Fe wnaethom gomisiynu sgwrs rhwng haneswyr, ymchwilwyr a rhgalenwyr ffilm yng Nghymru am chwareli, hawliau mwyngloddwyr, caethwasiaeth a’r cysylltiadau ehangach gyda’r ymerodraeth Brydeinig. Gwyliwch y clip isod. Mae’r drafodaeth lawn ar gael i’w dangos yn eich sinema.

Previous screenings.

Cerddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE, Bae Colwyn
9th May 2022

Fe fydd ffilmiau archif byr yn cael eu dangos ochr yn ochr gyda thrafodaeth panel y Stori Gyflawn a sgwrs yn dilyn y dangosiad gyda Dr Marian Gwyn - ymgynghorydd treftadaeth yn arbenigo yn y fasnach caethwasiaeth a gwladychiaeth. Gan ddefnyddip’r pecyn adnoddau To o Lechi fe fydd TAPE yn edrych ar y syniad ‘pwy sydd ar goll?’ o straeon sgrin o amgylch llechi cyn arwain gweithdai lle bydd cyfranogwyr yn cynhyrchu gwaith celf llechi mewn ymateb i’r pynciau a godwyd. Caiff y gwaith ei arddangos yn oriel TAPE o 27 Mai, ochr yn ochr gyda ffilm fer o’r darnau gorffenedig.

Theatr y Ddraig, y Bermo
26th June 2022

The Theatre will screen Y Chwarelwr (The Quarryman), the first ever talkie in Welsh, following the quarryman’s life in Blaenau Ffestiniog. The feature will be accompanied by documentary short O’r Graig about the slate industry in North Wales and Q&A with a special guest speaker.

Cellb, Blaenau Festiniog
9th July 2022

Fe fydd Gŵyl Ffilm y Chwarel yn cynnwys dau benwythnos o weithgareddau ar thema chwarel/llechi yn cynnwys dangosiadau ffilm, trafodaethau a gweithdai crefft llechi i bobl ifanc creadigol (fel hollti llechi). Cynhelir panel trafodaeth cymdeithas hanesyddol gyda’r grŵp ieuenctid Clwb Clinc a sgwrs panel gyda chwarelwyr fu’n gweithio yn y chwareli. Fe fydd themâu yn cynnwys teuluoedd y Penrhyn a Pennant a’u cysylltiadau gyda chaethwasiaeth a chwestiwn o ‘pwy sydd ar goll’ pan fyddwn yn meddwl am bobl a lleoedd yn gysylltiedig gyda chwareli llechi.

Upcoming screenings (further events to be announced throughout 2022).

Aberystwyth Arts Centre
Dyddiad i’w gadarnhau

Trwy sgyrsiau a dangosiadau ffilm, gan gynnwys ffilmiau byrion archif o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn amlygu agweddau ar fwyngloddio llechi yng Nghymru sydd yn draddodiadol wedi bod yn absennol o’r naratifau sy’n ymwneud â hanes llechi yng Nghymru.

Off Y Grid
Dyddiad i’w gadarnhau
Rhwydwaith ydy Off Y Grid o 7 lleoliad ar draws Gogledd Cymru sydd yn cydweithio ar weithgareddau fforddiadwy drwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo ffilmiau annibynnol a diwylliant byd-eang i gynulleidfaoedd gwledig yn eu sinema annibynnol leol. Fe fyddan nhw yn cydweithredu ar fenter ar y cyd gan gynnwys hanesydd lleol i roi cyd-destun i’r casgliad o ffilmiau.

 

Porwch ein rhestr o ffilmiau archif Cymreig, Cymraeg ac archif Cymraeg yma, gyda manylion ar sut i archebu.

^
CY