Fforwm Ffilm

© Mission Photographic / Anim18, Chapter

Rydyn ni’n creu amser i siarad am ffilmiau!

Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer ein cyfarfodydd rhaglennu chwarterol lle byddwn yn siarad am ddetholiad o ffilmiau annibynnol a rhyngwladol newydd gorau Prydain.

Cynhelir y sesiynau gan y curadur Rachel Pronger. Bydd awgrymiadau ffilm ar gyfer eich rhaglen sydd i ddod, a chael amser i sgwrsio gyda chyfoedion am y ffilmiau rydych chi’n edrych ymlaen at eu gweld a darganfod ffilmiau y byddech fel arall yn eu colli. Byddwn hefyd yn trafod sut i raglennu a marchnata’r ffilmiau.

Bydd y sesiynau hyn yn rhedeg bob chwarter i'ch cefnogi gyda datblygiad cynulleidfa gydol y flwyddyn. Mae croeso i arddangoswyr o bob math – byddwn yn archwilio’r ffordd orau o wneud y sesiynau’n ddefnyddiol i bawb.

Ynglŷn â Rachel
Mae Rachel Pronger yn guradur, ysgrifennwr ac ymgynghorydd rhaglen. Cychwynnodd ei gyrfa yn gweithio ym maes cyfathrebu i Ŵyl Ffilmiau Llundain y BFI, Picturehouse Cinemas a Chanolfan Ffilm yr Alban, cyn symud i faes rhaglennu yn Alchemy Film & Arts, Tyneside Cinema, Sheffield DocFest ac Aesthetica Short Film Festival. Fel cyd-sylfaenydd cymundod ffilm ffeminist Invisible Women, mae Rachel wedi cyd-guradu rhaglenni a chynnal digwyddiadau ar gyfer partneriaid megis BFI Southbank, Cinema Rediscovered, Eye Filmmuseum Amsterdam, BalkanCanKino Athens, HOME Manceinion a Glasgow Film Theatre. Mae ei gwaith ysgrifenedig am ffilm wedi cael ei gyhoeddi gan gwmnïau megis Sight & Sound, The Guardian, MUBI Notebook, Little White Lies a BBC Culture. Mae hi hefyd yn rheolaidd yn cadeirio sesiynau holi ac ateb, paneli a gweithdai sy’n ffocysu ar ffeministiaeth, archifo a hanes ffilm.

Digwyddiadau i Ddod...

Fforwm Ffilm | Ionawr

Archebwch eich lle yma

Efallai yr hoffech chi hefyd...

^
CY