Lisa Nesbitt, Swyddog Datblygu, ar 02920 311 067 / lisa@filmhubwales.org
Hana Lewis, Rheolwraig Strategol ar 02920 353 740 / hana@filmhubwales.org
Mae Canolfan Ffilm Cymru wedi creu rôl arloesol newydd, ar gyfer hyrwyddo ffilmiau Cymreig a’r sinemau sydd yn eu dangos.
Mae Radha Patel yn ymuno gyda’r tîm fel y Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru ar gyfnod holl bwysig wrth i’r diwydiant ffilm gynllunio ar gyfer dyfodol y tu hwnt i Covid-19. Gyda chefnogaeth gan Cymru Greadigol a’i ddatblygu mewn ymgynghoriad gyda’r diwydiant sgrin Cymreig, fe fydd y rôl arloesol newydd yma yn edrych ar ffyrdd i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig.
Esboniodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru:
“Mae’r diwydiant ffilm wedi wynebu heriau enfawr yn ystod y pandemig, o gau sinemau yn hir dymor a chanslo gwyliau, i oedi mewn amserlennu rhyddhau ffilmiau newydd. Mae ffilmiau Cymreig fel Six Minutes to Midnight Andy Goddard gyda Judy Dench a Dream Horse Euros Lyn gyda Toni Collette, yn ddwy enghraifft yn unig o’r ffilmiau sydd wedi cael eu heffeithio, gan golli incwm tocynnau hanfodol a hefyd cyfle i ddathlu straeon Cymreig. Rydym yn falch o groesawu Radha i’n tîm, i rôl sydd yn gallu cefnogi’r rhain a nifer o ffilmiau newydd eraill wrth iddyn nhw chwilio am lwybrau newydd i gyrraedd cynulleidfaoedd.”
Datblygwyd y rôl ar y cyd gyda Strategaeth Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Fffilm Cymru sydd wedi bod yn gweithio i ddathlu’r Gymraeg, a diwylliant a threftadaeth Cymru ar y sgrin ers 2014. Mae dros 700 o ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig ar wefan y Ganolfan, ynghyd ag ystafell rhagddangos ar-lein ar gyfer rhaglenwyr ffilmiau a dewis i wneuthurwyr ffilmiau gyflwyno eu ffilmiau ar gyfer cymorth hyrwyddo. Yn fwyaf diweddar cynhaliodd Canolfan Fffilm Cymru ymchwil i botensial brand Gwnaethpwyd yng Nghymru i hyrwyddo ffilmiau Cymreig yn rhyngwladol.
Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymru Greadigol:
“Rydym yn edrych ymlaen at adfer ein diwydiannau creadigol yn 2021. Mae ffilmiau wedi chwarae rôl mor allweddol mewn ein diddanu gartref yn ystod 2020, ond edrychwn ymlaen ar groesawu cynulleidfaoedd i’n sinemau unwaith eto. Yng Nghymru mae gennym dreftadaeth gyfoethog ac enw da cadarn o ffilm, gyda nifer o sinemau lleol yn aros i groesawu cynulleidfaoedd yn ôl. Dymunwn y gorau i Radha yn y rôl allweddol yma gyda Chanolfan Ffilm Cymru yn hyrwyddo ffilmiau Cymreig a sinemau yng Nghymru.”
Dywedodd Claire Vaughan, Rheolwraig Rhaglen Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd:
"Rydym yn falch bod Radha yn dechrau’r gwaith ar y rôl bwysig yma a fydd yn helpu i hyrwyddo ffilmiau Cymreig. Fe fydd y swydd yma yn ein galluogi i gysylltu gyda rhagor o wneuthurwyr ffilm ac aelodau cynulleidfaoedd sydd yn awyddus i glywed straeon Cymreig. Mae Radha yn artist talentog sydd yn rhoi pwyslais ar sut rydym yn esbonio ein hunain gyda straeon ac mae ei hymagwedd cynnes tuag at gynulleidfaoedd a’i dull proffesiynol gyda rhanddeiliaid yn ei gwneud yn benodiad ardderchog i’r rôl."
Mae rolau blaenorol Radha yn cynnwys Swyddog Cyfathrebu yn Age Cymru a Swyddog Prosiectau ac Allgyrraedd i Gentle/Radical, corff celfyddydau cymdeithasol ymgysylltiedig yng Nghaerdydd. Mae gan Radha gefndir mewn datblygu cynulleidfa ac mae’n teimlo’n angerddol ynghylch sicrhau bod sinema yn hygyrch ac yn gynrychioliadol o bawb.
Ymchwanega Radha:
“Rwyf bob amser wedi teimlo’n angerddol am sinema a sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb. Fel y Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru rwyf yn teimlo’n freintiedig i barhau i wneud hyn drwy sicrhau bod ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, neu sydd â chysylltiadau Cymreig yn cael sylw haeddiannol gan gynulleidfaoedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae Cymru yn gartref i griwiau a thimau cynhyrchu anghygoel o dalentog, gwneuthurwyr ffilm ac awduron, actorion ac unigolion talentog sydd yn gweithio drwy gydol y flwyddyn i ddod â straeon yn fyw. Er mwyn eu hyrwyddo’n wirioneddol rhaid inni hefyd hyrwyddo cynulleidfaoedd Cymreig oherwydd mae’r straeon a ddywedwn yn perthyn i bob un ohonom"
Caiff Canolfan Ffilm Cymru ei arwain gan Chapter fel rhan o Rwydwaith Datblygu Cynulleidfa BFI. Diolch i gyllid y Loteri Cenedlaethol mae Canolfan Ffilm Cymru yn darparu portffolio eang o weithgareddau yn flynyddol gan gyflwyno rhagor o ffilmiau, i ragor o bobl, mewn rhagor o sinemau a gwyliau ffilm ar draws Cymru.