Too Much WEB
BFI announces TOO MUCH – MELODRAMA ON FILM – a major UK-wide season
27th August 2025

The BFI announces TOO MUCH – Melodrama on Film a new season celebrating the vivid visual language, heightened dramatics and emotional pathos at the heart of film melodrama, inviting film audiences to follow their emotions. United by their emotion driven plots, vivid visual language and self-conscious audience manipulation, these films are designed to make you break down in tears, cause a scene, fall in love, feel something. Presented by the BFI at BFI Southbank and BFI IMAX and by the BFI Film Audience Network (BFI FAN) using funds from the National Lottery at cinemas and venues across the UK, TOO MUCH will take place from October- December 2025 via programmes of special events, talks and screenings. TOO MUCH will also be available UK-wide online via a curated collection of films available to stream on demand on BFI Player.

The season will explore the world of melodrama through the ages, with films ranging from cult classics to lesser-known international gems. Melodrama is steeped in contradiction. Swooningly romantic, people fall in love at first sight, sacrifice their lives in acts of devotion, find one another across space and time. Simultaneously they are grounded in the trappings of reality: rigid class boundaries, threat of punishment, and fear of scandal loom at every corner. The characters in these films are culturally diverse, from different generations and social backgrounds, but endlessly human and relatable. Their stories shed light on injustice and oppression.

Image credit All That Heaven Allows. Dir - Douglas Sirk. Courtesy of Park Circus.
Image credit All That Heaven Allows. Dir – Douglas Sirk. Courtesy of Park Circus.

Whilst expansive in its reach and impact across all genres of cinema, melodrama has long been associated with its rare embrace of women’s inner lives and concerns. This expansive drama is employed to express longing, rage and desire in characters facing motherhood, infidelity, exploitation and scandal. The legacy of early ‘women’s pictures’, created for female audiences with their favourite female stars, echoes across generations and around the world. As in life, these women do not always triumph. Imperfectly feminist yet endlessly empathetic, their sensationalist struggles carry searing social commentary beneath the glossy veneer of attention-grabbing colours, lurid plotlines and sentiment.

Accessible but ripe for dissection and reappraisal, while melodrama may lack the recognition of a genre like horror or action, TOO MUCH aims to illuminate melodrama as a key cinematic form, banish the stigma attached to the term, and spotlight how it has created masterpieces of world cinema.

From the early days of cinema and the evolution of the ‘women’s pictures’ of the 1930s and female film stars such as Joan Crawford, Bette Davis, Barbara Stanwyck and Claudette Colbert, cult classics and underseen gems, through to work from some of contemporary cinema’s biggest names such as Todd Haynes FAR FROM HEAVEN (2002), Pedro Almodóvar VOLVER (2006), Lars von Trier BREAKING THE WAVES (1996) as well as masterpieces of world cinema. The season will feature screenings of 7 TH HEAVEN (1927, Frank Borzage), IMITATION OF LIFE (1934, John M. Stahl), STELLA DALLAS (1937, King Vidor), NOW VOYAGER (1942, Irving Rapper) BRIEF ENCOUNTER (1945, David Lean), THE LIFE OF OHARU (1952, Kenji Mizoguchi) ÉL (1953, Luis Buñuel), JOHNNY GUITAR (1954, Nicholas Ray), LOLA MONTES (1955, Max Ophüls), STELLA (1955, Michael Cacoyannis) THE CLOUD-CAPPED STAR (1960, Ritwik Ghatak) THE ARCH (1968, T’ang Tsu Shuen), THE BITTER TEARS OF PETRA VON KANT (1972, Rainer Werner Fassbinder), THE SILENCES OF THE PALACE (1994, Moufida Tatli) and many more.

A centrepiece of TOO MUCH will be Douglas Sirk’s colourful, high-octane love story ALL THAT HEAVEN ALLOWS (1955) which will return to cinemas UK-wide on 24 October, courtesy of Park Circus. Jane Wyman and Rock Hudson entrance as the star-crossed lovers at the centre of Sirk’s transgressive, saturated portrait of 1950s Eisenhower-era Americana, class friction and moral values.

Ruby McGuigan, BFI Programme Development Manager and TOO MUCH BFI Southbank season curator, said:

“A story’s emotional heart is what brings us back to it time and time again and allows it to translate across generations and cultures. Melodrama – an embrace of emotion above all – is the lifeblood of great cinema, across decades and geographic borders. Melodrama has always revelled in the squashing of emotions too volatile for everyday life, and the inevitable explosion under pressure. As a young woman discovering these films, I felt understood. Perhaps I wasn’t insane, or ‘too much’. Perhaps life is just overwhelming sometimes. In recent years we’ve finally seeing women’s emotional worlds take centre stage in literature, music and television – there’s a legacy of this in cinema which I believe is often overlooked. I’m so excited to share and discuss with audiences how these films make us feel today, and how these bold stories of melodrama’s heroines have driven some of world cinema’s timeless masterpieces. Don’t forget to pack your tissues.”

The season will be programmed around key themes, Love featuring star-crossed lovers, sacrificial acts of devotion, connections across space and time and melodrama as romance incarnate, Obsession brimming with tales of unrequited love, impossible desires and toxic jealousy, Duty stories of maternal sacrifice, marital constraints and dreams denied simmering beneath the serene surface of family life. Defiance showcasing rebellion in all its forms, both righteous and frivolous, regardless of the consequences, Scandal featuring tales of melodrama’s tragic heroines, who fall victim to its judgmental gaze. Melodrama’s most expressionistic, sumptuous films will also screen at BFI IMAX.

The full UK-wide line-up of screenings, events and touring programmes will be announced soon via bfi.org.uk/too-much

Volver 2006 – Images Courtesy of Park Circus + Pathe

BFI Southbank will play host to a major season from 20 October – 30 December, focusing on the strong cross cultural appeal of melodrama, including titles from Greece, Egypt, China, Hong Kong, Japan, India, Tunisia, Italy, Spain, Germany, Denmark, Mexico, Argentina, Russia curated under the five thematic pillars of Love, Obsession, Duty, Defiance and Scandal. BFI IMAX, the UK’s biggest screen, will play host to some of melodrama’s most expressive films, FAREWELL MY CONCUBINE (1993 Chen Kaige), DEVDAS (2002, Sanjay Leela Bhansali) and WRITTEN ON THE WIND (1956, Douglas Sirk). Special events celebrating the expansive melodrama genre will include a keynote introduction with leading academic and author Laura Mulvey and a special day of playful panels and presentations – Melo-dramarama, an immersive day delving into the labyrinth of themes, tropes and quirks of melodrama beyond women on screen, from its embrace by queer audiences to male weepies and soap operas.

Audiences will also be able to stream films from the season at home on BFI Player, with a selection of 20+ curated titles set to include, BODY AND SOUL (1925, Oscar Micheaux), CRAIG’S WIFE (1936, Dorothy Arzner), THE RECKLESS MOMENT (1949, Max Ophüls), VICTIMS OF SIN (1951, Emilio Fernández), CAIRO STATION (1958, Youssef Chahine), RED ANGEL (1966, Yasuzo Masumura), MORGIANA (1972, Juraj Herz), BROKEBACK MOUNTAIN (2005, Ang Lee), PORTRAIT OF A LADY ON FIRE (2019, Céline Sciamma) and THE DAMNED DON’T CRY (2022, Fyzal Boulifa).

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn

Darllen rhagor
Untitled Design (3)
Dewch o hyd i'ch Clwb Ffilm Lleol: Canllaw i Sgriniau Cymunedol a Sinemâu Dros Dro Cymru

Awst 2025

A fyddech chi wrth eich bodd yn cael sinema ar eich stepen drws? Wel efallai eich bod chi'n agosach at un nag yr ydych chi'n meddwl! Mae Cymru yn llawn dop â dros 120 o sgriniau cymunedol a sinemâu dros dro.  

I lawer o bobl sy'n hoff o ffilmiau, mae gyrru dros hanner awr i'w sinema agosaf yn gwbl arferol, ac rydyn ni'n gwneud hynny gan mai ar y sgrin fawr mae ffilmiau i fod i gael eu gwylio, ynte? I rai cynulleidfaoedd, nid yw hyn yn bosibl am lawer o resymau ac mae'r wefr o gael eu sgrin gymunedol leol eu hunain yn golygu eu bod yn gallu cael mynediad at ffilmiau yn fwy rheolaidd. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddynt ddysgu'r sgil o ddewis ffilmiau, trefnu eu digwyddiadau eu hunain, neu adeiladu clwb ffilm rheolaidd.

Mae gennym bob math o sgriniau cymunedol yng Nghymru. O Neuaddau’r Glowyr, i nosweithiau ffilmiau mewn pentrefi, cymdeithasau ffilmiau sefydledig i ddigwyddiadau ffilmiau dros dro mewn llyfrgelloedd neu neuaddau tref. Mae rhai yn dangos ffilmiau bob mis ac eraill yn dangos ffilmiau ar thema arbennig o bryd i'w gilydd.

Os wnaethoch chi golli ein blogiau blaenorol ar wyliau aa sinemâu yng Nghymru, yna efallai nad ydych chi'n gyfarwydd â phwy ydym ni Canolfan Ffilm Cymru. Felly cyn i ni drafod sinemâu cymunedol Cymru – dyma’ch atgoffa chi mai ein gwaith ni yw cefnogi 'arddangoswyr' Cymreig o bob siâp a maint i ddod â ffilmiau rhyngwladol ac annibynnol gorau’r DU i gymunedau Cymru drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn ariannu, hyfforddi a chynghori, gan gynnig cymorth iddynt lle bo angen.

Dinas Powys Community Cinema

Felly, beth yn union mae sinemâu cymunedol yn ei gynnig? Wel, rydyn ni'n falch eich bod wedi gofyn! Y peth gwych amdanyn nhw yw mai gwirfoddolwyr sy'n caru ffilm sy’n eu harwain fel arfer. Felly, os ydych chi hefyd yn caru ffilm, yna rydych chi'n mynd i gwrdd â llawer o bobl o'r un anian a gobeithio y cewch gyfle i wneud ambell i ffrind yno. Yn aml mae ganddynt gyfleusterau gwych, o'r sgrin i'r sain, i wneud eich profiad y gorau y gall fod.Cymerwch Sinema Gymunedol Dinas Powys yn Murchfield er enghraifft. Maent yn sgrinio ar ail ddydd Sadwrn bob mis ac maent wedi buddsoddi'n rheolaidd yn eu cyfleusterau o sgrin sefydlog y gellir ei dynnu'n ôl i daflunydd wedi'i osod ar y nenfwd, blwch rheoli newydd gyda dau chwaraewr Blu-ray / DVD, paneli nenfwd acwstig i ddileu'r adleisio, bleindiau ‘blackout’, a system seinyddion gwell! Ydi hyn yn eich plesio gymaint â ni?

Os ydych chi'n chwilio am y ffilmiau annibynnol gorau o bob cwr o'r byd, Cymdeithas Ffilm y Fenni yw'r ŵyl i chi. Clywsom si mai dyma'r gymdeithas ffilm fwyaf hirhoedlog yng Nghymru. Mynnwch eich aelodaeth yn gyflym – maen nhw bob amser yn gwerthu pob tocyn! Clwb arall sy'n adnabyddus am ei ddetholiadau gwych o ffilmiau yw Cymdeithas Ffilm Abergwaun, lle mae'r panel ffilmiau cymunedol yn helpu i ddewis ffilmiau yn yr hyfryd Theatr Gwaun yn Sir Benfro..

 

Llangoed & District Village Hall

Rydyn ni, Canolfan Ffilm Cymru, wedi bod yn gweithio gyda Cherdd a Ffilm Cymunedol TAPE dros y blynyddoedd diwethaf i helpu i sefydlu sgriniau cymunedol newydd ledled y Gogledd fel rhan o'n prosiect Spotlight. Mae un o'r safleoedd, Neuadd Bentref Llangoed, wedi trawsnewid yn sinema o'r radd flaenaf gyda thaflunydd laser 4K Epson, system sain newydd, a sgrin sinema fformat mawr – yn ogystal â’r ffilmiau Cymraeg, annibynnol a rhyngwladol gorau!  

Os ydych yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, un na ddylid ei cholli yw Sinema Gymunedol Mynydd Helygain, gyda'i chefndir mynyddig hardd yn Sir y Fflint. Wedi'i sefydlu yn 2015, maent yn dangos ffilm bob dau fis yn Neuadd / Llyfrgell Plwyf Helygain gyda diodydd poeth, popcorn a bisgedi. Neu os ydych chi yn Sir Gaerfyrddin,, mae Sinema Sadwrn yn Llansadwrn yn dangos ffilmiau'n rheolaidd ar ddydd Gwener olaf pob mis. O glasuron i gomedi, dramâu i ffilmiau mewn ieithoedd tramor, animeiddiadau a ffilmiau dogfen, mae digon o ddewis. Maen nhw'n disgrifio’u digwyddiadau fel achlysuron cyfeillgar gyda’r dafarn drws nesaf yn lle am ddiod a sgwrs cyn / ar ôl ffilm.

Rydym hefyd yn ffodus i gael cefnogaeth nid un ond dau ddarparwr teithiol. Flicks in the Sticks a Moviola. Mae Flicks, sy'n trawsnewid neuaddau pentref a mannau cymunedol yn sinemâu dros dro, yn cael ei redeg gan Arts Alive yn ardaloedd Swydd Amwythig, Swydd Henffordd, y ffin a chanolbarth Cymru. Mae Moviola yn cynnig gwasanaeth rhaglennu ac archebu ffilmiau ar gyfer lleoliadau cymunedol yn ogystal â chynlluniau teithiol ledled y DU, gyda ffocws ar Dde-ddwyrain Cymru. Mae'r ddau sefydliad yn gweithio gyda phob math o weithredwyr yn y rhanbarthau hyn.

Os ydych chi'n chwilio am ddigwyddiadau arbennig sy'n mynd â chi i gestyll, clybiau a chanolfannau cymunedol Cymru, yna rydych chi'n bendant eisiau chwilio am Darkened Rooms. Hefyd un na ddylid ei cholli yw Cinema Golau – platfform ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau Du ac Ethnig Lleiafrifol sy'n dod i'r amlwg, sy'n dod â ffilmiau annibynnol rhyngwladol Du i lu o leoliadau lleol yng Nghymru. 

Gyda dros 120 o ddarparwyr cymunedol i ddewis ohonynt, mae cymaint o argymhellion y gallem eu rhoi i chi. Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi llunio rhestr lawn a map i helpu i ddod o hyd i'ch clwb neu ddigwyddiad lleol. Byddwn yn tynnu sylw atynt yn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol,yn ogystal â lle gallwch ddod o hyd i'ch gŵyl agosaf a sinema llawn amser. Nodwch – nid ydym yn gysylltiedig â'r holl wefannau a restrir ac nid ydym yn gyfrifol am eu gweithgarwch. Edrychwch ar eu gwefannau lleol am fwy o wybodaeth am eu dangosiadau cyfredol. Mae llawer o sinemâu cymunedol yn cymryd seibiant dros yr haf ac yn dod yn ôl gyda rhaglen yr hydref o fis Medi ymlaen.  

Os ydych chi'n rhedeg sgrin gymunedol a heb eich rhestru isod, efallai bod hyn oherwydd eich bod wedi'ch rhestru fel sinema neu ofod celfyddydau cymysg. Os hoffech gael eich ychwanegu (neu os hoffech gael eich tynnu o'r rhestr hon), cysylltwch â ni.Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych.

Gall arddangoswyr o Gymru hefyd ymaelodi â Chanolfan Ffilm Cymru am ddim a gwneud cais am gyllid datblygu cynulleidfaoedd yn ogystal â chael mynediad at hyfforddiant, rhwydweithio a chyngor.

Edrychwch ar wefannau'r sinema wefans for the am y wybodaeth ddiweddaraf. 

*Organisations may be based outside of Wales and deliver across various Welsh locations.

Darllen rhagor
Image credit Theatr Gwaun - Jasper Photography
Cynhelir digwyddiadau Hub Haia

Rydyn ni bron hanner ffordd drwy 2025 yn barod, ac yn dechrau meddwl am 2026-29 (fel rhan o strategaeth Diwylliant Sgrîn 2033 BFI). Gyda’n Hub Helo blynyddol fis Mawrth nesaf yn teimlo’n bell i ffwrdd, rydyn ni am wneud amser ar gyfer Haia.

Rydyn ni’n trefnu dau gyfarfod i drafod rhai o’r pethau sy’n fwyaf heriol i chi, yn ogystal â thrafod y cyfleoedd hynny y gall Canolfan Ffilm Cymru eich helpu chi gyda dros y blynyddoedd nesaf. Byddwn hefyd yn cychwyn holiadur i gasglu ychydig o adborth ychwanegol.

Byddwn yn cloi pob digwyddiad gyda dangosiad o’r ffilm a Wnaethpwyd yng Nghymru, Brides drama am y ffoaduriaid Doe a Muna sy’n teithio i Syria i gychwyn bywyd newydd (gan Gynyrchiadau ieie). Cynhelir digwyddiadau Hub Haia yn Pontio (2 Medi) a Neuadd Gwyn (4 Medi).

Rydyn yn gweithio hefyd ar ddiwrnod llawn o ragddangosiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol.

Pryd / Ble:

Mae’r digwyddiad hwn yn ecsgliwsif i aelodau Canolfan Ffilm Cymru.

Cefnogaeth Bwrsari ac Aelodaeth

  • Mae'r digwyddiad yma yn gymwys ar gyfer cefnogaeth bwrseriaeth. Gall Canolfan Ffilm Cymru dalu am gostau llety i aelodau fynychu. Os ydych chi angen trefnu llety ymlaen llaw, rydyn ni’n argymell archebu llefydd sydd â pholisi canslo am ddim. Cwblhewch ffurflen yma..
  • Os nad ydych yn aelod o Ganolfan Ffilm Cymru eto, gallwch ymuno am ddim yma.
  • Dysgwch ragor am sut mae Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi’r sector arddangos ffilmiau i ddangos ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig.
Darllen rhagor
IMG 2401
Hub Members attend Film Festivals in Texas and Sydney

Hub Members attend 2024’s SXSW and Sydney Film Festival with help from training bursary

73 Degree Films attends SXSW Festival in Texas
Rob at SXSW Festival

SXSW festival celebrates the convergence of tech, film, music, education, and culture, helping creative people achieve their goals, and takes place in Austin, Texas every March. Hub member Robert Corcoran from 73 Degree Films attended 2024’s SXSW Festival to build on his relationships in the industry and attend the premier of Welsh film Timestalker. Akulah Agbami from Sheba Soul Ensemble wanted to attend the 2025 Sydney Film Festival to explore films and open new dialogues and awarenesses with indigenous Australian and Maori women film-makers whose films aren’t very accessible outside of Australia.

“Geographical barriers are clear as many of these filmmakers (travelling to SXSW from all over the world) will not have considered submitting their work to a Welsh (or perhaps even a European) festival previously, therefore meeting someone such as myself, to explain the benefits can set them at ease.” – Rob

Working on behalf of FOCUS Festival, Rob felt his time at SXSW was extremely valuable to grow his network as well as speaking to filmmakers to “convince them of the benefits of submitting their work to a Welsh festival.” Attending the premier of Timestalker also gave Rob an insight into the appetite for Welsh film overseas, providing ideas on how to connect with international audiences. Rob feels his attendance at SXSW resulted in a marked increase in US submissions to FOCUS Wales 2025. “Additionally I managed to meet with key people at the festival to kickstart conversations around how to continue the work and increase ties further.”

Sydney Film Festival Screening

Akulah, who is the Director at Sheba Soul Ensemble, who have hosted intimate and inclusive events to celebrate Black women’s film history on screen, wanted to find out how to source films from indigenous Australian and Maori women film-makers.  Akulah noted that no First Nations people attended any of the screenings and found the event still has some work to do to represent this community. With this in mind, she still came away incredibly inspired, and delighted to access several brilliant films by Black women directors, managing to watch 11 films and one short with one animation that she hopes to bring to Wales that will appeal to 16-25s and an older queer audience.

“The first time I had the ‘banquet buffet’ film festival experience was whilst working in Sydney for a year after university… But so many things I had forgotten. Like how hauntingly exquisite the State Theatre in Sydney is…For the 72nd SFF edition, I experienced 11 films and a whole lot more.” – Akulah

Rob and Akulah were able to attend these Film Festival’s with the support of Film Hub Wales via our Bursary scheme. If you want to attend a meeting, course or event that would benefit your organisation and develop audiences, but the costs are prohibitive, you can submit an application for support yma

Darllen rhagor
Welsh Film Preview Days
Digwyddiadau Rhagolwg o Ffilmiau Cymreig

Mae ein Dyddiau Rhagolwg yn cynnwys dangosiadau o ffilmiau a grëwyd yng Nghymru, ffilmiau Cymraeg eu hiaith a ffilmiau archif Cymreig sydd ar y gorwel, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi rhaglennu'n ehangach a chyrhaeddiad ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig.

Mae'r digwyddiadau yn arbennig i aelodau Canolfan Ffilm Cymru ac aelodau o Ganolfannau Ffilm ledled y DU. Rydym yn darparu pecynnau gwybodaeth i bawb sy'n mynychu, ac yn cynnig cyfleoedd i rwydweithio mewn gwanhaol ganolfannau ledled y wlad. Gall Canolfan Ffilm Cymru hefyd gynnig cyllid tuag at warantu lleiafswm, marchnata a / neu gyfrannu tuag at gostau digwyddiad lle fo talent ar gael.

Digwyddiadau i Ddod...

Dim digwyddiadau.

Darllen rhagor
WHALE Arts Audience Event1
Cydweithio: Adeiladu Cynulleidfaoedd Cymunedol ar gyfer Ffilmiau Annibynnol
Ydych chi'n gweithio gyda phartneriaid cymunedol lleol i gydweithio ar ddangosiadau ffilmiau? Ydych chi am greu profiadau ffilm ystyrlon ond yn cael trafferth gyda phresenoldeb isel, yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i'r ffilmiau neu'r sefydliadau cywir i gydweithio â nhw?

Bydd y sesiwn yma’n archwilio rhai o'r heriau y mae llawer o sinemâu yn eu hwynebu wrth geisio meithrin cysylltiadau ystyrlon gyda chymunedau na fyddai fel arall yn mynychu, yn ogystal ag atebion posib. Caiff y sesiwn ei harwain gan y Cydlynydd Sinema Lleol Morvern Cunningham. Bydd themâu'n cynnwys:

  • Gweithio gydag aelodau a grwpiau o'r gymuned i gyflwyno dangosiadau ffilm wedi'u cyd-guradu,
  • Meddylfryd heriol – ‘yn hytrach na chi’n dod atom ni, fe ddown ni atoch chi',
  • Ansawdd y profiad dros faint y gynulleidfa.

Pryd: 15fed Hydref 2025

Ble: Ar-lein

Archebwch eich lle yma

Mae’r digwyddiad yma ar gyfer aelodau Canolfan Ffilm Cymru yn unig, ac aelodau Canolfannau Ffilm ar draws y DU (nifer cyfyngedig o leoedd ar gael).
Os nad ydych yn aelod o Ganolfan Ffilm Cymru eto, gallwch ymuno am ddim yma.

Ynglŷn â Local Cinema Network

Mae Local Cinema yn rhwydwaith o sinemâu cymunedol wedi'u lleoli yng Nghaeredin, wedi’u cefnogi gan Gyngor Dinas Caeredin. Maent yn cefnogi dangosiadau ffilm wedi'u curadu ar y cyd â chymunedau lleol ar draws ystod o fannau cymunedol yn y ddinas, gan gynnwys  WHALE Arts; North Edinburgh Arts, Duncan Place Community Hub, Out of the Blue Drill Hall, Space @ Broomhouse Hub, Craigmillar Now a The Crannie Community HuB. Yn 2025, bydd eu rhaglen deithiol Local Resistance yn dathlu straeon lleol o hunan-drefnu ac undod gyda chefnogaeth gan Ganolfan Ffilm yr Alban.

For more information on Local Cinema and the Local Resistance programme, you can read this interview with Local Cinema Coordinator Morvern Cunningham by Film Hub Scotland.

Darllen rhagor
Cinemas Image
Holl Sinemâu Cymru Ble i Wylio Ffilmiau ar Sgrin Fawr yng Nghymru

Mehefin 2025

Efallai y byddwch chi'n synnu clywed bod gennym ni lu o sinemâu sefydledig yng Nghymru – 80 ohonynt a dweud y gwir. Daw'r rhain mewn gwahanol siapiau a meintiau. Mae rhai yn ganolfannau celfyddydau cymysg sy'n cynnig rhaglenni amlddisgyblaethol, mae eraill yn sinemâu annibynnol neu fasnachol llawn amser sy'n arbenigo mewn ffilm ac mae gan rai rhaglenni achlysurol.

Dydyn ni ddim hyd yn oed wedi cyrraedd y sgriniau cymunedol eto; Mae yna lawer mwy o'r rhain i'w crybwyll (a byddwn yn dod yn ôl at hynny yn ein blog nesaf) ond heddiw rydyn ni'n siarad yn benodol am safleoedd theatraidd.

Felly, ble dylem ni ddechrau? Gadewch i ni ddechrau drwy egluro mai ein gwaith ni fel Canolfan Ffilm Cymru yw cefnogi sinemâu Cymru i ddod â'r ffilmiau annibynnol a rhyngwladol gorau yn y DU i gymunedau Cymru drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn ariannu, hyfforddi a chynghori arddangoswyr ffilmiau, gan gynnig cefnogaeth lle bo angen. Fe wyddom ni na fydd ffilm yn cael ei gweld dim ond oherwydd ei bod yn ffilm dda, a dyna le mae sinemâu o bwys. Eu gwaith nhw yw ystyried y gynulleidfa. Pwy fyddai'n mwynhau'r ffilm hon, sut gellir cyrraedd y gynulleidfa honno a pha effaith y gallai'r ffilm ei chael ar bobl leol.

Mae sinemâu Cymru yn adnabyddus am fod wrth galon eu cymunedau ac am eu hadeiladau eclectig a'u hanesion cyfoethog. Yn gyffredinol, maent yn cynnig llawer mwy na ffilmiau yn unig.

The Magic Lantern Cinema

Cymerwch Sinema Magic Lantern yn Nhywyn, Canolbarth Cymru, er enghraifft. Ar ôl dangos rîl newyddion mud gyntaf ym 1900 fel Ystafell Gynulliad y dref, mae'r adeilad wedi esblygu i fod yn sinema llawn amser poblogaidd ac unigryw gyda band, gardd gyfrinachol, a bar coctel. Nid yn unig hynny – maen nhw hefyd yn arwain digwyddiadau yn y gymuned gefn gwlad, fel agor yr adeilad ar ddiwrnod Nadolig i bobl leol sy'n byw ar eu pennau eu hunain a chreu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc yn y dref (yn ôl bob sôn mae eu tîm mor hapus yno, yn aml dydyn nhw ddim eisiau gadael!).

Film Hub Wales Member - CellB
CellB

Ymlaen i ogledd-orllewin Cymru, os ydych chi'n cael eich hun ym Mlaenau Ffestiniog, mae'n rhaid i chi ymweld â CellB. Wedi'i leoli mewn gorsaf heddlu wedi'i haddasu, gyda dwy sgrin a chefndir syfrdanol o fynyddoedd llechi, mae'r lle yma’n llawn carisma. Dan arweiniad Gwallgofiaid, menter gymdeithasol nid-er-elw sy'n darparu hyfforddiant creadigol i bobl ifanc, mae gan y safle hostel, gigs rheolaidd a ffwrn pizza wedi'i thanio â choed.

Draw yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae'n rhaid i ni sôn am y gwaith adnewyddu trawiadol yn Theatr Clwyd, sy'n cael ei adnabod fel y darparwr theatr deithiol mwyaf yng Nghymru. Byddwch eisiau treulio amser yno a mwynhau golygfeydd panoramig y dref o'u hadeilad gwydr newydd, ymweld â'u bwyty sy'n cael ei redeg gan y cogydd adnabyddus Bryn Williams ac wrth gwrs, gwylio ffilm yn eu sinema bwrpasol sy'n agor o fis Gorffennaf 2025.

Gallwn gario ’mlaen gyda hyn drwy'r dydd... Os ydych chi yn ne Cymru, mae Theatr y Savoy yn Nhrefynwy yn sinema gwerth ei gweld.

Theatr y Savoy Trefynwy

Y safle theatr hynaf yng Nghymru, mae'r adeilad rhestredig hardd gradd 2 hwn yn edrych fel y sinema berffaith. Neu os ydych chi yng Nghaerdydd, dewch i Ganolfan Gelfyddydau Chapter, sydd â rhaglen enfawr drwy gydol y flwyddyn o ffilmiau annibynnol yn ogystal â pherfformiadau arbrofol, arddangosfeydd a chaffi-bar.

Draw yng ngorllewin Cymru, mae Theatr Gwaun yn Abergwaun. Mae'n theatr gymunedol annibynnol, wedi’i chefnogi gan dîm angerddol o wirfoddolwyr. Yno mae sinema, bar a chaffi gyda dewis helaeth o ddigwyddiadau, ac mae arfordir hardd Sir Benfro megis tafliad carreg ohoni.

Yn y bôn, fe allech lunio taith o amgylch Cymru, gyda sinema ym mhob stop. Swnio'n dda? I helpu gyda hyn, rydym wedi llunio rhestr lawn a map i'ch helpu chi i weld ble mae pob sinema. Byddwn yn tynnu sylw atynt ar ein cyfryngau cymdeithasol,yn ogystal â ble gallwch ddod o hyd i'ch gŵyl, clwb ffilm neu sgrin gymunedol agosaf.

Os ydych chi'n rhedeg sinema a heb eich rhestru isod, efallai bod hyn oherwydd eich bod wedi'ch rhestru fel sgrin gymunedol. Os hoffech gael eich ychwanegu (neu os hoffech gael eich tynnu o'r rhestr hon), cysylltwch â ni.Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych. Gall sinemâu Cymru hefyd ymaelodi â Chanolfan Ffilm Cymru am ddim a gwneud cais am gyllid datblygu cynulleidfaoedd yn ogystal â chael mynediad at hyfforddiant, rhwydweithio a chyngor.

Darllen rhagor
Monico Movies
Monico Movies to screen its final film in July 2025

After 10 hugely successful years, the final curtain will soon fall on much loved community cinema Monico Movies.

In 2015, a group of local movie enthusiasts were invited by filmmakers Viv and Harley Jones to discuss the idea of opening a community cinema, screening a variety of films. Rhiwbina Community Cinema – a not for profit, volunteer led cinema – was born. It was named Monico Movies as a tribute to the much missed local cinema ‘The Monico’ which opened in Rhiwbina in 1936 and closed in 2003.

Monico Movies started from scratch with no equipment. However, screening films was initially made possible through the loan of equipment from Film Hub Wales and, after the first year as a community cinema group, funding was secured from the Big Lottery to buy a projector and screen.

Monico Movies hosted its first screening, The Grand Budapest Hotel, in October 2015 at Canolfan Beulah. Since then, shows have been held on the 2nd Saturday of each month for ten years. More than 200 films have been screened, attracting a loyal audience, with up to 80 people attending
each month. Five local shops – Serenade, Victoria Fearn Gallery, Ginger Whites, Deri Stores and the Honey Pot – have also supported Monico Movies, by selling tickets. This continued support by the audience and ticket outlets has ensured the community cinema’s ongoing success.

In volunteering to plan and host an annual film programme, the dedicated crew have contributed time and skills, including web and poster design, social media publicity, film research, administration and projection. The volunteer group curated a varied programme across a range of different film genres. These included world cinema, independent films, old favourites, forgotten classics and new releases. One memorable highlight was screening Buster Keaton’s silent movie, The General, with live piano accompaniment. Monico Movies has also been proud to showcase local film makers.

Monico Movies revived the tradition of a regular, local cinema experience for the community in Rhiwbina. Having achieved the milestone of 10 years, the group members have decided the time is right to retire – to hang up the film reels, put away the usherette’s tray and dim the lights one last time.

The final Monico Movies show will take place at 7.30pm on Saturday 12th July 2025, when the Welsh made film ‘Mr Burton’, about the early life of actor Richard Burton, will be screened and the audience of Monico Movies will celebrate their love of cinema one last time.

Contact: Harley Jones

Darllen rhagor
The image is a collage of various scenes from Welsh film festivals, it shows groups of people watching films and participating in festival events, reading festival programs, and engaging in activities. There is also the “Sinemaes” tent, a person wrapped in a rainbow flag, and a couple holding a pink Instagram frame prop, smiling.
O animeiddio i'r awyr agored: Darganfod 40 o Wyliau Ffilm Cymru
Mai 2025

Oeddech chi'n gwybod bod Cymru'n gartref i 40 o wyliau o bob siâp a maint? Mae llawer o'r rhain yn ymroddedig i ffilm, neu mae ganddynt gynigion ffilm rheolaidd. P'un a ydych chi'n wneuthurwr ffilmiau newydd sy'n chwilio am le i lansio'ch ffilm fer nesaf, neu os ydych chi'n mynychwr brwd o’r sinema sy'n chwilio am y ffilmiau newydd gorau, mae ein gwyliau Cymreig are ich cyfer.

Yng Nghanolfan Ffilm Cymru, rydym yn gweithio gyda gwyliau ffilm, gan eu helpu i ddod â'r ffilmiau annibynnol a rhyngwladol gorau yn y DU i gymunedau Cymru drwy gydol y flwyddyn. Mae gwyliau yn chwarae rhan hanfodol yn y gadwyn ffilm. Maent yn arddangos talent newydd, yn aml yn eu helpu i sicrhau asiantau gwerthu a bargeinion dosbarthu - cyrraedd cynulleidfaoedd newydd gartref a ledled y byd. Maent hefyd yn adnabyddus am ddigwyddiadau arbennig, dewisiadau ffilm unigryw a beiddgar nad yw cynulleidfaoedd efallai yn eu gweld mewn mannau eraill a lle i'r diwydiant a'r cyhoedd ddod at ei gilydd.

Group of people sat on chairs on stage in front of a cinema screen in front of an audience.
Iris Prize Festival © Jon Pountney

Felly pa wyliau sy'n aros i gael eu darganfod ar garreg eich drws yng Nghymru? Wel, mae o leiaf 40 (rydyn ni'n gwybod amdanynt) ac nid yw hyn yn cynnwys y llawer mwy o ddigwyddiadau teithiol sy'n ymddangos mewn sinemâu yn ystod y flwyddyn a gwyliau celfyddydol ehangach sy'n sgrinio ffilmiau o bryd i'w gilydd. Mae 34 o'r rhain yn ddigwyddiadau Cymreig yn benodol ac mae 6 yn ddigwyddiadau yn y DU neu ryngwladol sy'n teithio i Gymru.

Mae gan lawer o'r gwyliau themâu unigryw (20 yr ydym yn eu cyfrif) fel Gŵyl Ffilm SeeMôr sy'n archwilio popeth sy'n ymddangos ar yr arfordir a'r môr yn Ynys Môn, Gŵyl Animeiddio Caerdydd a Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu, neu i'r rhai sy'n chwilio am wefr mae Gŵyl Arswyd Ryngwladol Abertoir - sydd ar fin dathlu ei 20fed flwyddyn yn 2025.

A group of people smiling and posing for the camera.
Watch-African Festival, Chapter Caerdydd © Wambui Gathee

Mae gwahanol wyliau yn cynnig cefnogaeth bwrpasol i dalent newydd fel Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin, Gŵyl Ffilm Fach Caerdydd a Focus Wales. Ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc mae Wicked Wales a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru i Blant. A gallwn ni barhau i’w rhestru! Ar gyfer y ffilmiau lleol a byd-eang newydd gorau mae Wales One World, am flas ar Affrica mae Gŵyl Ffilm Watch-Africa, Gŵyl Undod Hijinx yn dathlu artistiaid anabl, ag anableddau dysgu a/neu awtistig a'n gŵyl ffilm fwyaf yng Nghymru, Gwobr Iris Gŵyl Ffilm LGBTQ+ yn gartref i'r wobr ffilm fer fwyaf yn y byd. Rydyn ni wedi cael ein difetha am ddewis yn sicr.

Yn ogystal â lle gwych i ddarganfod ffilmiau newydd, os ydych chi'n dechrau yn y diwydiant ffilm ac yn chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli, mae gwyliau yn lle gwych i ddysgu sgiliau newydd a gwneud cysylltiadau.

"Dotty" the Cardiff Animation Festival mascot on a table in front of workers at the festival.
Cardiff Animation Festival

Ar hyn o bryd mae tua 50% o'r gwyliau yn cael eu cynnal yn ne-ddwyrain Cymru, gyda'r 50% arall yng ggogledd, dwyrain a gorllewin y wlad. Mae llawer yn cynnig digwyddiadau ar-lein ochr yn ochr â'u rhaglenni personol, gan ein bod yn gwybod y gall cyrraedd yno fod yn her.

I helpu gyda hyn, rydym wedi llunio rhestr lawn a map i'ch helpu chi i weld yn union ble a phryd mae pob gŵyl yn digwydd. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at wyliau sydd ar ddod yn fisol ar cyfryngau cymdeithasol,, rhag ofn bod angen nodyn atgoffa arnoch, yn ogystal â ble gallwch ddod o hyd i'ch sinema, clwb ffilm neu sgrin gymunedol agosaf.

Os ydych chi'n rhedeg gŵyl ffilm ac nad ydych wedi'ch rhestru isod ac yr hoffech gael eich ychwanegu (neu os hoffech gael eich tynnu o'r rhestr hon), cysylltwch â ni.Gall Gwyliau Ffilm yng Nghymru hefyd ymaelodi â Chanolfan Ffilm Cymru am ddim a gwneud cais am gyllid datblygu cynulleidfaoedd yn ogystal â chael mynediad at hyfforddiant, rhwydweithio a chyngor.

 

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

Darllen rhagor
ICO Screening Days Autumn 2
Hub Members Attend ICO Screening Days

Film Hub Members attend ICO’s Screening Days with help from training bursary

 

The ICO (Independent Cinema Office) runs national Screening Days events, a staple in the independent cinema calendar giving exhibitors the chance to watch the best upcoming film releases from across the globe and discuss them with industry peers. The Screening Days took place in both Nottingham and London in Autumn and Spring where hub members from Cymdeithas Ffilm Y Fenni, Chapter Cardiff, a Pontardawe Film Club went along to not only see upcoming releases to help develop their programmes but also for invaluable networking and discussions.

Here’s what our members told us about their experience:

These informal discussions are so helpful in sharing best practice and picking up hints and suggestions on marketing appropriate to the films. Meeting with the Film Promoters in person is always appreciated as it makes the booking of the films straight forward.

The ICO Screenings Days provide members with the opportunities to explore new UK independent and foreign language film releases as well as being able to discuss programming of various films directly with the representatives of distribution companies. David Charles Price attended on behalf of the Cymdeithas Ffilm Y Fenni to explore new UK independent and foreign language film releases. Dave came away with a plan for the next season’s programme, new contacts and potential new partnership with Borderlines Festival where they plan on sponsoring a film. Angie Dickinson attended on behalf of Pontardawe Film Club and found this opportunity significant in the programming for the venue, ultimately amending their original suggestions based off of the outcomes of attending the Screening Day as well as new marketing ideas thanks to meeting Promoters in-person.

It was not only useful to hear about strategies but also essential to demonstrate solidarity and compassion for each other as colleagues in our sector as we move forward and help each other.

Claire Vaughan from Chapter Cardiff attended the Screening finding the in-person films vital to having greater programming knowledge. Having secured bursary funding, Claire was also able to attend the ICO Audience Development day and arrange meeting with other venues in the area who have a similar offering to Chapter, visiting Derby QUAD, HOME Manchester and Phoenix Leicester. The visits and audience development day provided Claire with more in-depth knowledge on young audiences, an understanding of other venues’ strategy on resilience, leading to further meetings, as well as information on audience’s Eco credentials which she was able to feed back to the team and the UKCA policy.

Dave, Claire and Angie were able to attend the ICO Screening Days with the support of Film Hub Wales via our Bursary scheme. If you want to attend a meeting, course or event that would benefit your organisation and develop audiences but the costs are prohibitive, you can submit an application for support here.

Darllen rhagor
Oed Yr Addewid William
Oed yr Addewid: Ynglŷn â Gwleidyddiaeth Dosbarth Gofal yng Nghymru

Diffwys Criafol yw ffugenw awdur sy’n byw yng Nghaerdydd sydd â diddordeb mawr mewn dosbarth cymdeithasol. Mae’r themâu o amgylch ei gwaith fel arfer yn canolbwyntio ar y pwnc yma, fel arfer mewn perthynas â’i phrofiad bywyd ei hun. Gallwch ddod o hyd iddi ar Linktree / Instagram

Cyfieithwyd i’r Gymraeg gan Mair Lannen

"Mae [diwylliant Cymreig] yn ddiwylliant ôl-drefedigaethol, yn ymwybodol drwy’r amser o’i wendidau a photensial ei hun, yn ysu am fod yn ei hun, i ddod yn fyd ei hun, ond gyda llawer, llawer gormod ar ei gefn i allu wynebu ei ddyfodol go iawn yn gyson” - Daniel Williams ar waith Raymond Williams yn y cyflwyniad i 'Who Speaks for Wales' 2008.

Dyma ffilm sy’n wynebu nid yn unig stori un teulu ond y newid sydd wedi digwydd ar gyflymder syfrdanol yng Nghymru dros yr 20fed ganrif. Yn anesmwyth am y gorffennol, mewn penbleth yn y presennol ac yn edrych i’r dyfodol gyda llygedyn o obaith.

Oed yr Addewid - Alun and William
Oed yr Addewid – Alun a William

Fe ryddhawyd “Oed yr Addewid’” yn 2001 ond mae’r ffilm wedi’i gosod yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol y DU ym 1997 – gyda’r ffilm yn cyrraedd ei hanterth ar noson ganlyniadau’r etholiad pan enillodd y Blaid Lafur ‘newydd’ ar ôl 16 mlynedd o lywodraeth y Torïaid. Fodd bynnag, nid ffilm hanesyddol-wleidyddol yn unig mo hon, na chwaith ffilm am y problemau sy’n codi wrth heneiddio mewn cymdeithas sy’n gynyddol unigolyddol a neo-ryddfrydol. Mae’n mynd llawer dyfnach. Mae ei phortread o ddeinamig teulu yn cyffwrdd ar hanfodion ein seicoleg fel pobl a wladychwyd. Yn ymrafael rhwng ymdebygu er mwyn ymuno a chymryd rhan mewn system o greulondeb amhersonol a’r gwrth-frwydr i hyn – yr ysgogiad i gydio’n dynn yn ein diwylliant, iaith, dosbarth a lle.

I mi, mae’r cymeriadau’n alegori o densiynau a chyfeiriadau dosbarth o fewn cyd-destun y fro Gymraeg.Y Fro GymraegMae’n ymddangos bod gan William Davies, y Tad, afiechyd Alzheimer, ac mae angen gofal arno – ond pwy fydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb o’i ofal? Mae William Davies, cyn-chwarelwr a blaenor lBlaenoryn y capel , yn bortread clasurol o Gymro dosbarth gweithiol yr 20fed ganrif.

Mae’r gwrthdaro rhwng ei blant ar fater gofal William yn bersonoliad o densiwn dosbarth sy’n deillio o aelodau teulu’n symud i ddosbarth cymdeithasol gwahanol. Mae’r mab hynaf – John Meredydd – yn symud i fyny’n gymdeithasol, mae Maureen – mam sengl, yn symud i ddosbarth is. Tra bod Alun Cledwyn, y trydydd plentyn wedi cyrraedd croesffordd – yn ei chael hi’n anodd dal ymlaen i’r bywyd dosbarth canol y mae e wedi’i ddatblygu, tra’n delio a’i salwch cronig o orddibyniaeth ar alcohol.

Mae John Meredydd, sydd wedi pellhau’n gorfforol ac yn feddyliol o’i deulu er mwyn gwneud ei ffortiwn, bellach yn edrych i lawr ar ei deulu (dosbarth gweithiol) yn ddirmygus. Mae disgwyl i Maureen wneud gwaith gofal heb dâl tra’n magu tri o blant ac yn ceisio gweithio mewn dwy swydd. Mae Alun Cledwyn yn ymrafael rhwngY Fro Gymraega’r byd ehangach, ei uchelgais dosbarth canol yn mynd yn groes i’w gysylltiad â’i gartref a’i ‘etifeddiaeth’Mae tir, cymuned, iaith, teulu a Chymreictod ei hun yn cyfuno – ar un pwynt yn y ffilm, fe’i disgrifir fel rhaff am ei wddf. Dyma wrthddywediadau Cymreictod wedi eu distyllu i'w ffurf fwyaf eglur.

Mae’r ffilm hefyd yn dangos yn fedrus goblygiadau dynol preifateiddio gofal. Rydym yn gwylio polisïau’r wladwriaeth yn cipio urddas unigolion a’u teuluoedd yn ystod misoedd olaf eu bywyd.

Mae teitl y ffilm yma, “Oed yr Addewid” yn ddywediad Cymreig (ond yn gwreiddio o’r Beibl) sy’n golygu mai dim ond tan 70 oed sydd wedi’i addo i ni, mae popeth ar ôl 70 yn fonws yn ôl bob sôn! Mae’r ffilm yn agor gyda phen-blwydd William yn 70. Mae’n teimlo’n arwyddocaol i mi ers i’r ffilm ei rhyddhau am y tro cyntaf, bod y blynyddoedd gwerthfawr hyn o ymddeoliad cyn ‘oed yr addewid’ bellach yn cael eu treulio’n gweithio. Ers y Mileniwm, mae’r rhyfel dosbarth unochrog yn ein herbyn wedi ymlâdd. Bellach ni allwn edrych ymlaen at flynyddoedd o ymddeoliad – cyfle i orffwys a chael amser gyda’r teulu tra bod ein iechyd yn dda. Nawr, mae llawer o bobl (fy nhad yn un ohonynt) yn gweithio mewn swyddi sy’n gorfforol heriol ymhellach i’w 70au, tra’u bod yn deilio â nifer o gyflyrau iechyd.

Mae’r disgrifiadau o ddosbarth drwy gydol y ffilm yn hynod ystyrlon a chynnil. Teimlaf fod hwn yn arteffact diwylliannol prin sy’n llwyddo i anrhydeddu cymhlethdodau dosbarth o fewn cyd-destun siaradwyr Cymraeg. Mae’n teimlo’n ddiddorol iawn yn y dydd sydd ohoni, yn dilyn yr hyn sy’n ymddangos yn oes o galedi ariannol di-baid ers chwalfa ariannol 2008. Oes o galedi sydd wedi rhoi 22% o oedolion a thraean o blant mewn tlodi yng Nghymru,gyda llawer o’r tlodi yn effeithio ar y fro Gymraeg.

Dyma ffilm sy’n parhau’n berthnasol i’n bywydau cyfoes. Yr argyfyngau sy’n digwydd ar yr un pryd o fewn un teulu, eu perthynas â’i gilydd, a dewrder y ffilm i ymdrin â phynciau na fyddai llawer ohonom ni am eu hwynebu. Marwolaeth, gwallgofrwydd, dosbarth, hunaniaeth, a cholli ystyr. Dwyster ac ing cymunedau o siaradwyr Cymraeg. Gorddibyniaeth, rolau rhywedd, a’r ffordd yr ydym yn trin ein henoed – mae’r themâu hyn i gyd yn cael eu trafod yn y ffilm hon. Mae digon o bynciau heriol, ond i mi, fodd bynnag, mi roedd yn gathartig i’w gwylio.

Mae ymdeimlad o obaith cadarn yn rhedeg drwy’r ffilm, ynghyd â hiwmor tywyll a ffraethineb miniog dosbarth gweithiol yn y deialog sy’n helpu cario’r themâu dwys. Yn wir, dyma oedd un o’r ffilmiau gorau i mi ei gweld mewn amser hir iawn, mewn unrhyw iaith. Mae’n amserol ei rhyddhau nawr – mae angen i ni wynebu’r problemau sy’n cael eu trafod yn y ffilm ar lefel unigol ac fel cymunedau, yn awr yn fwy nag erioed.

Mae sgan newydd o Oed Yr Addewid yn dod i sinemâu yn 2025 o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Chanolfan Ffilm Cymru..

Fe gomisiynwyd yr erthygl yma gan Film Hub Wales fel rhan o’n strategaeth Gwnaethpwyd yng Nghymru sy’n dathlu ffilmiau â chysylltiadau Cymreig, diolch i gyllid gan Gymru Greadigol a’r Loteri Genedlaethol drwy’r BFI.

It was first published in Buzz Magazine.

Darllenwch y PDF

Darllen rhagor
1 2 3 19
^
CY
Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.