O animeiddio i'r awyr agored: Darganfod 40 o Wyliau Ffilm Cymru

Mai 2025

Oeddech chi'n gwybod bod Cymru'n gartref i 40 o wyliau o bob siâp a maint? Mae llawer o'r rhain yn ymroddedig i ffilm, neu mae ganddynt gynigion ffilm rheolaidd. P'un a ydych chi'n wneuthurwr ffilmiau newydd sy'n chwilio am le i lansio'ch ffilm fer nesaf, neu os ydych chi'n mynychwr brwd o’r sinema sy'n chwilio am y ffilmiau newydd gorau, mae ein gwyliau Cymreig are ich cyfer.

Yng Nghanolfan Ffilm Cymru, rydym yn gweithio gyda gwyliau ffilm, gan eu helpu i ddod â'r ffilmiau annibynnol a rhyngwladol gorau yn y DU i gymunedau Cymru drwy gydol y flwyddyn. Mae gwyliau yn chwarae rhan hanfodol yn y gadwyn ffilm. Maent yn arddangos talent newydd, yn aml yn eu helpu i sicrhau asiantau gwerthu a bargeinion dosbarthu - cyrraedd cynulleidfaoedd newydd gartref a ledled y byd. Maent hefyd yn adnabyddus am ddigwyddiadau arbennig, dewisiadau ffilm unigryw a beiddgar nad yw cynulleidfaoedd efallai yn eu gweld mewn mannau eraill a lle i'r diwydiant a'r cyhoedd ddod at ei gilydd.

Group of people sat on chairs on stage in front of a cinema screen in front of an audience.
Iris Prize Festival © Jon Pountney

Felly pa wyliau sy'n aros i gael eu darganfod ar garreg eich drws yng Nghymru? Wel, mae o leiaf 40 (rydyn ni'n gwybod amdanynt) ac nid yw hyn yn cynnwys y llawer mwy o ddigwyddiadau teithiol sy'n ymddangos mewn sinemâu yn ystod y flwyddyn a gwyliau celfyddydol ehangach sy'n sgrinio ffilmiau o bryd i'w gilydd. Mae 34 o'r rhain yn ddigwyddiadau Cymreig yn benodol ac mae 6 yn ddigwyddiadau yn y DU neu ryngwladol sy'n teithio i Gymru.

Mae gan lawer o'r gwyliau themâu unigryw (20 yr ydym yn eu cyfrif) fel Gŵyl Ffilm SeeMôr sy'n archwilio popeth sy'n ymddangos ar yr arfordir a'r môr yn Ynys Môn, Gŵyl Animeiddio Caerdydd a Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu, neu i'r rhai sy'n chwilio am wefr mae Gŵyl Arswyd Ryngwladol Abertoir - sydd ar fin dathlu ei 20fed flwyddyn yn 2025.

A group of people smiling and posing for the camera.
Watch-African Festival, Chapter Caerdydd © Wambui Gathee

Mae gwahanol wyliau yn cynnig cefnogaeth bwrpasol i dalent newydd fel Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin, Gŵyl Ffilm Fach Caerdydd a Focus Wales. Ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc mae Wicked Wales a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru i Blant. A gallwn ni barhau i’w rhestru! Ar gyfer y ffilmiau lleol a byd-eang newydd gorau mae Wales One World, am flas ar Affrica mae Gŵyl Ffilm Watch-Africa, Gŵyl Undod Hijinx yn dathlu artistiaid anabl, ag anableddau dysgu a/neu awtistig a'n gŵyl ffilm fwyaf yng Nghymru, Gwobr Iris Gŵyl Ffilm LGBTQ+ yn gartref i'r wobr ffilm fer fwyaf yn y byd. Rydyn ni wedi cael ein difetha am ddewis yn sicr.

Yn ogystal â lle gwych i ddarganfod ffilmiau newydd, os ydych chi'n dechrau yn y diwydiant ffilm ac yn chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli, mae gwyliau yn lle gwych i ddysgu sgiliau newydd a gwneud cysylltiadau.

"Dotty" the Cardiff Animation Festival mascot on a table in front of workers at the festival.
Cardiff Animation Festival

Ar hyn o bryd mae tua 50% o'r gwyliau yn cael eu cynnal yn ne-ddwyrain Cymru, gyda'r 50% arall yng ggogledd, dwyrain a gorllewin y wlad. Mae llawer yn cynnig digwyddiadau ar-lein ochr yn ochr â'u rhaglenni personol, gan ein bod yn gwybod y gall cyrraedd yno fod yn her.

I helpu gyda hyn, rydym wedi llunio rhestr lawn a map i'ch helpu chi i weld yn union ble a phryd mae pob gŵyl yn digwydd. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at wyliau sydd ar ddod yn fisol ar cyfryngau cymdeithasol,, rhag ofn bod angen nodyn atgoffa arnoch, yn ogystal â ble gallwch ddod o hyd i'ch sinema, clwb ffilm neu sgrin gymunedol agosaf.

Os ydych chi'n rhedeg gŵyl ffilm ac nad ydych wedi'ch rhestru isod ac yr hoffech gael eich ychwanegu (neu os hoffech gael eich tynnu o'r rhestr hon), cysylltwch â ni.Gall Gwyliau Ffilm yng Nghymru hefyd ymaelodi â Chanolfan Ffilm Cymru am ddim a gwneud cais am gyllid datblygu cynulleidfaoedd yn ogystal â chael mynediad at hyfforddiant, rhwydweithio a chyngor.

 

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

Noder y gall dyddiadau gwyliau newid. Edrychwch ar wefan y gwyliau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

Am Ganolfan Ffilm Cymru
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 300 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 347 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 589,000 o aelodau cynulleidfa.

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru. ChapterRydyn ni hefyd yn arwain Gwnaethpwyd yng Nghymru, prosiect sy’n dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig. Rydym hefyd yn falch o fod wedi arwain ar strategaeth Sinema Gynhwysol DU ar ran BFI FAN 2017-23.

Ganolfan Ffilm Cymru: Gwefan, X (Twitter gant), Facebook, Instagram
Gwnaethpwyd yng Nghymru Instagram, TikTok, Facebook, podlediad Made in Wales, YouTube, Letterboxd.

Am Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI
Gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Genedlaethol, mae FAN BFI yn ganolog i nod y BFI o sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi’i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema DU ehangach a mwy amrywiol i ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad DU gyfan, unigryw sydd yn cynnwys wyth o ganolfannau a reolir gan gyrff a lleoliadau ffilm amlwg wedi’u lleoli’n strategol o amgylch y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Swyddogion Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o’r canolfannau yn Lloegr, gyda chenhadaeth o ddarganfod a chefnogi ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:

  • Canolfan Ffilm y Midlands dan arweiniad Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth gyda Flatpack Birmingham
  • Canolfan Ffilm Gogledd Lloegr dan arweiniad Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manceinion
  • Canolfan Ffilm De Ddwyrain Lloegr dan arweiniad Swyddfa Sinema Annibynnol
  • Canolfan Ffilm De Orllewin Lloegr dan arweiniad Watershed ym Mryste
  • Canolfan Ffilm yr Alban dan arweiniad Glasgow Film Theatr
  • Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon dan arweiniad Queen’s University Belfast
  • Canolfan Ffilm Cymru dan arweiniad Chapter yng Nghaerdydd
  • Canolfan Ffilm Llundain dan arweiniad Film London

Gwefan

Am BFI
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy:

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.
Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI ydy Jay Hunt.

Gwefan, Facebook, X (Twitter gant)

About Chapter
Set up by artists in 1971, Chapter is an international centre for contemporary arts and culture. We are a hub for the production and presentation of world-class, inventive and compelling work. Our gallery commissions and produces exhibitions of the very best in national and international art. Our theatre spaces are a platform for experimental and thought-provoking work. Our cinemas offer independent and challenging films alongside a range of unique festivals and events, and we bring more films, to more people, in more places through Film Hub Wales.

Ochr yn ochr â’i rhaglen graidd, mae Chapter hefyd yn gartref i 56 o artistiaid a chwmnïau creadigol sy’n gweithio yn eu stiwdios. O animeiddwyr a chwmnïau cynhyrchu ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau, i artistiaid, dylunwyr a ffotograffwyr, yn ogystal â chwmni fframio celf, argraffwyr a stiwdios recordio. Mae’r gymuned greadigol wrth galon holl weithgarwch Chapter.

Daw’r rhaglen a’r gymuned ynghyd yn eu Caffi Bar sydd wedi ennill gwobrau. Gyda lle i hyd at 120 o bobl eistedd, mae’r caffi yn lle gwych i gyfarfod ffrindiau, darganfod lle tawel i weithio, neu i fwynhau diod neu damaid o fwyd blasus, ffres wedi’i baratoi â chynhwysion a brynwyd yn lleol, o fwydlen eang.

Gwefan, Facebook, X (Twitter gant), Instagram

 

 

^
CY
Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.