Mae biliau ynni Cellb ym Mlaenau Ffestiniog, wedi cynyddu o 700% yn y chwarter diwethaf. Yn sgil hyn, mae’r ganolfan dan arweiniad pobl ifanc yn gweithio’n greadigol i barhau i ddarparu adloniant sinematig gyfoes y mae’r gymuned leol yn ei fwynhau, a hynny am bris fforddiadwy. Maent wrthi’n ailddatblygu eu Clwb Ffilmiau Blaenau Vista gyda dangosiadau a sesiynau holi ac ateb ar gyfer ffilmiau megis Enys Men a’r ffilm a wnaed yng Nghymru, Y Sŵnei dangos gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r Cyfarwyddwr ar y 10fed o Fawrth, i ddathlu pen-blwydd Cellb yn 16 oed, gyda thocynnau’n costio £5. Bydd sesiwn holi ac ateb i gynulleidfaoedd ifanc yn dilyn y ffilm, gyda ffocws ar y thema o brotest gyda’r Darlithydd Selwyn Williams a’r gwrthgiliwr lleol, Ceri Cunnington.
Yn Theatr Gwaun yn Sir Benfro, mae’r sinema yn gweithio gyda’i Phanel Ffilmiau Cymunedol a Chymdeithas Ffilmiau Abergwaun i adennill eu cynulleidfa yn dilyn y pandemig, tra hefyd yn delio â phwysau ariannol yn sgil chwyddiant. Maent yn arwain y ffordd gyda rhaglen gyffrous sy’n rhoi eu cynulleidfa gyntaf. Bydd y cyllid yn cefnogi dangosiadau o ffilmiau annibynnol o fis Ionawr i fis Ebrill 2023, gyda ffilmiau megis, y dirgel Decision to Leave o Dde Corea, y ffilm o Orllewin Cymru, The Toll, yn ogystal â’u Clwb Fore Sadwrn i Blant sy’n costio £3 a’u menter POINT Presents mewn partneriaeth â’u canolfan ieuenctid leol.
Dyma Paul Howe, Rheolwr Theatr Gwaun yn esbonio sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar sinemâu:
Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i sinemâu. Fel nifer o sinemâu annibynnol bach, un sgrin ledled Cymru, mae Theatr Gwaun yn delio gyda heriau’r argyfwng costau byw ac yn benderfynol o ddod trwyddi. Mae ein costau gweithredu dan bwysau gan fod costau tanwydd a chostau masnachu yn cynyddu a chwyddiant / polisi’r llywodraeth yn arwain at gynnydd anochel ac angenrheidiol yng nghyflogau staff. Dim ond un ochr i’r geiniog yw hyn wrth gwrs. Mae ein cynulleidfaoedd hefyd yn gwneud penderfyniadau anodd yng nghylch eu cyllidebau personol. Mae ffocws tyn ar gostau, ynghyd â rhaglennu arloesol a chreadigol, marchnata atyniadol a chydweithredu’n agosach gyda chyrff cyllido cefnogol, megis Canolfan Ffilm Cymru yn strategaethau sy’n bwysicach nag erioed wrth i ni ddod drwy’r cyfnod anodd hwn.
Mae sinema The Magic Lantern yn Nhywyn yn wynebu’r un cynnydd mawr i gostau ynni â’r bobl yn ei chymuned. Mae’r sinema wedi’i lleoli mewn ardal wledig ynysig lle mae incwm yn gysylltiedig â thwristiaeth dymhorol. Mae hi’n darparu gofod cymdeithasol hanfodol, ond mae cynulleidfaoedd wedi rhannu bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ar eu gallu i fynychu’r sinema.
Esboniodd Annie Grundy o sinema The Magic Lantern:
Mae ein cynulleidfaoedd wedi dweud wrthon ni nad ydynt yn gallu fforddio gweld yr holl ffilmiau maent am eu gweld, ond mae’n fwy pwysig nag erioed i ni eu bod yn gallu mynychu. Felly rydyn ni’n lansio ein cynnig £3 ‘Wonderful Wednesdays’ yn ystod mis Mawrth, yn ogystal â chydweithio â Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd er mwyn cynnig dangosiadau am ddim i’r rheiny sy’n 11-25 mlwydd oed. Rydyn ni hefyd yn cynnal diwrnod agored i gychwyn sgwrs ynglŷn â’r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu cynulleidfaoedd ifanc a hŷn, sy’n teimlo’r esgid yn gwasgu. Mae gweld ffilm ar y sgrin fawr gyda sain amgylchynol yn rhoi gwerth eich arian am noson allan wych yn Nhywyn, ac rydyn yn cadw ein prisiau mor fforddiadwy â phosib.
Mae cyllid hefyd wedi’i gadarnhau ar gyfer Canolfan Gelfyddydau Wyeside (Llanfair-ym-muallt), Y Torch (Aberdaugleddau), Theatr y Ddraig (Abermaw) a Chanolfan Gelfyddydau Pontardawe (Cwm Tawe).
Dyma Hana Lewis, Rheolwr Canolfan Ffilm Cymru yn esbonio pam lansiwyd y gronfa:
Dros y misoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld sawl sinema boblogaidd ar draws y DU – megis Kinokulture ar y ffin a Premiere Cinema Caerdydd – yn cau. Mae sinemâu yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw ar sawl lefel – o gynnydd yng nghostau cyflenwi, i gyllid sy’n aros yn stond neu sy’n lleihau. Rydyn hefyd yn gweithredu mewn ‘normal newydd’ – yn ailadeiladu cynulleidfaoedd ar ôl Covid ac yn esblygu fel sefydliadau. Gwyddwn na fydd y cyllid yma yn datrys yr argyfwng i’r canolfannau, ond rydyn ni wrth ein boddau’n cefnogi’r canolfannau hyn sydd wrth galon cynifer o gymunedau Cymreig, ym mha bynnag ffordd y gallwn, a rhoi’r cyfle i bobl ffoi i fyd newydd ar y sgrin.
Mae Canolfan Ffilm Cymru yn bosib diolch i gyllid gan Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Genedlaethol. Mae BFI FAN yn cynnig cefnogaeth i arddangoswyr ffilmiau ledled y DU, er mwyn cynyddu rhaglennu diwylliannol ac ymwneud â chynulleidfaoedd amrywiol. Yng Nghymru caiff y gwaith ei arwain gan Ganolfan Ffilm Cymru, dan reolaeth Chapter.
Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma
-DIWEDD-