Hub Helo 2025 | Neuadd y Dref Maesteg

© Neuadd y Dref Maesteg

Cadwch y Dyddiad a Archebwch eich lle

Cymerwch amser i adlewyrchu, cwrdd â chydweithwyr o bob cwr o Gymru a dod o hyd i ysbrydoliaeth ym mhrosiectau eich gilydd drwy sesiynau rhyngweithiol byr. Byddwn hefyd yn rhoi diweddariad ar gronfeydd y Ganolfan ar gyfer 2025.

Bydd y sesiynau hanner awr o hyd yn cynnwys pob math o bynciau, megis, cyrraedd cydweithrediadau cymunedol gwledig gyda TAPE, blaenoriaethu cynhwysiant gyda Hijinx ac ymgysylltu â chymunedau newydd gyda Watch-Africa. Siaradwyr eraill i’w cadarnhau.

Gallwch gyrraedd Maesteg ar drên, fws neu mewn car. Os fyddwch yn teithio mewn car, rydym yn annog pobl i ystyried eu hallyriadau carbon ac i rannu cerbydau lle fo’n bosib ac / neu ystyried gwrthbwyso carbon.

*Mae hwn yn ddigwyddiad ecsgliwsif ar gyfer aelodau Canolfan Ffilm Cymru ac aelodau o Ganolfannau Ffilm ledled y DU. Os nag ydych chi’n aelod, gallwch ymuno yma.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi!

Archebwch eich lle yma.


Cefnogaeth Bwrsari ac Aelodaeth

Efallai yr hoffech chi hefyd...

^
CY