Ffilmiau Iris am Ddim

Heddiw (9 Ebrill 2020), mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris wedi cadarnhau eu bod rhyddhau tair ffilm fer o archif Iris, yn rhad ac am ddim, ar eu sianel YouTube. Mae'r ffilmiau i gyd yn cael eu cyfarwyddo gan fenywod sydd wedi gwneud ffilmiau byrion gyda'r Wobr Iris gwerth £30,000, a noddir gan Sefydliad Michael Bishop.

Mae’r ffocws ar y menywod llwyddiannus sydd wedi gwneud ffilmiau ar gyfer Gwobr Iris yn rhagflaenu première byd eang ffilm Lara Zeidan, A Beautiful Form to See, gydag Alicia Agneson (Vikings) yn serennu. Bydd yr 11eg cynhyrchiad Iris yn cael ei ddangos fel rhan o Ŵyl Ffilm LHDT+Gwobr Iris 2020 yng Nghaerdydd ar y noson agoriadol - nos Fawrth 6 Hydref. Bydd y gyfarwyddwraig Lara Zeidan, o Libanus, yng Nghaerdydd i gyflwyno ei ffilm sy'n cael ei disgrifio fel dathliad llesmeiriol o'r sylliad benywaidd.

Mae’r ffocws yn mynd yn fyw heddiw (dydd Iau 9 Ebrill 2020) ar Sianel YouTube Gwobr Iris gyda ffilm Dee Rees, Colonial Gods. Ym mis Mai byddwn yn rhannu Daisy and D gan Arkasha Stevenson, ac ym mis Mehefin bydd Wild Geese gan Susan Jacobson ar gael.

Ym mis Medi byddwn hefyd yn rhannu ffilm fer ar y broses o wneud A Beautiful Form to See, sy'n cynnwys cyfweliadau gyda Lara Zeidan ac Alicia Agneson, fel rhagolwg i’r dangosiad cyntaf ar y sgrin fawr yng Nghaerdydd ym mis Hydref.

Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl:

Un o’r prif resymau i Iris fodoli yw cael mwy o bobl i weld straeon LHDT+. Gobeithio y bydd y ffocws hwn yn cyfuno ein brwdfrydedd dros ŵyl ffilm mis Hydref yng Nghaerdydd â realiti heddiw, pan fydd gan bobl fwy o amser i gael mynediad at gynnwys yn ystod y cyfnod hwn o gadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau symud.

Mae'r gymysgedd o ffilmiau yn wirioneddol syfrdanol. Rydym bob amser wedi bod yn falch o'r ffaith bod Gwobr Iris yn gyfle prin iawn i wneuthurwyr ffilm wneud beth bynnag yr hoffent eu gwneud. Dyma'r straeon maen nhw am ddod â nhw i'r sgrin, heb unrhyw ymyrraeth gan gyllidwr nac ariannwr. Wrth i ni symud ymlaen yn ystod y ffocws, yn arwain at yr ŵyl ym mis Hydref, byddwn hefyd yn cael cyfle i drafod y gwaith ac i’w rhoi mewn cyd-destun trwy rannu atgofion o gynhyrchu’r ffilmiau hyn yng Nghaerdydd a’r ardal gyfagos.

Wrth i ni symud ymlaen yn ystod y ffocws, yn arwain at yr ŵyl ym mis Hydref, byddwn hefyd yn cael cyfle i drafod y gwaith ac i’w rhoi mewn cyd-destun trwy rannu atgofion o gynhyrchu’r ffilmiau hyn yng Nghaerdydd a’r ardal gyfagos.

Colonial Gods, Cyfarwyddwraig / Awdur: Dee Rees

Yn briodol, mae'r ffocws yn dechrau yn y dechrau gyda Dee Rees. Nid oedd yn syndod i’r rhai sy’n cofio ei ffilm fer arobryn Pariah, a enillodd y Wobr Iris gyntaf yn 2007, bod Dee Rees wedi cael ei henwebu am Oscar ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Yn dilyn cyfarfod â Thîm Iris yn Sundance 2008, dychwelodd Dee i Gaerdydd ym mis Hydref i fod yn rhan o Reithgor Rhyngwladol Gwobr Iris, traddodiad sy'n parhau hyd heddiw, gydag enillydd Gwobr Iris flaenorol yn cymryd sedd wrth y bwrdd beirniadu. Yn ystod ei harhosiad yng Nghaerdydd, llwyddodd Dee i estyn allan at aelodau o gymuned amlddiwylliannol Bae Caerdydd a dechreuodd ei stori ymffurfio. Dangoswyd cynhyrchiad cyntaf Iris, Colonial Gods, am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris yn 2009 a'r flwyddyn ganlynol fe’i dangoswyd yn LA yn OUTFEST Fusion a BFI Flare Llundain.

Gallwch wylio Colonial Gods fan hyn: https://youtu.be/9rHXE9hAg-c

Mae Colonial Gods ar gael i’w phrynu fel rhan o Boys on Film 9 – Youth in Trouble, gan Peccadillo Pictures. Gallwch brynu eich copi gan hyn: peccapics.com/product/boyson-film-9-youth-in-trouble/

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill yn y ffocws mae'r première ar-lein fis Mai o Daisy & D, wedi'i hysgrifennu, ei chyfarwyddo, a'i golygu gan enillydd Gwobr Iris, Arkasha Stevenson. Mae Daisy & Dyn portreadu digwyddiad wnaeth Arkasha weld yn ystod aseiniad ffotonewyddiaduraeth. Mae’r ffilm yn archwilio'r cariad cymhleth a all fodoli rhwng dau berson yn yr amgylchiadau mwyaf hyll. Mae'n dywyll ac yn hyll i'w wylio - pe na bai, yna byddai rhywbeth o'i le.

Y première ar-lein olaf ym mis Mehefin fydd Wild Geese, wedi'i chyfarwyddo gan Susan Jacobson a'i hysgrifennu gan Katie Campbell a Kayleigh Llewellyn. Yn llawn comedi a bregusrwydd dynol, mae hon yn stori am adferiad a natur achubol cariad. Pan fydd Amy yn dal ei gŵr ar ei weithred, mae'n cwympo i lawr grisiau ac yn deffro gydag amnesia - gan gredu ei bod hi'n 16 oed a bod y flwyddyn yn 1999.

Prif noddwyr yr ŵyl yw: Sefydliad Michael Bishop, Llywodraeth Cymru, BFI yn dyfarnu arian o’r Loteri Genedlaethol, Film4, Ffilm Cymru Wales, Grŵp Stiwdios Pinewood, Prifysgol Caerdydd, BBC Cymru Wales, FOR Cardiff, Bad Wolf, Grŵp Gorilla, Co-op Respect, Prifysgol De Cymru, Ministry of Sound, a Cineworld.

Mae'r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BAFTA Cymru, Pride Cymru a Stonewall Cymru.

^
CY