De Cymru
Cinema Golau (Casnewydd)
17ed Mehefin - 19ed Mehefin 2022
Mae Cinema Golau, Gŵyl Caribîaidd Windrush a pharteriaid cymunedol yn cydweithio i ddathlu Diwrnod Windrush, gan addysgu cymunedau am y cyfraniadau a wnaeth cymuned Caribîaidd Windrush i Gymru a’r DU gyfan. Dros dridiau yng Nglan yr Afon yng Nghasnewydd fe fydd yr ŵyl ffilmiau yn cynnig dangosiadau ffilm fforddiadwy, gweithdai a thrafodaethau panel gan alluogi’r lleoliad i ailgysylltu gyda chynulleidfaoedd yn dilyn cyfyngiadau Covid ac ailsefydlu cysylltadau gyda’r diwydiant ffilm.
Twitter, Facebook
Birds Eye View (Caerdydd)
Gorffennaf - Rhagfyr 2022
Gan adeiladu ar eu perthynas cychwynnol gyda Chanolfan Gelfyddydau Chapter a nifer o sgriniau cymunedol yn y brifddinas fe fydd Birds Eye View yn datlbygu Reclaim the Frame (RtF) yng Nghymru gyda chefnogaeth Impact Producer o Gaerdydd i gyflwyno rhagor o ddigwyddiadau ffilm ac adeiladu cymuned fwy o gynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau gan wneuthurwyr ffilmiau benywaidd ac anneuaidd yng Nghaerdydd. Fe gaiff teitlau RtF eu dangos gyda digwyddiadau byw a sgyrsiau o Holi ac Ateb i drafodaethau a gweithdai.
Gwefan, Twitter
Gentle/Radical – A Re-Gathering: Hyper-local R&D Screenings (Riverside)
Gorffennaf - Rhagfyr 2022
Yn dilyn dwy flynedd o Covid ac absenoldeb cyflwyno dangosiadau cymunedol fe fydd Gentle Radical yn ailgysylltu gyda chynulleidfaoedd cymdogaeth a darganfod beth ydy eu anghenion drwy gyfres o ddangosiadau pop-yp yng Nglan-yr-Afon a fydd yn gweithredu fel R&D ar gyfer cyfnod newydd Clwb Ffilmiau Gentle/Radical. Fe fyddan nhw yn treialu amrediad o genre ffilmiau a themâu/materion gyda chynulleidfoaedd lleol, yn cael eu marchnata drwy allgyrraedd lleol uniongyrchol, cnocio drysau, taflennu strydoedd unigol a threfnu ymgynulliadau lleol.
Gwefan, Twitter, Facebook
Memo Arts Centre (y Barri)
Medi - Rhagfyr 2022
Mae Cine Memo yn dangos ffilmiau amrywiol Prydeinig, Cymreig, rhyngwladol ac annibynnol ochr yn ochr gyda theitlau ffilmiau poblogaidd gan gynnig sinema fforddiadwy, hygyrch ac ymlaciedig yn gynrychioledig o’r gymuned ehangach. Mae’r rhaglen yn annog mynychwyr sinema i ailymgysylltu gyda’r profiad sinema sgrin fawr a digwyddiadau cymryd rhan. Mae MAC yn cydnabod pwysigrwydd ei rôl fel sinema i helpu’r gymuned i ddod dros Covid, i ailadeiladu o’r effaith enfawr ar eu iechyd a llesiant economaidd a chymdeithasol. Mae digwyddiadau yn amrywio o ddangosiadau ar thema cwricwlwm gydag ysgolion, i ffilmiau teulu penwythnos, cyfeillgar i fabanod a chyd-ganu a gweithgareddau i gefnogi rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr, cynulleidfaoedd anabl a niwroamrywiol.
Gwefan, Twitter, Facebook
Gogledd Cymru
Cellb (Blaenau Ffestiniog)
Ebrill - Rhagfyr 2022
Fe wnaeth Cyswllt Cymunedol esblygu o syniad prosiect Sinema’r Byd Cellb, fel dull o ddangos ffilmiau Byd ym Mlaenau Ffestiniog. Mae hyn wedi tyfu i gynnwys ffilmiau annibynnol, ffilmiau Cymreig, ffilmiau dogfen a mathau eraill o ffilmiau sydd wedi’u tangynrychioli. Y nod ydy troi’r dangosiadau yn ddigwyddiadau gyda bwyd a diod, sesiynau Holi ac Ateb a grwpiau trafod.
Gwefan Twitter, Facebook
Off Y Grid
(Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli, Pontio ym Mangor, Cellb ym Mlaenau Ffestiniog, Neuadd Ogwen ym Methesda, Galeri yng Nghaernarfon, Dragon Theatre yn y Bermo a TAPE ym mae Colwyn):
Ebrill - Rhagfyr 2022
Mae Off Y Grid yn rhwydwaith o 7 o leoliadau ar draws gogledd Cymru sydd yn cydweithio ar weithgareddau fforddiadwy drwy gydol y flwyddyn gyda’r nod o hyrwyddo ffilmiau annibynnol a diwylliant byd-eang i gynulleidfaoedd gwledig yn eu sinemau lleol annibynnol. Yn 2022 fe fyddan nhw yn parhau i gefnogi ffilmiau Cymreig yn cynnwys digwyddiadau arbennig o amgylch Gwledd a Y Cymro, cyfres o ffilmiau gan wneuthurwyr ffilm benywaidd llwyddiannus fel Jane Campion a Kelly Reichardt, dathlu Pride a rhaglen o ffilmiau i hyrwyddo Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.
Twitter, Facebook
Dragon Theatre (Y Bermo):
Mehefin - Rhagfyr 2022
Tref fechan glan y môr ydy’r Bermo sydd yn croesawu twristiaid drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yn yr haf. Drwy raglen o ffilmiau Cymreig fe fydd trigolion ac ymwelwyr yn darganfod gwahanol bersbectifau o Gymru ar sgrin. Fe fydd ffilmiau byr, ffilmiau a digwyddiadau arbennig gyda doniau yn cyflwyno cynulleidfaoedd i’r broses greadigol o wneud ffilmiau, diwylliant Cymreig ac yn galluogi’r gymuned i ailgysylltu yn dilyn covid-19. Mae gweithgareddau hefyd yn cynnwys Young at Heart a Chlwb Ffilm Sadwrn i gynulleidfaoedd ifanc.
Gwefan, Twitter, Facebook
Gorllewin Cymru
Magic Lantern (Tywyn):
Mehefin - Rhagfyr 2022
Fe fydd Magic Lantern yn ‘codi llinynnau’ bod yn gadarnhaol ar ôl covid. Drwy ymchwil cynulleidfa fe fyddan nhw yn ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd iau a chadanrhau rhaglennu drwy griw ifanc gan wahodd rhagor o bobl ifanc i fynychu eu dangosiadau ffilm Gwnaethpwyd yng Nghymru, ffilmiau Clwb Ffilm misol a fflimiau ‘Môr a Mynydd’ misol ynghylch gweithgareddau awyr agored a dangosiadau ffilmiau arswyd archif gyda cherddoriaeth byw.
Gwefan, Twitter, Facebook
Sinema Sadwrn (Llansadwrn)
Ebrill - Rhagfyr 2022
Fe fydd Sinema Sadwrn yn Llansadwrn yn rhaglennu naw ffilm yn cynnwys pump dangosiad o ffilmiau annibynnol Prydeinig (yn cynnwys rhai Cymreig) a rhyngwladol. Fe fyddan nhw yn dangos ffilmiau byr Cymreig cyn pob un o’r naw prif ffilm i arddangos talent Cymreig newydd a straeon sydd yn adlewyrchu bywyd yng Nghymru a fydd yn cyd-daro gyda phrofiadau aelodau’r gynulleidfa. Yn dilyn oedi oherwydd covid mae’r sinema fechan wledig yma yn parhau i ddarganfod ei thraed ar ôl ailagor ac fe fydd eu rhaglen yn rhoi cyfle i fynychwyr sinema ailgysylltu yn ddiogel gyda’r gymuned drwy rannu profiad sinematig.
Facebook
Ar draws Cymru
Hijinx – Gŵyl Ffilmiau Unity (Caerdydd, Bangor a Llanelli)
20ed Mehefin - 1ain July 2022
Mae Gŵyl Hijinx Unity yn ŵyl gelfyddydol gynhwysol sydd yn rhedeg bob 2 flynedd ers 2008. Eleni am y tro cyntaf fe fydd gŵyl ffilmiau yn rhedeg pchr yn ochr yn Chapter Caerdydd (20 a 21), Pontio ym Mangor (28 Mehefin) a Ffwrnes yn Llanelli (1 Gorffennaf). Gan arddangos gwaith cynhwysol gan bobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth fe fydd yn cynnwys ffilmiau a ffilmiau byr o bob math, trafodaethau panel a sesiynau Holi ac Ateb wyneb yn wyneb ac ar Zoom.
Gwefan Facebook
Watch-Africa CIC – Watch-Africa gŵyl ffilmiau (Caerdydd, Abertawe, Bangor, Tywyn)
Ebrill - Rhagfyr 2022 2022
Fe fydd 9ed Gŵyl Ffilmiau Watch-Africa yn edrych ar beth sydd yn cysylltu gweddill y byd i gyfandir Affrica, sut i greu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wahanol ffyrdd o fyw a chysylltu gydag eraill.
Fe fydd yr ŵyl yn archwilio themau byd-eang o amrywiaeth a chynhwysiant ar draws iaith, hunaniaeth a pherthyn drwy raglen o ffilmiau a gweithgareddau. Yn benodol fe fydd Watch-Africa yn archwilio Ujamaa, gair Swahili yn golygu cymundod ac yn ystyried sut beth ydy cynhwysiant i gymunedau gwledig yn Affrica – sut maen nhw’n cysylltu gyda mudiadau byd-eang fel Black Lives Matter a SARS.
Fe fyddan nhw hefyd yn gweithio gyda Docubox, cronfa ffilmiau dogfen Dwyrain Affrica sydd yn cefnogi gwneuthurwyr ffilm ar draws Dwyrain Affrica, ar gyfnewid ffilmiau a dosbarthiadau meistr lle bydd 4 ffilm Gymreig yn cael eu dangos yn Kenya/Dwyrain Affrica a Chymru, gan archwilio iaith, hunaniaeth, mudo a gweledigaeth y dyfodol.
Web, Twitter, Facebook
Gŵyl Ffilmiau WOW (Cymru Gyfan yn cynnwys Casnewydd ac Abertawe)
24ed Chwefror - 12ed Mawrth 2023
Taith Cymru gyfan o 15 o ddangosiadau gyda ffocws ar bobl gynhenid. Eu ieithoedd a diwylliannau ehangach, yn cynnwys sut mae diogelu eu hamgylcheddau naturiol yn cynnig gwerrs hanfodol inni ar gyfer y dyfodol. Mae’r daith yn cynnwys ffilmiau o India, Asia, De America, Affrica a bydd yn digwydd o amgylch Diwrnod Rhyngwladol Menywod. Yng Nghasenwydd ac Abertawe fe fydd Clwb Ffilm WOW yn ymestyn allan i fenywod BIPOC gan gynnig dangosiadau yn ystod y dydd a chynigion ar gyfer y daith ehangach. Fe gaiff y daith ei chynnig hefyd i gymdeithasau ffilm ar gyfer dangosiadau digwyddiadau arbennig.
Gwefan Twitter, Facebook
Kotatsu Japanese Animation Festival (Caerdydd, Aberystwyth a Bangor)
1ain Medi - 31ain October 2022
Fe fydd Gŵyl Ffilmiau Siapaneaidd Kotatsu yn dangos detholiad o ffilmiau yn Chapter Caerdydd, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth a Pontio Bangor, gyda gweithdai ar-lein Zoom a sesiynau Holi ac Ateb. Eleni maen nhw’n cyflwyno Manga Comic Café (ardal ddarllen comig Siapaneiaidd am ddim) ym mhob lleoliad ac mewn caffis lleol – i hyrwyddo diwylliant Siapaneaidd ochr yn ochr gyda’r ŵyl.
Gwefan Twitter, Facebook