O’r Lleol i’r Byd-eang - Sinemau a Gwyliau Ffilm Cymreig yn ailgysylltu Cynulleidfaoedd gyda’r Byd yn 2022 

© Hijinx, Magic Lantern, Cinema Golau
Mehefin 2022


Mae Canofan Ffilm Cymru wedi dyfarnu £70,000 mewn cyllid Loteri Cenedlaethol i
13 o sinemau annibynnol a gwyliau ffilm yng Nghymru drwy ei Gronfa Arddangos Ffilmiau.  

Fe fydd y cyllid yn galluogi cymunedau Cymreig i ailgysylltu drwy ffilm gan gefnogi eu lleoliad lleol. Gydag undod dan sylw, fe fydd straeon ar sgrin o Gymru ac ar draws y byd, a digwyddiadau a gweithdai arbennig yn edrych ar beth mae’n ei olygu i fod yn Gymreig ar ôl Covid. 

Mae digwyddiadau i ddod yn cynnwys Gŵyl Caribîaidd Windrush a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau a Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd ym mis Mehefin eleni, mewn partneriaeth gyda Cinema Golau. Wrth i sinemau barhau i fod mewn cyfnod o ansicrwydd yn dilyn y pandemig, fe fydd yr ŵyl yn cynnig digwyddiadau ffilm fforddiadwy, gan groesawu pobl yn ôl i’r lleoliad i ddarganfod stori cenhedlaeth Windrush Cymru. 

Ynglŷn ag Yvonne Connike y gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen ato:  

“Mae gennym raglen rhyng-genedlaethau bywiog sydd yn adrodd stori cymuned amhrisiadwy cenhedlaeth Windrush yn y DU. Fe fydd plant a’u teuluoedd yn mwynhau ffilmiau animeiddio a ffilmiau byr gan artistiaid Caribîaidd. Fe fydd hefyd linyn gwych o ffilmiau byr gan fenywod Caribîaidd, rhai yn dod o Gymru. Mae’r ŵyl yn cynnig cyfle gwych i bontio’r sgwrs am bopeth amhrisiadwy cenhedlaeth Windrush, ar gyfer cenedlathau’r gorffennol, presennol a dyfodol.” 

Yng Nglan-yr Afon, Caerdydd mae, Gentle/Radical yn cynllunio chwyldro stepen drws drwy ail-lansio eu Clwb Ffilmiau lleol. Fe fyddant yn ymestyn at drigolion lleol yn uniongyrchol gan eu galluogi i gymryd rhan mewn rhaglennu ffilmiau rhyngwladol a Chymreig, cyfarfod eu cymdogion ac edrych ar sut y gall sinema fod yn adnawdd diwylliannol pwerus o fewn bywyd o ddydd i ddydd.  

Mae Rabab Ghazoul yn esbonio:  

“Rydym yn hynod o gyffrous o fod yn lansio dangosiadau cymunedol unwaith eto yng nghanol ein cymdogaeth leol yng Nglan-yr-Afon. CynCovid roedd gennym gynlluniau i archwilio dangosiadau stryd yn yr ardal ond bu’n rhaid gohirio’r cynlluniau hynny. Felly rydym yn edrych ymlaen at dreialu’r model yma o’r diwedd, gan edrych ar yr awydd ymysg ein trigolion ar gyfer dangosiadau stryd gan ddwyn cymdogion sydd yn byw yn agos i fwynhau ffilm, bwyd a sgwrs gyda’i gilydd.” 

O wyliau ffilm rhyngwladol i rwydweithiau sinema gwledig, mae prosiectau a gyllidir gan Ganolfan Ffilm Cymru eleni yn gymdeithasol ymwybodol ac yn eofn, yn uchelgeisiol yn eu hymdrech i hyrwyddo hunaniaeth Gymreig gynhwysol drwy ofod cymunedol sinema.  

Mae Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru yn esbonio: 

“Mae’r byd yn newid yn gyflym ac adlewyrchir hyn yn y straeon rydym yn chwilio amdanyn nhw ar sgrin. Mae’r prosiectau rydym yn eu cefnogi yn 2022 yn edrych ar sut rydym yn gweld ein hunain yng nghyd-destun y newidiadau yma. O ddangosiadau lleol sydd yn dwyn pobl at ei gilydd ar eu strydoedd i berthynas Cymru gydag Affrica neu gyfraniad amhrisiadwy cenhedlaeth Windrush mae sinemau yn helpu cymunedau i wella a mwynhau unwaith eto ond hefyd i ddarganfod pwy ydyn ni fel Cymry mewn cyd-destun byd-eang.”

Cefnogir y prosiectau gan Ganolfan Fflm Cymru, rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI gan ddefnyddio cyllid gan y Loteri Cenedlaethol i sicrhau bod y dewis mwyaf o sinema ar gael i bawb ar draws y DU. 

Mae Cronfa Arddangos Ffilm y BFI FAN yn bosibl diolch i arian y Loteri Genedlaethol gan Sefydliad Ffilm Prydain (BFI), trwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae’r gronfa’n cynnig cymorth ailagor i arddangoswyr ar draws y DU gyfan, i roi hwb i raglennu diwylliannol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol wrth i gyfyngiadau leddfu. Gweinyddir cyllid yng Nghymru gan FHW drwy Chapter fel y Sefydliad Arweiniol Canolfan Ffilm. 

Mae dros £30m yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU gan y Loteri Genedlaethol.

 

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

-DIWEDD-

De Cymru 

Cinema Golau (Casnewydd)
17ed Mehefin - 19ed Mehefin 2022
Mae Cinema Golau, Gŵyl Caribîaidd Windrush a pharteriaid cymunedol yn cydweithio i ddathlu Diwrnod Windrush, gan addysgu cymunedau am y cyfraniadau a wnaeth cymuned Caribîaidd Windrush i Gymru a’r DU gyfan. Dros dridiau yng Nglan yr Afon yng Nghasnewydd fe fydd yr ŵyl ffilmiau yn cynnig dangosiadau ffilm fforddiadwy, gweithdai a thrafodaethau panel gan alluogi’r lleoliad i ailgysylltu gyda chynulleidfaoedd yn dilyn cyfyngiadau Covid ac ailsefydlu cysylltadau gyda’r diwydiant ffilm.
Twitter, Facebook

Birds Eye View (Caerdydd)
Gorffennaf - Rhagfyr 2022
Gan adeiladu ar eu perthynas cychwynnol gyda Chanolfan Gelfyddydau Chapter a nifer o sgriniau cymunedol yn y brifddinas fe fydd Birds Eye View yn datlbygu Reclaim the Frame (RtF) yng Nghymru gyda chefnogaeth Impact Producer o Gaerdydd i gyflwyno rhagor o ddigwyddiadau ffilm ac adeiladu cymuned fwy o gynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau gan wneuthurwyr ffilmiau benywaidd ac anneuaidd yng Nghaerdydd. Fe gaiff teitlau RtF eu dangos gyda digwyddiadau byw a sgyrsiau o Holi ac Ateb i drafodaethau a gweithdai.
Gwefan, Twitter

Gentle/Radical – A Re-Gathering: Hyper-local R&D Screenings (Riverside)
Gorffennaf - Rhagfyr 2022
Yn dilyn dwy flynedd o Covid ac absenoldeb cyflwyno dangosiadau cymunedol fe fydd Gentle Radical yn ailgysylltu gyda chynulleidfaoedd cymdogaeth a darganfod beth ydy eu anghenion drwy gyfres o ddangosiadau pop-yp yng Nglan-yr-Afon a fydd yn gweithredu fel R&D ar gyfer cyfnod newydd Clwb Ffilmiau Gentle/Radical. Fe fyddan nhw yn treialu amrediad o genre ffilmiau a themâu/materion gyda chynulleidfoaedd lleol, yn cael eu marchnata drwy allgyrraedd lleol uniongyrchol, cnocio drysau, taflennu strydoedd unigol a threfnu ymgynulliadau lleol.
Gwefan, Twitter, Facebook

Memo Arts Centre (y Barri)
Medi - Rhagfyr 2022
Mae Cine Memo yn dangos ffilmiau amrywiol Prydeinig, Cymreig, rhyngwladol ac annibynnol ochr yn ochr gyda theitlau ffilmiau poblogaidd gan gynnig sinema fforddiadwy, hygyrch ac ymlaciedig yn gynrychioledig o’r gymuned ehangach. Mae’r rhaglen yn annog mynychwyr sinema i ailymgysylltu gyda’r profiad sinema sgrin fawr a digwyddiadau cymryd rhan. Mae MAC yn cydnabod pwysigrwydd ei rôl fel sinema i helpu’r gymuned i ddod dros Covid, i ailadeiladu o’r effaith enfawr ar eu iechyd a llesiant economaidd a chymdeithasol. Mae digwyddiadau yn amrywio o ddangosiadau ar thema cwricwlwm gydag ysgolion, i ffilmiau teulu penwythnos, cyfeillgar i fabanod a chyd-ganu a gweithgareddau i gefnogi rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr, cynulleidfaoedd anabl a niwroamrywiol.
Gwefan, Twitter, Facebook
 

Gogledd Cymru 

Cellb  (Blaenau Ffestiniog)
Ebrill - Rhagfyr 2022
Fe wnaeth Cyswllt Cymunedol esblygu o syniad prosiect Sinema’r Byd Cellb, fel dull o ddangos ffilmiau Byd ym Mlaenau Ffestiniog. Mae hyn wedi tyfu i gynnwys ffilmiau annibynnol, ffilmiau Cymreig, ffilmiau dogfen a mathau eraill o ffilmiau sydd wedi’u tangynrychioli. Y nod ydy troi’r dangosiadau yn ddigwyddiadau gyda bwyd a diod, sesiynau Holi ac Ateb a grwpiau trafod.
Gwefan Twitter, Facebook

Off Y Grid
(Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli, Pontio ym Mangor, Cellb  ym Mlaenau Ffestiniog, Neuadd Ogwen ym Methesda, Galeri yng Nghaernarfon, Dragon Theatre yn y Bermo a TAPE ym mae Colwyn):
Ebrill - Rhagfyr 2022
Mae Off Y Grid yn rhwydwaith o 7 o leoliadau ar draws gogledd Cymru sydd yn cydweithio ar weithgareddau fforddiadwy drwy gydol y flwyddyn gyda’r nod o hyrwyddo ffilmiau annibynnol a diwylliant byd-eang i gynulleidfaoedd gwledig yn eu sinemau lleol annibynnol. Yn 2022 fe fyddan nhw yn parhau i gefnogi ffilmiau Cymreig yn cynnwys digwyddiadau arbennig o amgylch Gwledd FAN BFI a Y Cymro, cyfres o ffilmiau gan wneuthurwyr ffilm benywaidd llwyddiannus fel Jane Campion a Kelly Reichardt, dathlu Pride a rhaglen o ffilmiau i hyrwyddo Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. 
Twitter, Facebook

Dragon Theatre (Y Bermo):
Mehefin - Rhagfyr 2022
Tref fechan glan y môr ydy’r Bermo sydd yn croesawu twristiaid drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yn yr haf. Drwy raglen o ffilmiau Cymreig fe fydd trigolion ac ymwelwyr yn darganfod gwahanol bersbectifau o Gymru ar sgrin. Fe fydd ffilmiau byr, ffilmiau a digwyddiadau arbennig gyda doniau yn cyflwyno cynulleidfaoedd i’r broses greadigol o wneud ffilmiau, diwylliant Cymreig ac yn galluogi’r gymuned i ailgysylltu yn dilyn covid-19. Mae gweithgareddau hefyd yn cynnwys Young at Heart a Chlwb Ffilm Sadwrn i gynulleidfaoedd ifanc.
Gwefan, Twitter, Facebook 

Gorllewin Cymru

Magic Lantern (Tywyn):
Mehefin - Rhagfyr 2022
Fe fydd Magic Lantern yn ‘codi llinynnau’ bod yn gadarnhaol ar ôl covid. Drwy ymchwil cynulleidfa fe fyddan nhw yn ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd iau a chadanrhau rhaglennu drwy griw ifanc gan wahodd rhagor o bobl ifanc i fynychu eu dangosiadau ffilm Gwnaethpwyd yng Nghymru, ffilmiau Clwb Ffilm misol a fflimiau ‘Môr a Mynydd’ misol ynghylch gweithgareddau awyr agored a dangosiadau ffilmiau arswyd archif gyda cherddoriaeth byw.
Gwefan, Twitter, Facebook 

Sinema Sadwrn (Llansadwrn)
Ebrill - Rhagfyr 2022
Fe fydd Sinema Sadwrn yn Llansadwrn yn rhaglennu naw ffilm yn cynnwys pump dangosiad o ffilmiau annibynnol Prydeinig (yn cynnwys rhai Cymreig) a rhyngwladol. Fe fyddan nhw yn dangos ffilmiau byr Cymreig cyn pob un o’r naw prif ffilm i arddangos talent Cymreig newydd a straeon sydd yn adlewyrchu bywyd yng Nghymru a fydd yn cyd-daro gyda phrofiadau aelodau’r gynulleidfa. Yn dilyn oedi oherwydd covid mae’r sinema fechan wledig yma yn parhau i ddarganfod ei thraed ar ôl ailagor ac fe fydd eu rhaglen yn rhoi cyfle i fynychwyr sinema ailgysylltu yn ddiogel gyda’r gymuned drwy rannu profiad sinematig.   
Facebook 


Ar draws Cymru 

Hijinx Gŵyl Ffilmiau Unity (Caerdydd, Bangor a Llanelli)
20ed Mehefin - 1ain July 2022
Mae Gŵyl Hijinx Unity yn ŵyl gelfyddydol gynhwysol sydd yn rhedeg bob 2 flynedd ers 2008. Eleni am y tro cyntaf fe fydd gŵyl ffilmiau yn rhedeg pchr yn ochr yn Chapter Caerdydd (20 a 21), Pontio ym Mangor (28 Mehefin) a Ffwrnes yn Llanelli (1 Gorffennaf). Gan arddangos gwaith cynhwysol gan bobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth fe fydd yn cynnwys ffilmiau a ffilmiau byr o bob math, trafodaethau panel a sesiynau Holi ac Ateb wyneb yn wyneb ac ar Zoom.
Gwefan Facebook 

Watch-Africa CIC – Watch-Africa gŵyl ffilmiau (Caerdydd, Abertawe, Bangor, Tywyn)
Ebrill - Rhagfyr 2022 2022
Fe fydd 9ed Gŵyl Ffilmiau Watch-Africa yn edrych ar beth sydd yn cysylltu gweddill y byd i gyfandir Affrica, sut i greu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wahanol ffyrdd o fyw a chysylltu gydag eraill.  

Fe fydd yr ŵyl yn archwilio themau byd-eang o amrywiaeth a chynhwysiant ar draws iaith, hunaniaeth a pherthyn drwy raglen o ffilmiau a gweithgareddau. Yn benodol fe fydd Watch-Africa yn archwilio Ujamaa, gair Swahili yn golygu cymundod ac yn ystyried sut beth ydy cynhwysiant i gymunedau gwledig yn Affrica – sut maen nhw’n cysylltu gyda mudiadau byd-eang fel Black Lives Matter a SARS. 

Fe fyddan nhw hefyd yn gweithio gyda Docubox, cronfa ffilmiau dogfen Dwyrain Affrica sydd yn cefnogi gwneuthurwyr ffilm ar draws Dwyrain Affrica, ar gyfnewid ffilmiau a dosbarthiadau meistr lle bydd 4 ffilm Gymreig yn cael eu dangos yn Kenya/Dwyrain Affrica a Chymru, gan archwilio iaith, hunaniaeth, mudo a gweledigaeth y dyfodol.
Web, Twitter, Facebook

Gŵyl Ffilmiau WOW (Cymru Gyfan yn cynnwys Casnewydd ac Abertawe)
24ed Chwefror - 12ed Mawrth 2023
Taith Cymru gyfan o 15 o ddangosiadau gyda ffocws ar bobl gynhenid. Eu ieithoedd a diwylliannau ehangach, yn cynnwys sut mae diogelu eu hamgylcheddau naturiol yn cynnig gwerrs hanfodol inni ar gyfer y dyfodol. Mae’r daith yn cynnwys ffilmiau o India, Asia, De America, Affrica a bydd yn digwydd o amgylch Diwrnod Rhyngwladol Menywod. Yng Nghasenwydd ac Abertawe fe fydd Clwb Ffilm WOW yn ymestyn allan i fenywod BIPOC gan gynnig dangosiadau yn ystod y dydd a chynigion ar gyfer y daith ehangach. Fe gaiff y daith ei chynnig hefyd i gymdeithasau ffilm ar gyfer dangosiadau digwyddiadau arbennig.
Gwefan Twitter, Facebook 

Gŵyl Animeiddio Siapaneaidd Kotatsu (Caerdydd, Aberystwyth a Bangor)
1ain Medi - 31ain October 2022
Fe fydd Gŵyl Ffilmiau Siapaneaidd Kotatsu yn dangos detholiad o ffilmiau yn Chapter Caerdydd, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth a Pontio Bangor, gyda gweithdai ar-lein Zoom a sesiynau Holi ac Ateb. Eleni maen nhw’n cyflwyno Manga Comic Café (ardal ddarllen comig Siapaneiaidd am ddim) ym mhob lleoliad ac mewn caffis lleol – i hyrwyddo diwylliant Siapaneaidd ochr yn ochr gyda’r ŵyl.
Gwefan Twitter, Facebook 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda:

Silvia Sheehan, Swyddog Cyfathrebu / silvia@filmhubwales.org
Lisa Nesbitt, Swyddog Datblygu / 02920 311 067 lisa@filmhubwales.org
Hana Lewis, Rheolwraig Strategol, ar 02920 353 740 / hana@filmhubwales.org

Am Canolfan Ffilm Cymru:
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein nod ydy cyflwyno’r ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i gynulleidfaoedd ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 250 o brosiectau sinema cyffrous gan gyrraedd dros 480,000 o aelodau cynulleidfa.

Rydym yn rhan o rwydwaith DU gyfan o wyth canolfan sydd yn ffurfio’r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.

Gwefan, Twitter, Facebook

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI
Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
  • Arweinir Canolfan Ffilm y Gogledd ar y cyd gan Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manchester
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London

BFI FAN website

Am BFI
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy:

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.
Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.

Am Chapter
Chapter ydy un o ganolfannau celfyddydau mwyaf, a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn a dros 60 gofod gweithio diwylliannol a mwy. Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd.

GwefanFacebookTwitter

Cyngor Cymru i Bobl Fyddar (WCDP)
WCDP ydy’r corff elusennol Cymreig i bobl sydd yn Fyddar, wedi’u Byddaru, ByddarDall a thrwm eu clyw a sefydlwyd ym 1950. Rydym yn gymdeithas ambarel o gyrff. Credwn y dylid cael mynediad cyfartal i bawb ac rydym yn ceisio gwella bywydau’r gymuned B/.byddar yn barhaus. Rydym yn darparu cefnogaeth, cyngor, cyfathrebu a gwasanaethau sydd yn helpu i’w galluogi i fyw bywydau annibynnol a llawn. Rydym felly yn cynnal gweithgareddau sydd yn cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau ym meysydd addysg, cyflogaeth, ymgyrchu, lleddfu ynysigrwydd cymdeithasol a phroblemau iechyd cysylltiedig. Rydym yn gweithredu rhestr o weithgareddau craidd fel a bennir gan yr aelodau, yn cynnwys datblygu a chefnogi grwpiau gwirfoddol, gwybodaeth a chyngor, mentrau hyfforddi yn berthynol i glywed (BSL, ymwybyddiaeth Byddar a chyrsiau darllen gwefusau) a chynhyrchu BSL Media.

Gwefan, Facebook, Twitter

Am Sinema Cynhwysol
Prosiect Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI DU gyfan ydy Sinema Cynhwysol i gefnogi arddangoswyr i groesawu pawb i gymryd rhan mewn sinema, drwy oresgyn rhwystrau diwylliannol, systematig neu gorfforol.

Dan arweiniad Canolfan Ffilm Cymru ar ran BFI FAN, mae’r prosiect yn cefnogi nodau’r rhwydwaith o gyflwyno ffilmiau Prydeinig, rhyngwladol ac annibynnol i gynulleidfaoedd. Gan ganolbwytnio ar gynulleidfoaedd ifanc (16-30) a sector arddangos medrus, hyderus, mae mynediad wrth galon strategaeth FAN. Mewn partneriaeth gyda ein rhwydwaith creadigol o arddangoswyr, rydym yn dathlu cynrychioliadua ystyrlon o amrywiaeth y tu ôl i’r camera, ar y sgrin ac yn ein cynulleidfaoedd gan weithio tiag atg Safonau Amrywiaeth BFI

Gwefan, Twitter

Beth mae lleoliadau yn eu ddweud:

Gyda phob ffilm a wneir gan neu gyda phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, mae’r ŵyl yn darparu llwyfan ar gyfer gwthio cynwysoldeb yn y byd ffilm ehangach, a rhoi cyfle i gynulleidfaoedd weld ffilmiau rhyfeddol, bywiog, a rhagolygon nad ydynt yn cael eu rhoi’n aml. yr amlygrwydd.

Dan McGowan, Hijinx Theatre

Mae’n gret gweld ein rhwydwaith o sinemau lleol yn cydweithio i gynnig arlwy o ffilmiau annibynnol ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oedran. Mewn cyfnod heriol mae sinema yn cynnig dihangfa ac eleni mae rhaglen ffilmiau Off Y Grid yr un mor gyffrous ag erioed.

Pauline Williams, Off Y Grid

Mae gennym raglen rhyng-genedlaethau bywiog sydd yn adrodd stori cymuned Windrush yn y DU. Fe fydd plant a’u teuluoedd yn mwynhau ffilmiau animeiddio a ffilmiau byr gan artistiaid Caribîaidd. Fe fydd hefyd linyn gwych o ffilmiau byr gan fenywod Caribîaidd, rhai yn dod o Gymru. Mae’r ŵyl yn cynnig cyfle gwych i bontio’r sgwrs am bopeth Windrush, ar gyfer cenedlathau’r gorffennol, presennol a dyfodol.

Yvonne Connikie, Windrush Film Festival

Rydym yn hynod o gyffrous o fod yn lansio dangosiadau cymunedol unwaith eto yng nghanol ein cymdogaeth leol yng Nglan-yr-Afon. Cyn Covid roedd gennym gynlluniau i archwilio dangosiadau stryd yn yr ardal ond bu’n rhaid gohirio’r cynlluniau hynny. Felly rydym yn edrych ymlaen at dreialu’r model yma o’r diwedd, gan edrych ar yr awydd ymysg ein trigolion ar gyfer dangosiadau stryd gan ddwyn cymdogion sydd yn byw yn agos i fwynhau ffilm, bwyd a sgwrs gyda’i gilydd.

Rabab Ghazoul, Gentle/Radical

Mae’r byd yn newid yn gyflym ac adlewyrchir hyn yn y straeon rydym yn chwilio amdanyn nhw ar sgrin. Mae’r prosiectau rydym yn eu cefnogi yn 2022 yn edrych ar sut rydym yn gweld ein hunain yng nghyd-destun y newidiadau yma. O ddangosiadau lleol sydd yn dwyn pobl at ei gilydd ar eu strydoedd i berthynas Cymru gydag Affrica neu gyfraniad amhrisiadwy cenhedlaeth Windrush, mae sinemau yn helpu cymunedau i wella a mwynhau unwaith eto ond hefyd i ddarganfod pwy ydyn ni fel Cymry mewn cyd-destun byd-eang.

Hana Lewis, Film Hub Wales
^
CY