Sinemâu Cymru yn Dathlu Pen-blwydd Canolfan Ffilm Cymru yn 10

Mae hi’n ben-blwydd arnom ni’n 10! Rydyn ni’n edrych yn ôl i’r un cyfnod yn 2013, pan lansiwyd ein rhaglen newydd sbon mewn partneriaeth â sinemâu, gwyliau ffilmiau a sgriniau cymunedol ledled Cymru. Ein nod oedd cynyddu cynulleidfaoedd ffilmiau annibynnol Prydeinig a ffilmiau rhyngwladol ledled Cymru.

Mae’r cyfan wedi bod yn bosib drwy ddiolch i’n partneriaid arddangos a BFIFAN gyda chyllid gan @TFNLUK drwy law’r BFI. Ymunwch â ni i edrych yn ôl ar damaid bychan o’r oll yr ydym wedi’i gyflawni dros y ddegawd ddiwethaf.

Gwyliwch y fideos isod gyda negeseuon gan ein haelodau, ynghyd â fideo sy'n dangos ambell i uchafbwynt o'r ddeg mlynedd ddiwethaf, a'n datganiad i'r wasg, uchafbwyntiau a straeon y cyfryngau cymdeithasol:

5ed Rhagfyr 2023

Gyda dros £3 miliwn o arian wedi’i greu ar gyfer sinemâu, gwyliau a sgriniau cymunedol yng Nghymru ers 2013, mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn edrych yn ôl dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Mae’r Ganolfan wedi cydweithio â rhwydwaith enfawr o dros 300 o arddangoswyr yng Nghymru gan gynnig cyngor, hyfforddiant a chyllid. Fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN) sy’n weithredol ledled y DU, mae’r Ganolfan wedi dod â bron i 6000 o’r ffilmiau annibynnol o’r DU a ffilmiau rhyngwladol gorau i gymunedau ledled Cymru ers lansio’r prosiect. Mae’r cyfan yn bosib diolch i gyllid Loteri Cenedlaethol y BFI.

Mae uchafbwyntiau yn cynnwys gwaith ar raddfa fawr megis canmlwyddiant ‘Roald Dahl ar Ffilm’ a dathliad o waith animeiddio'r DU: ‘Anim18’, fe lwyddodd y ddau gyrraedd 150 sgrin sinema ledled y DU. Mae Rhwydwaith Gŵyl Ieuenctid Cymru ac Off Y Grid, a sefydlodd gysylltiadau rhwng clystyrau o sinemâu a gwyliau er lles cynulleidfaoedd hyperleol hefyd yn uchafbwyntiau. Mae’r Ganolfan hefyd wedi sefydlu cynlluniau allweddol megis Gwnaethpwyd yng Nghymru, sy’n mynd i’r afael â’r bwlch yn y gadwyn ffilm Gymreig. Mae’r cynllun yn gweithio i hyrwyddo ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig, a chynllun Sinema Gynhwysol a ddyluniwyd i gefnogi cynrychiolaeth a hygyrchedd deg o fewn lleoliadau sinema yn y DU.

Wrth i ni edrych yn ôl at lansiad y Ganolfan, rydyn ni’n cofio sinemâu Cymru’n mynd yn dywyll fel rhan o dymor y DU gyfan – ‘BFI Gothic’ – yn 2013. Yn Aberystwyth, aeth cynulleidfaoedd ar daith gyda’r ‘Abertoir Horror Express’, y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau oddi ar y safle y byddai’r ŵyl ryngwladol o fri yn ei chynnal.

Esbonia Gareth Bailey a Nia Edwards-Behi, cyfarwyddwyr Abertoir pam fod cefnogaeth y Ganolfan wedi bod mor bwysig iddyn nhw:

“Rydyn ni’n hynod falch ein bod wedi cydweithio â Chanolfan Ffilm Cymru dros yr holl amser yma – nifer faith o flynyddoedd! Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Mae rhai o’r ffilmiau gorau i ni eu dangos – megis ‘Gwledd’ – wedi dod o anogaeth a chysylltiadau Canolfan Ffilm Cymru. Mae’r ffaith i hyn oll gychwyn gyda BFI Gothic ddeng mlynedd yn ôl yn briodol iawn. Ar y pryd fe alluogodd gyllid Canolfan Ffilm Cymru ni i gymryd risg a pheilota ein digwyddiad cyntaf oddi ar y safle – sef yr ‘Abertoir Horror Express.’ Rydyn ni wedi bod yn arbrofi gyda dangosiadau safle penodol byth ers hynny! Rydyn ni hefyd yn credu y dylai Abertoir fod yn hygyrch ac mae eu cefnogaeth wedi’n galluogi ni i gynnwys capsiynau ar gyfer elfennau rhithiol yr ŵyl. Rydyn ni mor falch bod Canolfan Ffilm Cymru yn bodoli i gefnogi diwylliant ffilm yng Nghymru.”  

Megis cychwyn oedd hyn. Mae’r Ganolfan bellach wedi cyllido neu / ac wedi datblygu 347 o brosiectau’n uniongyrchol ledled Cymru, o ‘Fframio’n Gorffennol’ - e-lyfr gyfoethog yn seiliedig ar hanes Cymru o Archif Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i gefnogi chwe chanolfan gyda’u hymdrechion i fewnosod cynlluniau sinema dan arweiniad pobl F/fyddar gyda Chyngor Cymru i Bobl Fyddar.

Esbonia Hana Lewis, Rheolwr Strategol Canolfan Ffilm Cymru:

“Gyda chynifer o heriau yn wynebu sinemâu ar hyn o bryd, mae’n bwysig ein bod ni’n adlewyrchu ar y llwyddiannau niferus o’r 10 mlynedd ddiwethaf. Rydw i’n ddiolchgar am y cysylltiadau rydyn ni wedi’u creu gyda phartneriaid fel Cellb, Pontio a’r Magic Lantern, sefydliadau yr ydym wedi cydweithio â nhw ers y cychwyn cyntaf. Yn ogystal â phartneriaethau strategol gyda Wicked a’r Archif Sgrin a Sain – partneriaethau ble y cymeron ni risgiau gyda’n gilydd er mwyn creu rhywbeth newydd. Pa un ai a ydym yn hyrwyddo newidiadau polisi sy’n effeithio arddangos yng Nghymru, neu’n helpu rhaglenwyr ifanc, pwrpas ein gwaith yn ei hanfod yw adeiladu prosiect sy’n cefnogi sinemâu a gwyliau i wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau – adlonni a chysylltu cynulleidfaoedd. Mae llwyddiant y Ganolfan o ddiolch iddyn nhw, ac rydyn ni’n mawr obeithio parhau i gynnig ein cefnogaeth am flynyddoedd i ddod.”  

Mae gweithgareddau’r Ganolfan yn cwmpasu datblygu sgiliau hefyd. Gyda’r nod o gefnogi sector arddangos llewyrchus a hyderus, mae’r Ganolfan wedi dyfarnu 193 bwrsari hyfforddi i aelodau fynychu cyrsiau neu gyfarfodydd pwysig y tu allan i’w hardal awdurdod lleol. Maent hefyd wedi creu 26 cwrs a 23 adnodd ar-lein mewnol ac wedi cynnig cannoedd o gyfleoedd i arddangoswyr rwydweithio a chael mynediad i gyngor un i un gan dîm y Ganolfan.

Esbonia Reg Noyes, Rheolwr y Rhaglen, Creu Taliesin, sut mae Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu eu sgiliau a’u partneriaethau:

“Mae Canolfan Ffilm Cymru yn brosiect rhagweithiol a chefnogol iawn sydd wedi llwyddo i ddod â holl arddangoswyr Cymru ynghyd i greu rhwydwaith cyfarwydd ac agos. Drwy gyfarfodydd ar-lein cyfnodol a Diwrnodau Dangos Cymreig, mae arddangoswyr o Gymru wedi creu cysylltiadau ac wedi rhannu profiad/gwybodaeth, gan ein gwneud ni yn grŵp proffesiynol agos. Mae eu cylchlythyrau a’u Hystafell Rhagddangos ar eu gwefan yn adnodd ardderchog i raglenwyr, ac mae eu tymhorau sydd wedi’u curadu yn cynnig amrywiaeth yr ydym yn ei groesawu. Mae Canolfan Ffilm Cymru yn gaffaeliad arbennig i sinemâu a rhaglenwyr yng Nghymru.”

Gall bartneriaid ddysgu rhagor am waith y Ganolfan yn ei Huchafbwyntiau 10 Mlynedd, sy’n cyflwyno detholiad o brosiectau, y bydd yn cael eu rhannu ar eu cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf. Gallwch hefyd wrando ar aelodau’r Ganolfan yn trafod yr hyn y mae’r prosiect wedi’i olygu iddyn nhw drwy gyfres o fideos byrion. Mae’r Ganolfan hefyd wedi ariannu 17 prosiect newydd ar gyfer 2023 sy’n golygu bod llawer o bethau cyffrous ar y gweill i gynulleidfaoedd Cymru.

Ychwanegodd Ben Luxford, Cyfarwyddwr UK Wide Audiences:

 “Mae’r BFI yn falch o fod wedi cefnogi Canolfan Ffilm Cymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf er mwyn cryfhau a datblygu’r sector sgrin er fudd cynulleidfaoedd. Mae’n rhan o fuddsoddiad tymor hir y Loteri Genedlaethol fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI – rhwydwaith y DU gyfan – sy’n dod â ni ynghyd â phartneriaid ardderchog y mae eu gwaith yn buddio’r genedl, gyda gweithgareddau’n digwydd yng nghalon cymunedau. Llongyfarchiadau i Hana a’r tîm am gynnig cefnogaeth barhaus mor bwysig.”

Cefnogir y prosiectau gan Ganolfan Ffilm Cymru, sy'n rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (FAN) gan ddefnyddio arian gan y Loteri Genedlaethol i sicrhau bod y dewis mwyaf o sinema ar gael i bawb ledled y DU. Gweinyddir arian yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel Sefydliad Arweiniol y Ganolfan Ffilm.

Mae dros £30m yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU gan y Loteri Genedlaethol.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn.

Diwedd.

Gŵyl Arswyd Ryngwladol Abertoir

Gŵyl Animeiddio Caerdydd

Cellb 

Canolfan Gelfyddydol y Chapter

Gwobr Iris Gŵyl Ffilm LGBT+

Phantasmagoria Horror Festival

Sinema Sadwrn

TAPE Cerdd a Ffilm Cymunedol

2013

Dewch i ni gamu yn ôl mewn amser… 10 mlynedd yn ôl daeth tymor Gothig y BFI i sinemâu ledled y DU. Yng Nghymru daeth cythreuliaid i lansiad Sinema Gymunedol Llancarfan, dangosodd Chapter Dracula mewn cestyll yn Ne Cymru gan droi’r cestyll yn goch ar gyfer yr achlysur ac fe aethon ni ar wibdaith gyda’r Abertoir Fest ‘Horror Express’

2014

Gyda chyfeiliant atmosfferig yr organ, roedd Eglwys y Santes Fair yn lleoliad perffaith ar gyfer dangosiad o Nosferatu ar gyfer Gŵyl Ffilmiau y Gelli yn 2014. Ac fe laniodd estroniaid yng Nghastell-nedd yn ystod dangosiadau ‘Sci-Fi’ y BFI yn Gwyn Hall. Aethon ni hefyd ar daith am y tro cyntaf gyda’n Diwrnodau Rhagddangos Ffilmiau Cymreig, gan ddangos ffilm ddogfen dwymgalon Dark Horse gan Picturehouse.

2015

Yn ystod 2015, fe ffurfiwyd partneriaeth â @contactfamilies ar raglen ymchwil a theithio i deuluoedd plant anabl. Buom hefyd yn helpu Strictly Cinema Awen Trust lansio ym Maesteg ac yn helpu Torch Theatre i lansio’u ‘Sunset Cinema’ arbennig…

2016

Yn 2016 fe lansiwyd gŵyl ffilmiau ieuenctid rhyngwladol Wicked Film. Fe aethon ni i 150 sinema ledled y DU gyda’n prosiect canmlwyddiant Roald Dahl ar Ffilm ac fe gychwynnodd y gwaith o ddatblygu Inclusive Cinema, yn dilyn ysbrydoliaeth ein hyfforddiant Opening our Doors mewn partneriaeth â Transform Cymru.

2017

Yn ystod 2017 fe gydweithion ag @ArtsAliveFlicks ar eu rhaglen gymunedol wledig yn y Canolbarth a gyda Gentle/Radical ar eu clwb ffilmiau a’u symposia. Fe wnaethon ni hefyd eu helpu nhw i hyfforddi menywod mewn technoleg sinema.

2018

Blwyddyn animeiddio oedd 2018, gyda’n rhaglen DU-gyfan ‘Anim18’. Bu Cardiff Animation Festival yn rhan allweddol o’r rhaglen hon. Fe ddathlodd Watch Africa Cymru ffilm Rungano Nyoni, I am not A Witch yn eu clwb ffilmiau ac fe aeth Pontio ati i weithio ar eu prosiect datblygu cynulleidfaoedd gwahanol.

2019

Yn 2019, fe gynhaliodd 73 Degree Films eu Clwb Sinema cymunedol ‘Sinema 73’ yn Ty Pawb yn Wrecsam. Ac fe ymunodd Off Y Grid â churaduron ifanc rhaglen Ffilm Ifanc @WickedFilm, ac fe aeth Iris Prize ar daith i sinemâu Cymru gyda rhaglen o ffilmiau newydd LHDTC+.

2020

Yn ystod 2020 fe lansiwyd pecynnau o gymorth ariannol i gefnogi sinemâu drwy Covid. Fe greodd Barry Memo Bub-L ar y sgrin fawr, fe gysylltodd prosiect Sinema’r Byd Cellb gynulleidfaoedd Baenau Ffestiniog â’r byd ac fe ail daniwyd y Magic Lantern yn The Tywyn Cinema.

2021

Yn 2021 fe gefnogwyd NSSAW i gwblhau eu dangosiadau archif ‘Fframio’n Gorffennol’, yn dilyn lansiad eu e-lyfr newydd o Sinema Cymru. Yn Sir Benfro fe lansiodd Theatr Gwaun eu panel ffilm cymunedol ac fe weithiodd Galeri_ gyda’u cymuned o bobl Fyddar i greu asedau marchnata gydag Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel rhan o’n partneriaeth â Wales Council for Deaf People.

2022

Yn 2022, fe ychwanegodd Hijinx Theatre ffilm i raglen eu Gŵyl Undod. Yng Nghasnewydd fe gydweithiodd Cinema Golau a Glan yr Afon ar ŵyl Windrush newydd ac fe gynhaliodd Gentle/Radical ‘A Re-Gathering’ – dangosiadau hyperleol o ddangosiadau ymchwil a datblygu yn ardal Glan yr Afon, Caerdydd.

2023

I ble’r aeth yr amser?! Dyma ni wedi cyrraedd diwedd 2023 gyda 17 o brosiectau ar waith gan gynnwys prosiect Gwarchod Cymdogaeth ar draws Ogledd Cymru gyda Tape Community Music and Film, yn ogystal â’r ‘film 4 all’ Prydeinig yn Theatr y Dragon, Barmouth ac Eco Sinema Wow Film Festival ar y gweill.

Ymlaen at y ddegawd nesaf… #HirOesYSinema

^
CY