Mercher 12 Ionawr, 2022
Cast Hollywood yn serennu mewn ffilm Gymreig newydd am Achub Sinema ym mis Ionawr eleni about Saving Cinema this January
Mae Samantha Morton (Walking Dead) a Tom Felton (Harry Potter) yn serennu mewn ffilm Gymreig aniibynnol newydd, ‘Save the Cinema’, sydd yn adrodd stroi wir y frwydr i achub Theatr y Lyric yn Sir Gaerfyrddijn.
Fe fydd y ffilm Sky Original yn cael ei rhyddhau ar Ionawr 14 2022, ar adeg holl bwysig i sinemau Cymru. Mae nifer wedi cyhoeddi gostyngiad o rhwng 50-70% mewn cynulleidfaoedd ers cyflwyno’r pas COVID yng Nghymru, gyda rhai yn ystyried cau dros dro.
Wedi’i chyfarwyddo gan Sara Sugarman,a anwyd yn y Rhyl, mae’r ffilm wedi cael ei hysbrydoli gan ddigwyddiadau bywyd go iawn dan arweiniad Liz Evans (Samantha Morton). Wedi’i gosod yng Nghaerfyrddin ym 1993, cyhoeddodd cyngor y dref y byddai Theatr y Lyric yn cael ei ddymchwel a chanolfan siopa yn cael ei adeiladu ar y safle. Gyda chymorth dyn post oedd yn gynghorydd tref, Richard (Tom Felton), fe wnaethon nhw ysgrifennu i Hollywood i ofyn am gymorth. Un alwad ffôn yn hwyr yn y nos yn ddiweddarach mae un o wneuthurwyr ffilm enwocaf Holywood yn rhoi cymorth enfawr i’r Lyric gyda premiere na wnaiff Caerfyrddin fyth ei anghofio. Mae Save the Cinema yn dangos sut y gall penderfyniad tref fechan yng Nghymru, wedi’i ysbrydoli gan hud y sinhema, ddod â Hollywood i’w cartref. Save the Cinema illustrates how the resolve of a small Welsh town, inspired by the magic of cinema, was able to bring Tinseltown to their doorstep.
Dywedodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru:
Mae cael neges am werth sinema i’n cymunedau wedi’i lapio mewn ffilm Gymreig ar hyn o bryd yn teimlo fel anrheg. Mae sinemau wedi brwydro yn ddiflino i gadw ar agor i’w cynulleidfaoedd drwy gydol COVID, gan gynnig gwasanaethau holl bwysig sydd wedi mynd i’r afael ag ynysigrwydd yn ystod y pandemig. I osgoi cau, mae angen inni gefnogi ein sinemau nawr. Gyda ffilm Save the Cinema,sydd yn adlewyrchu ysbryd ein cymunedau Cymreig, mae’n gyfle gwych i wneud hynny.
Mae Canolfan Ffilm Cymru yn hyrwyddo’r ffilm mewn partneriaeth gyda Sky Cinema, fel rhan o’u strategaeth Gwnaethpwyd yng Nghymru, sydd yn dathlu ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig. Fe fydd cynulleidfaoedd yn gallu gweld cyfweliadau ac adolygiadau arbennig drwy’r gyfres 'The Whole Story’ ac mae Canolfan Ffilm Cymru yn credu y gall gwylio straeon Cymreig amrywiol ar y sgrin helpu i lunio ein synnwyr o hunaniaeth cenedlaethol a diwylliannol, gan herio sut rydym ni yn gweld ein hunain a hefyd sut mae’r byd o’n hamgylch yn gweld Cymru.
Dywedodd Gareth Bailey, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth:
Mae sinema yn dreftadaeth inni, y gorffennol a’r dyfodol. Gall ddod ag unrhyw amser neu le , boed yn real neu yn ddychmygol, yn fyw. Y sinema ydy’r lle y mae gwneuthurwyr ffilmiau yn gallu rhannu eu breuddwydion gyda chynulleidfaoedd ar draws y byd, a lle y gall cynulleidfaoedd ddod ynghyd i rannu profiad cymunedol o fwynhau ffilm gyda’i gilydd. Mae gan sinema rôl yr un mor bwysig yn ein treftadaeth ag sydd gan y theatr, a gall ddal munud hudolus ar ffilm a fydd gyda ni am byth.
Dywedodd Pauline Burt, Prif Swyddog Gweithredol Ffilm Cymru, a fuddsoddodd yng nghynhyrchiad 'Save the Cinema':
Fel cyllidwyr balch o ffilm Sara Sugarman, 'Save the Cinema', mae'n gyffrous gweld pobl ar draws Cymru yn mwynhau’r stori gynnes, gartrefol hon yn y lle perffaith - eu sinemâu lleol. Gweithiodd y cast a’r criw gyda’r gymuned leol i ddod â rhywfaint o teimlad 'Hollywood' i Gymru yn ystod yr amseroedd anodd hyn, a nawr allwn ni ddim aros i 'Achub y Sinema' gyda chi!
Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn cynnig llu o weithgareddau gydol y flwyddyn mewn partneriaeth gydag arddangoswyr Cymreig, gyda’r nod o hyrwyddp ffilmiau Cymreig i gynulleidfaoedd, yn cynnwys catalog ffilmiau gyda dros 1000 o ffilmiau byr a ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig. catalog ffilmiau which hosts over 1000 shorts and features with Welsh connections.
Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn bodoli diolch i gyllid gan Cymru Creadigol a chyllid Loteri Cenedlaethol gan BFI (Sefydliad Ffilmiau Prydeinig) drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau Prydeinig annibynnol a ffilmiau rhyngwladol dryw gydol y flwyddyn – gweinyddir cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm
Caiff dros £30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Genedlaethol.
-DIWEDD-