Am Canolfan Ffilm Cymru:
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein nod ydy cyflwyno’r ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i gynulleidfaoedd ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 250 o brosiectau sinema cyffrous gan gyrraedd dros 480,000 o aelodau cynulleidfa.
Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.
Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.
Gwefan, Twitter, Facebook
About the BFI Film Audience Network
Supported by National Lottery funding, the BFI Film Audience Network (FAN), is central to the BFI’s aim to ensure the greatest choice of film is available for everyone. Established in 2012 to build wider and more diverse UK cinema audiences for British and international film, FAN is a unique, UK-wide collaboration made up of eight Hubs managed by leading film organisations and venues strategically placed around the country. FAN also supports talent development with BFI NETWORK Talent Executives in each of the English Hubs, with a mission to discover and support talented writers, directors and producers at the start of their careers.
Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:
- Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
- Arweinir Canolfan Ffilm y Gogledd ar y cyd gan Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manchester
- Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office
- Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
- Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre
- Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast
- Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
- Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London
Gwefan
Am BFI
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy:
- cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
- tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd
- cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad
- defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
- gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU
Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.
Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.
Gwefan, Facebook, Twitter
Am Chapter
Mae Chapter yn un o ganolfannau celfyddydau mwyaf a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn, dros 60 o ofod gweithio diwylliannol a rhagor.
Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o’r perfformiadau, ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd.
Gwefan, Facebook, Twitter