Digwyddiadau Rhagolwg o Ffilmiau Cymreig

Chuck Chuck Baby © Artemisia Films

Mae ein Dyddiau Rhagolwg yn cynnwys dangosiadau o ffilmiau a grëwyd yng Nghymru, ffilmiau Cymraeg eu hiaith a ffilmiau archif Cymreig sydd ar y gorwel, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi rhaglennu'n ehangach a chyrhaeddiad ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig.

Mae'r digwyddiadau yn arbennig i aelodau Canolfan Ffilm Cymru ac aelodau o Ganolfannau Ffilm ledled y DU. Rydym yn darparu pecynnau gwybodaeth i bawb sy'n mynychu, ac yn cynnig cyfleoedd i rwydweithio mewn gwanhaol ganolfannau ledled y wlad. Gall Canolfan Ffilm Cymru hefyd gynnig cyllid tuag at warantu lleiafswm, marchnata a / neu gyfrannu tuag at gostau digwyddiad lle fo talent ar gael.

Caiff digwyddiadau pellach eu hamserlennu yn unol ag argaeledd ffilmiau newydd a byddwn yn nodi manylion isod.

Digwyddiadau’r gorffennol...

^
CY