Gwledd, ‘After you’ve taken everything, what will be left?’

© Picturehouse Entertainment

‘Ar ôl i ti gymryd popeth, beth fydd yn weddill?’: Gwledd yn wynebu Gorffennol, Presennol a Dyfodol Cymru'

Ysgrifenwyd gan Rosie Couch. Cyfieithwyd gan Llinos Griffin.

Darllenwch y ysgrif llawn yma

Mae Canolfan Ffilm Cymru wedi comisiynu’r awdur llawrwydd Rosie Couch i ysgrifennu am y neges wleidyddol sydd wrth galon GwleddCliciwch isod i ddarllen sut mae’r ffilm yn defnyddio arswyd gwerin i siarad am argyfwng tai gwylliau Cymru, argyfwng hinsawdd a chysylltiad menywod gyda natur. 

Wrth i gredydau agoriadol Gwledd gan Lee Haven-Jones ymddangos, torrir ar draws sŵn atgofus cân aderyn gan sŵn mecanyddol ysgytwol a rhygnus. Mae peiriant yn tyllu’r tir. Mae’n ysgriffiol; mae’n llanast. Mae’r sŵn yn cynyddu, yn trawsnewid i gloch dreiddgar sy’n chwalu’ch clyw. Mae’n ddigon i hollti’ch clustiau. Yn union fel petaen ni yno’n eistedd gyda’n coesau wedi eu croesi ar y glaswellt, edrychwn ar ddyn yn baglu a syrthio, a gwaed dros ei wyneb. Mae llawer o gyngor allan yna am sut ddylai naratif ddechrau, beth yn union ddylai’r llinell gyntaf hon ei wneud. Dylai’r frawddeg gyntaf arswydo, dylai gysylltu â’r gynulleidfa, dylai grynhoi themau’r naratif yn eu cyfanrwydd. Fel gwna frawddeg gyntaf Gwledd, mae’r golygfeydd agoriadol hefyd yn llwyddo ymhob un o’r uchod.

Ar eu ‘hencil’ o’u bywydau prysur yn Llundain, mae teulu (yn cynnwys Nia Roberts, Steffan Cennydd ac eraill) yn paratoi am swper pwysig. Byddent yn croesawu’r dyn busnes (Julian Lewis Jones) sydd wedi bod yn tyllu’r tir am adnoddau, yn ogystal â pherchennog y tir cyfagos. Yn ystod y noson, byddent yn ceisio perswadio eu cymydog i drosglwyddo ei heiddo er mwyn ei gloddio. Mae Cadi, sy’n cael ei chwarae mewn modd drylwyr gan Annes Elwy yn cael ei chyflogi fel gweinyddes ac yn enigmataidd o’r dechrau un. Gam wrth gam, mae hi’n dechrau dial a dinistrio’r holl sioe, gan herio’r teulu a’u gwesteion fesul un. Dydi’r patrwm hwn – pan fo dieithryn dirgel yn cyrraedd ac yn codi crachod, gan darfu ar gysondeb yr uned deuluol – ddim yn un newydd. 

Mae’r math o drais a welir yn Gwledd yn amserol yn eu cynrycholiad, yn wledd gwirioneddol ar gyfer y rheini sy’n meddwl nad ydi’r cyfryngau Cymreig yn ymgysylltu gyda phryderon y Cymry, wrth i’r pryderon hynny amlygu o’n cwmpas ni. Er gwaethaf bod y rhain yn gyfeirnodau clir, ni ddylid edrych ar Gwledd fel ffilm Gymreig i Gymry. Mae’r lens generig arswyd gwerin yn codi cwestiynau pwysig ar gyfer ystod eang o wylwyr. Fel ymhob genre, mae cysyniad arswyd gwerin yn un anwadal. Gellir disgrifio arswyd gwerin yn fras trwy themau o darfu, gwrthdaro, a thraddodiad yn erbyn moderniaeth. Yn aml, ond nid o hyd, rydyn ni’n ochri gyda’r sawl sy’n tarfu, yr un sy’n aml yn dioddef oherwydd yr elfennau ‘arswydus’ a defodau’r gymuned y maent wedi eu darganfod.

Wrth ddarllen Gwledd o’r cyd-destun hwn, gofynnwn:

pwy sy’n tresmasu – y ferch ryfedd sy’n cyrraedd y cartref gyda bwriadau amheus neu’r teulu sy’n mynnu ysbeilio’r tirlun, cyn annog eu cymydog i wneud yr un fath? Oes posib cyfiawnhau gweithredoedd Cadi? Pwy, yn elfennol, sy’n cyflawni’r trais yma?

Gyda Cadi, dynes ifanc sy’n meddu ar endyd benywaidd chwedlonol, sydd eisoes yn un â’r tir, mae Gwledd yn anadlu bywyd newydd i’r fframwaith naratif penodol hwn. Mae dialedd Cadi’n bersonol, yn wleidyddol ac yn hanesyddol, ar yr un pryd.

Mae cyhoeddiad 2022 gan y Senedd dan y teitl ‘Os fydd pethau’n para fel maen nhw, fydd dim cymuned ar ôl’ yn adleisio, a hynny’n gryf ac arswydol, y cwestiwn ym mhennod olaf Gwledd: ‘Ar ôl i ti gymryd popeth, beth fydd yn weddill? Nid yw hyn yn gyd-ddigwyddiad. Caiff Gwledd ei ryddhau wrth i Gymru frwydro’n erbyn mewnlifiad o ail dai yn gwthio pobl allan o’u cymunedau lleol. Mor ddiweddar â Gorffennaf 2022, fe oresgynodd ymgyrchwyr ar bwll Aberpergwm, ger Glyn-nedd, Castell Nedd Port Talbot gan- brotestio’n erbyn tawelwch Llywodraeth Cymru ar gymeradwyaeth i ddeugain miliwn o dunnelli o lo gael ei gloddio o’r safle. Gallwn fynd yn fy mlaen ond nid yw’r digwyddiadau uchod yn fawr o newyddion i unrhyw un sy’n dilyn gwleidyddiaeth Cymru.

Mae gwylio perfformiad trawiadol Annes Elwy’n adeiladu ar gymeriad Cadi o’r eiliad mae hi’n cael ei chyflwyno i ni mewn modd sy’n codi gwallt ei pen – mae’r tro cyntaf mae gwen yn hollti ar draws ei hwyneb yn uchafbwynt penodol – yn ffynhonell pleser a chwilfrydedd i’r gwyliwr. Mae ei heffaith ar y teulu, y pwer sydd ganddi drostynt a’r dial o’r diwedd yn cael eu dangos mewn modd hynod ddeinamig.

Yma, mae ategiadau cyffredinol arswyd gwerin yn tanseilio’r syniad o ‘Arall, yn dresmasydd ac yn tresmasu ar yr un pryd. Mae’r trais mae hi’n gyflawni heb os yn fwy cignoeth na’r hyn a gyflewnir gan y teulu. Tra mae gweithredoedd Cadi’n cael eu cyflwyno mewn modd llawer mwy ‘arswydus’ – y gwaed a’r ffieidd-dra, ac, mewn rhai llefydd, yn troi eich bol – mae’r trais systemig dan law’r teulu’n llawer fwy dwfn a phellgyrhaeddol o gymharu’r ddwy elfen. Mae ymgorfforiad Gwledd o nodweddion chwedlonol o fewn cyd-destun gwleidyddiaeth Gymreig yn bwydo meddwl gwylwyr Cymraeg a di-Gymraeg yn yr un modd.

Ym mhennod pedwar y ffilm, mae’r syniadaeth ‘Dyw hi ddim fod cael ei deffro’ yn crynhoi ac yn ail-ffocysu ar gelf a Chymru. Mae paentiad mawr haniaethol ar wal cegin/ystafell fwyta’r teulu.

Wrth i Glenda sefyll o flaen y paentiad gyda’i chymydog Mair, mae hi’n cyflwyno sylwebaeth ar yr hyn mae’r bobl ddieithr sy’n ymweld a’r tŷ yn weld yn ei gyfansoddiad. Mae’r ‘themau mawrion’ yn cynnwys gobaith a chariad. I Glenda, cynrhychiola’r paentiad – sy’n portreadu’r tir a etifeddodd – yr arian y maent wedi ei ennill trwy ganiatau i’r tir gael ei fwyngloddio, a’u gwyliau moethus o ganlyniad. I mi, cyfeiria’r golygfeydd hyn at y cwestiwn: Sut mae Cymru (a Chymreictod) yn cael ei defnyddio mewn diwylliant gweledol cyfoes? Wrth gwrs, mae ystrydebau am Gymreictod sy’n cael eu lledu gan y cyfryngau cyfoes.

Yn yr erthygl hon yn Nation Cymru yn 2020, ‘A lack of positive portrayals of Welsh life on TV may explain why we take comedies so seriously’, disgrifia David Rees y gwrthwynebiad i gyfresi fel Gavin and Stacey:

‘the consensus seems to be that they show a lack of respect for Wales and the Welsh in order to use them as the butt of, rather than included in, the joke, relying on stereotypes portraying poor and feckless working-class idiots that generally belittles Wales into a laughing stock that the rest of the UK can enjoy at our expense’.  

Ai Rees yn ei flaen i bwysleisio pwysigrwydd cynrhychiolaeth bositif – neu o leiaf un sydd ddim yn ystrydebol – o Gymreictod pan mae’n datgan ei fod yn ‘extremely easy to think your existence is being disregarded as nothing worth verification by our society if you cannot see yourself reflected in it’. Mae cyfatebiaeth y paentiad yn ein hannog i feddwl yn bellach am wneud defnydd o Gymru fel lleoliad ffilmio ar gyfer cyfryngau sydd ddim yn gysylltiedig o gwbl â’r wlad. Wrth i ni wylio canlyniadau’r cynhyrchiadau hyn, Clash of the Titans (2010) or Infinite (2021) er enghraifft, sut mae’r tir yn cael ei ddefnyddio? F’aswn i’n adnabod fy nghartref yn Ffordd Casnewydd yng ngolygfeydd anturus Infinite? Ydi chwarel Dinorwig yng Ngwynedd yn gweithio fel unrhyw beth mwy na chefndir mawreddog ar gyfer golygfeydd llawn antur Clash of the Titans? Pan mae crëwyr y ffilmiau cyllid-uchel hyn yn edrych ar yr hyn maent yn gynhyrchu, beth maen nhw’n ei weld? Gobaith, cariad neu rywbeth arall?

Mae’r tensiynau’n cael eu disgrifio yma yn ymestyn i drafodaethau ynglŷn â chynhyrchiadau Lloegr yn defnyddio cefn gwlad Cymru ar gyfer rhesymau aesthetig yn unig, ar gyfer beth maent yn deimlo mae’r tirlun yn gynrhychioli yn eu stori nhw, tra nad ydynt yn cynnal yr un gronyn o ymgysylltiad cyson â Chymru a Chymreictod. Mae’r modd penodol hwn o ymelwa yn cael ei adlewyrchu trwy ddefnydd y teulu o’u hail gartref fel encil o’u bywydau prysur ‘real’ yn Llundain. Mae’r ffyrdd y maent yn penderfynu gorffwys yn ynysig ac yn hurt o feddwl am y golygfeydd o’u cwmpas. Mae Gweirydd, eu mab yn seiclo beic llonydd, tra mae Glenda’n ymlacio mewn ystafell wedi’i hadeiladu’n arbennig gyda theiliau tywyll wedi ei goleuo gan holltiad bach o olau. Mae eu cartref llwyd, gwasgaredig yn wrthgyferbyniol i’r tirlun, fel petai wedi ei godi o’r ddinas a’i ollwng ar lethr yng Nghymru. Mae’r gwrthgyferbyniad penodol hwn, a dihitrwydd y teulu am yr hyn sydd o’u hamgylch yn adleisio unigolion o ddinasoedd a threfi Lloegr sy’n symud i’r Gymru wledig, gyda phrisiau tai, o’r herwydd, ar gynydd a’r cymundau’n cael eu gyrru allan.

Mae Gwledd yn taro’n ôl yn waedlyd yn erbyn y math hwn o farustra a modernaeth a gaiff ei grynhoi drwy naratif hunanfodlon Glenda am y paentiad, yn dadlau dros gadw hunaniaeth Gymreig wedi’i gwreiddio mewn hanes, chwedlau a thraddodiad. Ac, does dim amheuaeth bod y ffocysau hyn yn bwysig. Mae’n sylfaenol bwysig gwybod am y gorffennol. Mae’n arferiad i hanes ailadrodd ei hun. Wedi dweud hynny, tybed a ydi’r math o hanesion breintiedig a gawn yn Gwledd yn y rhai mwyaf cynhyrchiol wrth feddwl am hunaniaeth Gymreig a dyfodol Cymru. Ni chaniateir lle o gwbl i feirniadu’r ysgogiad tu ôl i ddialedd Cadi – ac, yn fy marn i, mae hynny’n ddigon teg. Mae ‘cosb’ y teulu hefyd yn datgelu llawer: mae Cadi’n hudo Gwyn i fyddaru ei hun ac yn annog Gweirydd i dorri coes ei frawd gyda bwyell. Yn syth wedyn, mewn ad-ddychmygiad syfrdanol o chwedloniaeth y fagina dentata, mae darn o wydr wedi’i osod mewn man perffaith yn anafu Gweirydd wrth iddynt gael rhyw yn y coed. Mae ffawd Glenda yn mynd ar drywydd gwahanol wrth iddi weld ei diweddar fam, ac yna trawsffurfio i mewn iddi.

Felly, ar ôl iddynt gymryd popeth, beth sy’n weddill i’r teulu? Cymreictod hunanlarpiedig, Cymreictod sydd wedi ei gondemnio i’r gorffennol.  

 

Felly sut mae’r ffawdiau hyn a’u ategiadau thematig yn plethu gyda Cadi fel ffigwr wedi’i meddu, yn gweithredu ar ddymuniadau yr ysbryd benywaidd, y ‘Fam Natur’ ei hun hyd yn oed? Ydi hwn hefyd o bosib yn ffurf o Gymreictod sy’n perthyn i’r gorffennol ac i’r tir a ddylai – fel mae Gwledd yn awgrymu drwyddi draw – gael ei adael heb ei darfu? Mae diffyg llais Cadi trwy gydol y naratif yn atgyfnerthu’r gwrthdaro hwn, yn enwedig gan ei bod fwyaf llafar pan mae hi’n canu hen ganeuon Cymraeg. Pan mae Glenda yn adnabod y gân fel un yr oedd ei mam yn arfer ei chanu, y fam y mae hi’n trawsnewid iddi pan mae Cadi’n dial, sut mae hyn yn gosod y math o bwer sydd gan Cadi? Fel dynes wedi’i meddu, faint o reolaeth sydd gan Cadi yma?

Yn fy marn i, mae meddwl am Cadi wedi’i meddu gan Fam Natur, a ffawd y teulu fel byd natur yn dial, yn methu o ran ystyried adeiladwaith hanfodol. Mae perthynas merch a natur yn bwnc cymhleth. I rai, mae’r syniad bod dynes a natur yn rhannu’r un gormesau yn taro deg. I eraill, gan gynnwys fi, nid yw’r syniad o ormes cyffelyb ar sail bod merched yn ogystal â Mam Natur yn gysyniadau maethlon – yn warchodwragedd y tir – yn gysyniad blaengar o gwbl. Byddai bod Cadi wedi’i meddu gan ddialedd yn unig – mewn modd sy’n plethu gyda phynciau diwylliannol a gwleidyddol Cymreig – nid yn unig wedi osgoi clymau hanfodol, byddai hefyd yn caniatau i’r diweddglo fynd i gyfeiriad gwahanol i’r orddibyniaeth ar eglurhad gweledol wrth gloi.  

Rydw i’n gobeithio bod Gwledd yn torri cwys i wneuthurwyr ffilm Cymreig eraill greu ffilmiau mor berthnasol i bryderon gwleidyddol a diwylliannol y Cymry. Rydw i’n gobeithio, pan rydym yn gwylio’r ffilmiau hynny, y byddwn yn gweld portreadau o fenyweidd-dra Cymreig yn symud tu hwnt i’r chwedlonol.

^
CY