Ffilmiau Gwyrdd ar y Sgrin Fawr: Rhaglennu ar gyfer ein Planed

© Afire (Curzon / Artificial Eye), Eyes of the Orangutan (Borneo Orangutan Survival) To The End (Journeyman Pictures), Good One, (Conic), Luzzo (Peccadillo Pictures) Maxima (Stand with Maxima), Fashion Reimagined (Met Films)
Mae’r amrywiaeth o fywyd ar ein planed, o ficrobau i lewod, planhigion i bobl, yn helaeth, ac mae’r cyfan mewn perygl.

Yr argyfwng hinsawdd yw prif fater ein hoes. Sut allwn ni ddechrau gwneud gwahaniaeth?

Mae ffilm yn arf bwerus sy’n ein caniatáu ni i gyfathrebu ac ysgogi pobl i weithredu. Mae sinema yn cynnig cyfle i ni gysylltu â phobl, lleoedd a bywyd gwyllt ar draws y byd naturiol.

Gyda chynaliadwyedd amgylcheddol hefyd yn un o feini prawf ein cyllid BFI FAN, rydyn ni wedi dod â detholiad o ffilmiau at ei gilydd sy’n edrych ar themâu megis ffermio cynaliadwy ac antur ôl-apocalyptaidd, wedi’i gynllunio i gefnogi rhaglennu. Detholiad yn unig sydd yn y pecyn hwn.

Detholiad yn unig sydd yn y pecyn hwn. Gallwch weld rhestr fanwl o fwy na 390 o ffilmiau yma.

Gweler isod neu lawrlwythwch yma.

 

Diolch i'r curadur, Rachel Pronger am ei chyfraniadau i ddatblygiad y rhaglen hon:

Rhestr o ffilmiau sy’n ymwneud â’r amgylchfyd

^
CY