Gweler isod neu lawrlwythwch y PDF yma
Yn hwyr yn 2019 fe wnaethom gomisiynu Wavehill (gyda chefnogaeth gan Clwstwr, Gelfyddydau Pontio a Chanolfan Arloesi a Phrifysgol Bangor) i archwilio’r potensial ar gyfer brand Gwnaethpwyd yng Nghymru, gan adeiladu ar waith helaeth ein Strategaeth Gwnaethpwyd yng Nghymru, a lansiwyd yn 2014.
Os yn hyfyw, gallai hyn gefnogi ein uchelgais i ddathlu straeon Cymreig ar sgrin, gan wneud cysylltiadau Cymreig yn adnabyddadwy wrth i ffilmiau sefyll ochr yn ochr gyda theitlai annibynnol ac ieithoedd tramor ledled y byd.
Rydym yn falch o rannu canfyddiadau’r gwaith yma gyda chi. Gydag adborth oddi wrth dros 50 o bartneriaid sgrin strategol, mae’n edrych ar gryfderau, heriau a chanfyddiadau hunaniaeth o fewn y diwydiant sgrin yng Nghymru. Fe wnaethom hefyd edrych ar enghreiftiau o arfer da yn rhyngwladol o Sweden, Canada ac Iwerddon, y gallwn ddysgu oddi wrthynt wrth inni gymryd y camau nesaf.
Fe fydd y crynodeb gweledol yn rhoi blas i chi o’r canfyddiadau. Darllenwch yr adroddiad os gwelwch yn dda ar gyfer manylion llawnach.
Discover hundreds of films with Welsh connections in our Made in Wales catalogue.