Rob Corcoran
Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru
Mae Rob yn gynhyrchydd creadigol ac yn wneuthurwr ffilmiau. Mae ei waith ym maes arddangos ffilm yn cynnwys cynhyrchu a rhaglennu ar ran rhai o brif wyliau a chanolfannau Cymru, gan gynnwys FOCUS Wales.
Yn rhinwedd ei waith fel gwneuthurwr ffilmiau mae gan Rob ddealltwriaeth dda o’r broses - o ddatblygu i ddosbarthu. Mae e wedi cynhyrchu pob math o bethau - o ffilmiau byrion a hunangyllidir, i weithio gyda darlledwyr a phrosiectau ymchwil a datblygu sy’n edrych ar ddyfodol y diwydiant.
Rob yw’r Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru. Mae e’n cydweithio â’r sector sgrin yng Nghymru i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig, gyda ffocws ar arddangos theatrig ac antheatrig.
Ef/fe/ei yw rhagenwau Rob.
E-bost