Mae gan Nia doethuriaeth o Brifysgol Aberystwyth a’n gweithio i Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Nia yn gyd-gyfarwyddwr ar Ŵyl Arswyd Abertoir, yn rhaglennu ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Cymru a’r Byd yn Un ac yn cyfrannu’n rheolaidd at ddigwyddiadau a chyhoeddiadau sy’n trafod ffilm. Trwy gydol ei gyrfa mae Nia wedi arbenigo mewn materion cynrychiolaeth, cynhwysiant, a mynediad.
Er roedd rhai o arloeswyr y byd sinema yn gweithio yng Nghymru yn nyddiau cynharaf y cyfrwng, roedd hi’n 1935 cyn i’r ffilm Gymraeg gyntaf cael ei chynhyrchu, sef Y Chwarelwr (Ifan ab Owen Edwards), ac yna dros ddegawd yn ddiweddarach daeth y nesaf: Yr Etifeddiaeth (John Roberts Williams, 1949) a Noson Lawen (G. Mark Lloyd, 1950).
Rhai degawdau wedyn adnabyddodd rhai o fawrion y genedl pŵer y sinema yn y frwydr dros yr iaith, a sefydlwyd y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg. Er eu hymdrechion arwrol yn y 70au a’r 80au – a oedd yn cynnwys y ffilmiau cwlt Gwaed ar y Sêr a O’r Daear Hen (Wil Aaron, 1975 & 1981) - prin oedd y gefnogaeth swyddogol ar gyfer eu gwaith.
Canrif ar ôl Y Chwarlewr a ffilmiwyd yn yr un filltir sgwâr Bydd Effi o Blaenausydd wedi’i chyfarwyddo gan Marc Evans a’i haddasu gan Gary Owen o’i ddrama lwyfan, Iphigenia in Splott.
Mae'r Gymraeg wedi derbyn rhywfaint o amlygrwydd cymharol ar y sgrin fawr yn ddiweddar iawn, diolch yn bennaf efallai i Gwledd (2021) ac Y Sŵn y ddwy’n gydweithrediadau rhwng y cyfarwyddwr Lee Haven Jones a'r awdur Roger Williams. Mae’n anarferol, serch hynny, bod Effi cyrraedd y sgrin fawr llai na blwyddyn ers i’r ffilm Gymraeg ddiwethaf fod arni - sef Tanau’r Lloer (Chris Forster, 2025). Y tro diwethaf i hyn ddigwydd, hyd i mi wybod, oedd degawd yn ôl, gydag Yr Ymadawiad (Gareth Bryn) ac Y Llyfrgell (Euros Lyn); a chyn hynny, 2008. Prin iawn yw’r cyfle i weld mwy nag un ffilm Gymraeg yn y sinema o fewn yr un flwyddyn, os hynny hyd yn oed.
Ers sefydlu S4C yn yr 80au, a’r statws swyddogol i hawliau’r iaith, mae’r pedwar degawd diwethaf wedi gweld beth sy’n teimlo fel tipyn o fwrlwm o Gymraeg ar ein sgriniau. Ond, mae’n deg i ddweud, y sgrin fach sy’n dominyddu, boed hynny’n deledu, cyfrifiadur neu ffôn. Fodd bynnag, rydym yn ffodus yng Nghymru bod cymaint o sinemâu annibynnol, rhai sy’n fodlon ac yn medru cynnal dangosiadau ‘arbennig’, one-offs, gan yn aml dyna’r unig ffordd o weld ffilmiau Cymraeg ar y sgrin fawr. Prin iawn yw’r ffilmiau Cymraeg sy’n cael eu rhyddhau’n eang gan ddosbarthwr ‘mawr’.
Mae yno golled i ddiwylliant pan nad oes modd gweld ei dychymyg ar y sgrin fawr. Falle i rai nad oes gwahaniaeth rhwng gwylio ffilm yn y sinema a gwylio cyfres ar eu ffôn, ond trist yw’r tyb hynny. Mae medru dod at ein gilydd, i wylio a gwrando ar ein hunain, yng ngofod sanctaidd y sinema yn brofiad nad oes modd ei ail-greu mewn mannau eraill, ta waeth pa mor dda mae ein systemau adloniant cartref.
Heb glywed y Gymraeg - yn ei holl acenion a thafodieithoedd - yn y sinema, mae yno syniad yn tyfu nad oes ffasiwn beth â ‘ffilm’ Cymraeg, taw nid lle i ni yw’r sinema. Mae yno wagle diwylliannol, i ni, ac i weddill y byd.
Nid un o Flaenau Ffestiniog ydw i, ond falle un fy hoff bethau am Effi, yn ogystal â’i stori afaelgar a pherfformiad disglair gan Leisa Gwenllian, oedd pa mor gyfarwydd oedd hi. O dwneli’r A55, i Doc Fictoria, i nain yn gwylio Dechrau Canu, Dechrau Canmol, i bob un gair o reg sy’n dod o geg Effi, mae’r ffilm, er ei thrasiedi (mae’n seiliedig ar arwres Roegaidd, cofiwch), yn gyfforddus.
Mae’r pleser pur o gael adnabod lleoliadau, cymeriadau, geirfa gyfarwydd mewn ffilm yn un heb ei hail. Ta waeth pa mor sinigaidd mae rhywun yn mynd, mae’r frisson o adnabod rhywbeth bach o’n hunain mewn ffilm yn bwysig. Mae medru gwneud hynny mewn sinema llawn o bobl eraill yn teimlo’n bwysicach fyth. Mae’n brofiad sy’n creu cymuned dros dro, yn y tywyllwch, ac sy’n arwain at drin a thrafod, at greu, ac at atgyfnerthu cymunedau yng ngolau dydd.
Bydd Effi o Blaenau yn dod i sinemâu ledled y DU o Fehefin 19, 2026, gyda'i première yng Nghymru yn Cellb ar Fehefin 17.
Mae gan y ffilm nifer o gysylltiadau â Chymru gan gynnwys y cyfarwyddwr Marc Evans, y cynhyrchydd Branwen Cennard a chast yn cynnwys Leisa Gwenllian, Tom Rhys Harries, Owen Alun, Nel Rhys Lewis, Mared Llywelyn a Sion Eifon. Cafodd ei ffilmio ym Mlaenau Ffestiniog, Caernarfon a Phort Talbot ac fe'i hariannwyd gan Gymru Greadigol ac S4C.
Comisiynwyd yr erthygl hon gan Gwnaethpwyd yng Nghymru sy'n dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig, diolch i gyllid gan Gymru Greadigol a'r Loteri Genedlaethol drwy'r BFI.
Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi’n gyntaf yn Buzz Magazine.