- Cronfa Lleoedd Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI
- Tâl: Cyfanswm y tâl ar gyfer y gwaith hwn, gyda TAW a threuliau yn gynwysedig, yw £20,000
- Cwblhau’r gwaith: Canfyddiadau cychwynnol erbyn 30 Mehefin 2025, Drafft terfynol erbyn 2 Medi 2025 a Adroddiad terfynol erbyn 30 Medi 2025
- Lleoliad: Gweithio o bell – gellir gwneud y gwaith hwn o unrhyw leoliad ledled y DU.
Trosolwg:
Mae Cronfa Lleoedd Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (RhCFf) y BFI yn rhaglen beilot fydd yn rhedeg o fis Medi 2024 i fis Mehefin 2025. Mae hi wedi’i chynllunio i gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd â chanolfannau sinema annibynnol gan ddefnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol i helpu canolfannau i ddod yn fwy gweledol a hygyrch i’w cymunedau lleol. Mae Canolfan Ffilm Cymru, Film Hub Midlands a Film Hub North wedi eu dewis i ymgymryd â’r fenter arloesol hon a arweinir gan farchnata, ledled y DU.
Bydd pob Canolfan yn gweithio gyda nifer fechan o leoliadau yn eu rhanbarth, gan ffocysu ar ardaloedd sydd â darpariaeth ddiwylliannol gyfyngedig a defnyddio ystod o ddulliau. Bydd y prosiect yn ceisio datblygu ymwybyddiaeth o’r rôl mae’r ganolfan ynchwarae yn y gymuned, gan rymuso’u gallu i adrodd straeon mewn ffyrdd effeithiol a deniadol.
Mae angen fframwaith gwerthuso i asesu effaith gweithgarwch Cronfa Lleoedd RhCFf y BFI. Fel prosiect peilot, bydd angen i ni sefydlu set o feincnodau y gellir eu monitro yn gyfunol ledled y rhanbarth ar hyd y gwaith. Dylid cynllunio a gweithredu systemau ym mhob ardal er mwyn casglu adborth ansoddol a data meintiol, gan archwilio pa mor llwyddiannus yw’r rhaglen beilot, ynghyd ag unrhyw argymhellion ar gyfer ei chyflwyno yn y dyfodol.
Sut i ymgeisio:
Gofynnir i chi gyflwyno cynnig ysgrifenedig sy’n cynnwys:
- Eich dull o gyflawni'r briff ymchwil;
- Manylion yr unigolyn/unigolion a fydd yn gweithio ar y prosiect ynghyd â'u CV;
- Amlinelliad o brofiad blaenorol yn y maes hwn ac enghraifft o’r gwaith;
- Dau eirda o waith blaenorol/tebyg;
- Cyllideb ar gyfer y gwaith hwn yn nodi dadansoddiad o ddyddiau a chyfraddau dyddiol. Rhaid i gyllidebau gynnwys TAW a threuliau.
Anfonwch y wybodaeth yma ar e-bost i hello@filmhubwales.org
Dyddiad cau ar gyfer cynigion: 5pm, 23 Medi
- Bydd y rhestr fer yn seiliedig ar ba mor dda y mae ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf hanfodol a restrir yn y disgrifiad swydd. Rhowch sylw i bob pwynt yn eich cynnig.
- Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr ar y rhestr fer i drefnu cyfweliadau (dyddiad i'w gadarnhau). Ni fyddwn yn gallu cyfarfod ag ymgeiswyr unigol cyn y cyfweliad.
Darllenwch y brîff: