Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn galw am arbenigwyr addysg sy’n gweithio gyda chynulleidfaoedd ifanc a theuluol ledled Cymru, i ymateb i gynnig i gyrraedd grwpiau newydd a chefnogi gweithgaredd dysgu mewn partneriaeth ag arddangoswyr o Gymru (o’r gymuned i’r celfyddydau cymysg).
Rydym yn chwilio am atebion creadigol i’r brîff. Ein prif flaenoriaethau yw:
- Cyrraedd cymaint o gynulleidfaoedd ifanc a theuluol â phosibl gyda’r arian sydd ar gael,
- Cynyddu mynediad i sinema annibynnol Prydain a’r byd yn benodol. Yn ddelfrydol, dylai prosiectau gynnwys dangosiadau sy’n wynebu’r cyhoedd a gweithio mewn partneriaeth ag aelodau CFfC,
- Creu adnoddau i gefnogi dysgu gydol oes ac addysg anffurfiol mewn lleoliadau ledled Cymru.
Rhaid i’r cynnig ystyried mai ychydig o leoliadau sydd â swyddogion addysg yn fewnol i ddarparu sesiynau gyda chynulleidfaoedd a chyllideb ar gyfer y sesiynau hyn, neu atebion amgen. Os na all darparwyr lleol gyflwyno sesiynau yn uniongyrchol, oherwydd cost neu lle, a ellir sicrhau bod adnoddau ar gael i’w defnyddio gyda dangosiadau. Bydd lleoliadau a chynulleidfaoedd sydd â galw ond ychydig neu ddim mynediad yn cael eu blaenoriaethu. Rydym yn awyddus i gefnogi aelodau sydd eto i ddatblygu prosiectau gyda’r Ganolfan hyd yma.
Rydym yn croesawu syniadau ond yn rhagweld y bydd y cynigion yn cynnwys:
- Pecynnau gweithgaredd teulu / oedolyn (gallai hyn gynnwys grwpiau U3A) / cynulleidfa ifanc ar gyfer datganiadau annibynnol newydd / teitlau allweddol y gellir eu rhannu’n ganolog i gefnogi gweithgaredd dysgu yn fewnol heb fawr o gost i leoliadau, os o gwbl.
- Dangosiadau ar gyfer cynulleidfaoedd cyffredinol sy’n cynnig cyrhaeddiad h.y gweithio mewn partneriaeth ag unrhyw fath o aelod CFfC i gynnig dangosiadau,
- Gweithdai yn ymwneud â gwerthfawrogiad ffilm. Sylwch, ni allwn gefnogi gwneud ffilmiau ymarferol neu weithgaredd addysg ffurfiol gydag ysgolion,
- Efallai yr hoffech gynnig sesiwn hyfforddi gychwynnol ar gyfer swyddogion addysg yn eich lleoliadiau (os oes angen),
- Gall cynigion gynnwys cyfran fach o weithgaredd Ymchwil a Datblygu / cyfarfod FEN os yw’n cyfrannu at amcanion ehangach y prosiect.
Y gyllideb ar gyfer y gweithgaredd hwn yw £9,500 (gan gynnwys unrhyw TAW). Hoffem weld cyrhaeddiad daearyddol trwy adnoddau, neu os cynigir allgymorth, clystyrau o leoliadau y gweithiwyd gyda nhw, yn hytrach nag un lleoliad. Os yw nifer o leoliadau am gynnig ar y cyd, byddem yn croesawu hyn. Dylid ystyried cost y pen.
Hoffem i’r gwaith hwn ddechrau cyn mis Mawrth 2016.