Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda:
- Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru / [email protected]
- Lisa Nesbitt, Swyddog Cynorthwyo Aelodau, ar 02920 311 067 / [email protected]
- Hana Lewis, Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru, ar 02920 353 740 / [email protected]
O’r ffilm arswyd Gymraeg, Gwleddwedi ei lleoli yn Eryri, i’r gymuned drawsrywiol yn Dehli Newydd yn y ddogfen
India’s 1st Best Trans Model Agency – mae wyth ffilm eclectig yn cyflwyno doniau a straeon Cymreig ar y sgrin fawr yn 2022.
Mae’r wyth ffilm yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd ddarganfod rhywbeth newydd am Gymru, o straeon Cymreig lleol anadnabyddus fel y frwydr i achub sinema’r Lyric yng Nghaerfyrddin (Save the Cinema), i straeon byd-eang Cynghrair Genedlaethol Affrica sydd yn cael eu hadrodd drwy lygaid Cymry fel Gordon Main a John Giwa-Amu (Comrade Tambo’s London Recruits).
Drwy eu llinyn Gwnaethpwyd yng Nghymru mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) yn gweithio gyda dosbarthwyr, sinemau Cymru a gwyliau ffilm i hyrwyddo’r ffilmiau i gynulleidfaoedd ehangach.
Dywedodd Hana Lewis, Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru:
Mae’r ffilmiau hyn yn dangos bod digon i’w ddarganfod am fywyd yng Nghymru, y tu hwnt i’n tirwedd gwledig. Mae gan wneuthurwyr ffilm Cymreig straeon sydd yn arwyddocaol yn fyd-eang i’w hadrodd sydd yn gallu ysbrydoli talent newydd a chynulleidfaoedd lleol. Drwy Gwnaethpwyd yng Nghymru mae gennym gyfle i ystyried sut y gall y ffilmiau a wnaethpwyd yn ein gwlad roi llais byd eang inni ac adeiladu’r diwydiant ffilm o’n cwmpas. Mae rhagor o ymwybyddiaeth o’r ffilmiau yma yn gallu bod yn fuddiol i’n synnwyr o gymuned a hunaniaeth diwylliannol.
Mae Cymru yn lle cynyddol gyffrous ar gyfer ffilm, gyda sgrptiau yn denu actorion fel Rebel Wilson (The Almond and the Seahorse) a Samantha Morton (Save the Cinema) i rolau amlwg a dim ond rhai o’r teitlau a ragwelwyd yn 2021 ydy’r rhain. Fe wnaeth FHW olrhain a chefnogi 27 o ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig rhwng 2019 a 2021.
Wrth i leoliadau weithio i adfer o’r pandemig – mae nifer o wneuthurwyr ffilm yn gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn mynd i weld y ffilmiau yma ar y sgrin fawr fel y bwriadwyd.
Dywedodd Roger Williams, awdur Gwledd:
Pe byddem yn ddigon eofn ynghylch adrodd ein straeon ar y sgrin fawr, fawr yma, gallem adeiladu’r math o ddiwylliant lle nad ydy hi’n anarferol gweld ffilmiau Cymraeg yn ein sinemau.
Ychwanegodd Delphine Lievens, Pennaeth Dosbarthu yn Bohemia Media:
Rydym yn falch o gyflowyno Donna i gynulleidfaoedd ar draws y DU yn ddiweddarach eleni. Mae Donna yn ffigur unigryw ac ysbrydo9ledig ac mae’n cael ei phortreadu mor gywir gan y tîm o wneuthurwyr ffilm Cymreig talentog y tu ôl i’r ffilm.
Gall cynulleidfaoedd dderbgyn y newyddion diweddaraf am ffilmiau i ddod ar wefan adran Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru neu trwy ddilyn @FilmHubWales ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn bodoli diolch i gyllid gan Cymru Creadigol a chyllid Loteri Cenedlaethol gan BFI (Sefydliad Ffilmiau Prydeinig) drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau Prydeinig annibynnol a ffilmiau rhyngwladol dryw gydol y flwyddyn – gweinyddir cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm. Caiff dros 30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Cenedlaethol.
-DIWEDD-