Ffilmiau Cymreig sy’n Ymddangos mewn Sinemâu dros y Gaeaf Hwn

9 Hydref 2024

Os ydych chi’n gobeithio llenwi’ch calendr gyda ffilmiau Cymreig ac eistedd o flaen y sgrin fawr mewn sinema glyd, mae gennym ni restr o ffilmiau i chi dros y gaeaf hwn.

Mae 2024 eisoes wedi bod yn flwyddyn brysur i ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig. Eleni rhyddhawyd ffilmiau dramatig megis The Almond and the Seahorse, Unicorns and Chuck Chuck Baby, a’r animeiddiad epig; Kensuke’s Kingdom. Roedd cyfweliad Gwnaethpwyd yng Nghymru arbennig ar gael i bob un i gyflwyno’r cysylltiadau Cymreig i gynulleidfaoedd.

Mae hyd yn oed fwy ar y gweill i ni eu mwynhau, gan gychwyn gyda Timestalker, sydd yn cael ei rhyddhau 11 Hydrefed. Mae’r cyfarwyddwr Alice Lowe yn creu siwrnai carmig, doniol, sydd weithiau’n dreisgar, sy’n dilyn yr arwres anlwcus, Agnes, sy’n ailymgnawdoli ar ôl ailadrodd yr un camgymeriad: sef cwympo mewn cariad gyda’r dyn anghywir. Mae gan y ffilm nifer o gysylltiadau Cymreig, o’r cynhyrchydd, Vaughan Sivell, i’r actor Aneurin Barnard, a ffilmiwyd ar gyfer cyfweliad Gwnaethpwyd yng Nghymru’r wythnos yma. Fe’i ffilmiwyd yng Nghaerdydd a Thŷ Penpont yn Aberhonddu. 

Esbonia’r Cynhyrchydd, y Cymro Vaughan Sivell:

Ers fy ffilm gyntaf, Third Star, rydyn ni wedi llwyddo i ffilmio nifer o’n ffilmiau’n rhannol gartref yng Nghymru, ond yn yr achos yma, fe lwyddon ni ffilmio Timestalker yn ei gyfanrwydd yng Nghymru. Bannau Brycheiniog oedd Ucheldiroedd yr Alban, Tŷ Penpont oedd Lloegr Sioraidd a Bae Caerdydd oedd Efrog Newydd y 1980au! Roedd y criw o Gymry yn rhagorol, ac fe gawsom ni amser anhygoel. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr i gynulleidfaoedd lleol weld y ffilm ar y sgrin fawr.

Fis Tachwedd, mae gennym ni ddwy ffilm ddogfen sydd â themâu o bwys rhyngwladol. Yn gyntaf, India’s 1st Best Trans Model Agency, gan y cyfarwyddwr sy’n byw yn Sir Benfro, Ila Mehrotra, a ddaw i’r sgrin fawr 11 Tachwedd, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Drawsryweddol. Mae’r siwrnai emosiynol yma a ffilmiwyd ar hyd saith blynedd, yn dilyn stori hynod Rudrani Chettri, ei ffrindiau a’r gymuned drawsryweddol yn Delhi wrth iddynt greu asiantaeth modelau traws cyntaf India. Mae’r ffilm yn edrych ar gymhlethdod ‘trydydd rhywedd’ India, sef Hijra, lle mae gwerthoedd traddodiadol a hawliau dynol yn gwrthdaro. Daw’r ffilm â straeon cyfarwydd o gariad a cholled, gobaith a thlodi, harddwch, swyn a gogoniant y catwalk.

On November 22nd, the multi award winning O R Tambo’s Comrade Tambo’s London Recruits ei rhyddhau i gynulleidfa ehangach mewn sinemâu, drwy’r hyn y mae’r trefnwyr yn ei alw’n ‘Rhyddhad y Bobl’. Mae’r ffilm, a ddisgrifiwyd gan Variety fel 'ffilm ddogfen gyffrous sy’n eich cadw chi ar flaen eich sedd‘, wedi’i gosod ar anterth apartheid yn y chwedegau hwyr / saithdegau cynnar. Mae grŵp o actifyddion dosbarth gweithiol, gwrth-hiliol yn Llundain ateb galw cyfrinachol Oliver Tambo am asiantiaid cudd i ddod â gobaith i’w bobl ddiobaith yn Ne Affrica. Mae’r rhyddhad yn cael ei drefnu mewn partneriaeth â’r mudiad Undeb Masnach ac mewn cydsafiad â’r sefydliad o Dde Affrica, ACTSA, mewn ymateb i derfysgoedd hil ledled y DU. Bydd sgwrs banel allweddol yn dilyn y ffilm, i drafod sut y gall bob un ohonom gyfrannu at Brydain wrth-hiliol.   

Esbonia’r Cyfarwyddwr, y Cymro Gordon Main pam fod rhyddhau ffilmiau megis Comrade Tambo’s London Recruits mor bwysig:

Gydag adain dde eofn ar ein strydoedd unwaith eto, mae’r ffilm yma’n cynnig dewis arall pwerus, gwrth-hiliol i gasineb. Fe fentrodd y London Recruits eu rhyddid er mwyn creu byd gwell. Maen nhw’n ysbrydoliaeth. Wedi’i ffilmio yng Nghymru a De Affrica, mae’r ffilm yn gydweithrediad balch rhwng Cymru a De Affrica. Mae’n arddangos talent a lleoliadau arbennig yn y ddau le, ac yn rhan o sgwrs artistig a diwylliannol ehangach, sy’n gweld partneriaethau creadigol Cymreig / Affricanaidd yn hollbwysig ar gyfer Cymru ddiwylliannol iachus, rhyngwladol, sy’n edrych allan.

Mae’r ail ffilm gan y Cyfarwyddwr Sambiaidd Cymreig, Rungano Nyoni: On Becoming a Guinea Fowl hefyd yn uchafbwynt ar y gorwel. Mae’r ffilm yn dilyn Shula wrth iddi yrru ar hyd ffordd wag yng nghanol y nos a darganfod corff ei hewythr annwyl Fred. Wrth i drefniadau’r angladd ddwyn ffrwyth o’u hamgylch, mae Shula a’i chefndryd yn taflu goleuni ar gyfrinachau eu teulu Sambiaidd dosbarth canol. Cadwch lygad barcud am ddyddiad rhyddhau, a gyhoeddir yn fuan.

Gall y rheiny sy’n hoff o ffilmiau gwaedlyd hefyd edrych ymlaen at y ffilm uchelgeisiol, fychan ei chyllideb, Scopohobia gan y cyfarwyddwr ac ysgrifennwr o Gymru, Aled Owen yr Hydref hwn, yn ogystal â Protein am lofrudd cyfresol sy’n byw a bod yn y gampfa, a ddaw cyn bo hir gan dîm o gynhyrchwyr o Gymru, Craig Russell, Tom Gripper a Dan Bailey. Crëwyd y ddwy ffilm yn ninas Abertawe a’i chyffiniau. Gall gynulleidfaoedd hefyd barhau i fwynhau dangosiadau o’r ffilm arswyd gwerinol Prydeinig, Starve Acre, sy’n serennu’r actorion o Gymru, Morfydd Clark ac Erin Richards.

Hana Lewis, Rheolwr Canolfan Ffilm Cymru’n esbonio sut fydd y prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru’n cefnogi’r ffilmiau hyn wrth iddynt gael ei rhyddhau: 

Drwy ein prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru, rydyn ni’n cydweithio’n agos gyda’r rheiny sy’n dal hawlfraint y ffilmiau, er mwyn hyrwyddo’r ffilmiau. Rydyn ni’n creu cynnwys megis cyfweliadau gyda thalent ac erthyglau golygyddol sy’n dwyn sylw i elfennau megis themâu neu leoliadau, y gallai fod yn ddiywybod i gynulleidfaoedd. Mae’n holl bwysig bod y ffilmiau hyn yn cyrraedd cymunedau mewn sinemâu, gan eu bod yn helpu ni i weld Cymru ar y sgrin, ac yn helpu’r byd i’n gweld ni. Gallwn archwilio ein hunaniaeth ddiwylliannol mewn ffyrdd Newydd, gan roi llais i’r rheiny sy’n adrodd straeon amrywiol, a herio canfyddiadau ystrydebol ynglŷn â Chymru.

Mae prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru (GYNg) Canolfan Ffilm Cymru Film Hub Wales’ yn dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig. Mae’n cynnig gweithgareddau ar hyd y flwyddyn mewn partneriaeth ag arddangoswyr yng Nghymru, gan gynnwys catalog ffilmiau, sy’n gartref i dros 1000 o ffilmiau hir a byr a phodlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru. Gall gynulleidfaoedd gael diweddariadau ynglŷn â ffilmiau Cymreig sydd ar ddod a’r cyfweliadau diweddaraf drwy ddilyn @Madeinwales_ ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae MIW yn bosibl diolch i gyllid gan Cymru Creadigol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilmiau (FAN) BFI, yn dyfarnu cyllid gan y Loteri Genedlaethol. Mae FAN BFI yn cynnig cymorth i arddangoswyr ledled y DU i roi hwb i raglennu diwylliannol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol. Yng Nghymru, caiff y gweithgarwch hwn ei arwain gan Ganolfan Ffilm Cymru, sy’n cael ei rheoli gan Chapter.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

- DIWEDD -

Rydyn ni wedi ychwanegu dolenni ‘Ble i wylio’ lle fo’r wybodaeth ar gael. Byddwn yn diweddaru ein gwefan gyda gwybodaeth ychwanegol wrth iddo gael ei gyhoeddi.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

About Film Hub Wales
Film Hub Wales (FHW) celebrates cinema. We support organisations that screen film, from film festivals, to societies and mixed arts centres. Working with over 300 Welsh exhibitors, we aim to bring the best UK and international film to all audiences across Wales and the UK. Since Film Hub Wales set up in 2013, we’ve supported over 347 exciting cinema projects, reaching over 589,000 audience members.  

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Rydym hefyd yn falch o fod wedi arwain ar strategaeth Sinema Cynhwysol y DU ar ran BFI FAN 2017-23.
Gwefan, X (Twitter gant), Facebook, Instagram 

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI
Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.  

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:  

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
  • Arweinir Canolfan Ffilm y Gogledd ar y cyd gan Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manchester 
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office 
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre 
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast 
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London 

Gwefan 

Am BFI
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy: 

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU 

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.  

Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI ydy Jay Hunt.
Gwefan, Facebook, X (Twitter gant) 

Am Chapter
Sefydlwyd Chapter gan artistiaid ym 1971, fel canolfan ryngwladol ar gyfer celfyddydau a diwylliant cyfoes. Mae’n gartref i’r celfyddydau, lle cynhyrchir a chyflwynir gwaith dyfeisgar, apelgar o’r radd flaenaf. Mae eu horiel yn comisiynu ac yn cynhyrchu arddangosfeydd o gelfyddyd gorau’r wlad a’r byd. Mae eu gofodau theatr yn llwyfan i waith arbrofol sy’n procio’r meddwl. Mae eu sinemâu yn cynnig ffilmiau rhyngwladol a heriol ochr yn ochr â nifer o wyliau a digwyddiadau. Mae’r sinemâu yn dod â rhagor o ffilmiau i ragor o bobl mewn rhagor o leoedd drwy Ganolfan Ffilm Cymru.

Ochr yn ochr â’i rhaglen graidd, mae Chapter hefyd yn gartref i 56 o artistiaid a chwmnïau creadigol sy’n gweithio yn eu stiwdios. O animeiddwyr a chwmnïau cynhyrchu ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau, i artistiaid, dylunwyr a ffotograffwyr, yn ogystal â chwmni fframio celf, argraffwyr a stiwdios recordio. Mae’r gymuned greadigol wrth galon holl weithgarwch Chapter.

Daw’r rhaglen a’r gymuned ynghyd yn eu Caffi Bar sydd wedi ennill gwobrau. Gyda lle i hyd at 120 o bobl eistedd, mae’r caffi yn lle gwych i gyfarfod ffrindiau, darganfod lle tawel i weithio, neu i fwynhau diod neu damaid o fwyd blasus, ffres wedi’i baratoi â chynhwysion a brynwyd yn lleol, o fwydlen eang.
Gwefan, Facebook, X (Twitter gant), Instagram

Am Cymru Greadigol
Mae Cymru Greadigol yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi datblygiad y diwydiant creadigol sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo twf ar draws y sectorau Sgrin, Digidol, Cerddoriaeth a Chyhoeddi, gan leoli Cymru fel un o'r lleoedd gorau yn y byd i fusnesau creadigol ffynnu.
Gwefan, Twitter

 

 

^
CY