Mae Archif, Agored, Amdani yn becyn o ffilmiau byrion gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Felly rhan o brosiect Cymru Anabl yr archif (2024), comisiynwyd deunyddiau mynediad am tua dwsin o ffilmiau byrion, gan gymryd cam i sicrhau hygyrchedd ehangach i ddeunydd archifol. Mae’r ffilmiau’n cynnwys ffilmiau ddogfen creadigol sy’n canolbwyntio ar fywydau Byddar ac anabl, yn ogystal â dramâu byrion gan gynnwys rhai wedi’u hanimeiddio.
Roedd ‘Cymru Anabl’ yn brosiect gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, Cwmni Theatr Hijinx a TAPE: Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol, gyda chefnogaeth cronfa Treftadaeth Sgrin Loteri Genedlaethol BFI.
Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth yn Word. hon yn ddogfen byw a bosib bydd diweddariadau.
Call Us By Name (heb ei ardystio - U o bosibl ond gwiriwch gydag adran drwyddedu eich cyngor lleol) (Bernice Rubens, 1968, 27 mun)
Yn y ffilm hon, cawn gyfarfod ag amrywiol bobl, o bob oed, gartref, yn yr ysgol ac mewn amrywiol gyfleusterau RNIB, a chlywed eu myfyrdodau ar eu dallineb a'r ffordd y mae eraill yn ymateb iddynt. Gwnaed gan Bernice Rubens ym 1968 i goffáu canmlwyddiant yr RNIB.
Prif iaith: Saesneg
Deunyddiau mynediad Is-deitlau disgrifiadol Saesneg, disgrifiad sain (DCP yn unig)
Themâu: Dallineb, cynhwysiant, teulu
Arddull: Ffeithiol; ffilm ddogfen
Cysylltiad Cymreig: Cyfarwyddwr Bernice Rubens
Blue Kenny (12) (Keir Alexander, 2001, 15 mun)
Yn y portread cynnil ac optimistaidd hwn o bwysigrwydd cynhwysiant yn yr ystafell ddosbarth, mae bachgen aflonyddgar yn achosi i athro ifanc idealaidd ffraeo â disgyblwr llym. Wedi'i gyfarwyddo gan Keir Alexander, cafodd y ffilm ei hariannu'n rhannol gan y Manic Street Preachers a'i ffilmio yn Ysgol Gyfun Oakdale, Blackwood.
Prif iaith: Saesneg
Deunyddiau mynediad Is-deitlau disgrifiadol Saesneg, disgrifiad sain (DCP yn unig)
Themâu:Cynhwysiant, addysg, ysbrydoliaeth
Arddull:Ffuglen; realaeth farddonol
Cysylltiad Cymreig: Cyfarwyddwr Keir Alexander, Awdur: Keir Alexander, Cast: Katy Cavanagh-Jupe, William Thomas, Lleoliadau: Ffilmwyd yng Ngwent. Arianwyd gan cynllun ‘Screen Gems’ Sgrin.
Fosia’s Story (heb ei ardystio - U o bosibl ond gwiriwch gydag adran drwyddedu eich cyngor lleol) (Gerald Conn & Chris Elliot, 2000, 4 mun)
Mae Fosia Ibrahim, sy'n Fyddar, yn rhannu ei stori am ddod i Gymru o Somalia gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydeinig. Gwnaed y ffilm rhan-animeiddiad hon gan Gerald Conn a Chris Elliott a disgyblion Ysgol Ashgrove i'r Byddar, Penarth.
Prif iaith: BSL
Deunyddiau mynediad Is-deitlau disgrifiadol Saesneg, disgrifiad sain (DCP yn unig)
Themâu:Byddardod, hanes personol, ieuenctid
Arddull:Ffeithiol, cyfrwng cymysg
Cysylltiad Cymreig: Gritty Realism Productions, Fosia Ibrahim, Ashgrove School for the Deaf
Codename Corgi (12) (Tracy Spottiswoode, 1999, 12 mun)
Mae Slavicek (o Tsiecoslofacia) yn adrodd stori o ramant ac ysbïo gyda chariad ei fywyd, Bronwen (o Ponty), yn y ffilm gomedi-noir animeiddiedig hon. Gyda Philip Madoc yn lleisio ein hadroddwr Slavicek, y ffilm hynod swynol hon oedd ffilm animeiddio cyntaf yr awdur a'r cyfarwyddwr Tracy Spottiswoode.
Prif iaith: Saesneg
Deunyddiau mynediad Is-deitlau disgrifiadol Saesneg
Themâu:Comedi, rhamant, dychan
Arddull:: Ffuglen; animeiddio stop-symud
Cysylltiad Cymreig: Cyfarwyddwr Tracy Spottiswoode, wedi’i lleoli yng Nghymru, Arianwyd gan cynllun ‘Screen Gems’
Selwyn’s Lucky Day (PG) (Nic Howell, 2000, 8 mun)
O'r delweddau agoriadol o ddyn noeth yn rhedeg ar ôl dafad sy’n brefu ar draws cae o dan leuad lawn yn Abertaf, mae'r animeiddiad lluniadu hwn yn addasu’r stereoteip ac yn cyflwyno stori apelgar am löwr di-waith o'r Cymoedd sy'n dueddol o gael damweiniau yn ennill drwodd yn erbyn rhwystrau niferus ac amrywiol.
Prif iaith: Saesneg
Deunyddiau mynediad Is-deitlau disgrifiadol Saesneg
Themâu:Comedi, Cymru ôl-ddiwydiannol, rygbi
Arddull:Ffuglen; animeiddio wedi’u arlunio â llaw
Cysylltiad Cymreig: cyfarwyddwr Nic Howell, wedi’i lleoli yng Nghymru, Arianwyd gan cynllun ‘Animate it!’ Sgrin
Mae ffilmiau ychwanegol hefyd ar gael gydag isdeitlau disgrifiadol Saesneg ond heb gefnogaeth pecyn marchnata. Bydd angen caniatâd hawliau sgrinio ychwanegol ar gyfer rhai.
Syniadau rhaglennu/digwyddiad