Prosiect Sinema Gymunedol newydd dair blynedd yn lansio ar draws Gogledd Cymru

TAPE Cinema © TAPE Community Music and Film
19 Medi 2023

Mae Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE yn lansio prosiect sinema newydd i gymunedau ar draws Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth gan Ganolfan Ffilm Cymru.

Mae TAPE, sy’n arbenigo mewn cynhwysiant creadigol, wedi creu prosiect ar y cyd â’u Clwb Cyfryngau – lle diogel a chefnogol sy’n cynnig profiadau ymarferol i garfan o bobl o’r gymuned leol.

Bydd ‘Neighbourhood Watch’, a enwyd gan Josh, un o aelodau’r Clwb Cyfryngau, yn lansio gyda dangosiad o’r ffilm gomedi Brian and Charles a ffilmiwyd yn lleol ac a enwebwyd am wobr BAFTA – yng Nghanolfan Deulu Llanrwst ddydd Gwener 22 Medi.nd Gyda gwesteion arbennig ac ambell i syrpreis i’r gynulleidfa!

Mae Josh yn edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad cyntaf:

“Dw i’n hoffi’r syniad o ddod â’r gymuned ynghyd drwy ffilm. Dw i’n falch o fod yn rhan o hyn.”

Esbonia Steve Swindon, Cyfarwyddwr Creadigol TAPE sut mae’r Clwb Cyfryngau yn gweithio a pham fod angen y prosiect hwn:

“Gallwn ddod â phobl ynghyd drwy Glwb Cyfryngau a gweithio fel tîm i ddatblygu prosiectau hynod gyffrous a fydd yn gyswllt i nifer o gyfleoedd creadigol. Mae Neighbourhood Watch yn brosiect hynod gyffrous am sawl rheswm. Mae’n adeiladu ar waith y grŵp o raglennu ffilmiau a’r ystod eang o ddangosiadau a digwyddiadau a gynhaliwyd ganddynt. Mae e hefyd yn symud y gwaith i gymunedau ar draws Gogledd Cymru ac yn cysylltu pobl mewn ffyrdd newydd drwy’r gweithdai sy’n rhedeg ochr yn ochr. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn arni.”

Bydd Neighbourhood Watch yn dod â dangosiadau misol o ffilmiau annibynnol y DU a ffilmiau rhyngwladol i hyd at bum cymuned rhwng 2023-26, gyda’r potensial i ehangu i ardaloedd eraill gan gynnwys Ynys Môn a Llanfairfechan. Bydd cyfle i’r cymunedau sy’n cymryd rhan i ddatblygu sgiliau megis archebu ffilmiau a marchnata digwyddiadau, gan wneud ffrindiau a thyfu eu rhwydweithiau proffesiynol. Bydd gan bob dangosiad weithdy, westai neu ddosbarth meistr, yn ogystal â’r cyfle i gymryd rhan yn natblygiad prosiect ffilm hir nesaf TAPE, sef Below the Waves, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Below the Wavesa ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Ychwanegodd Hana Lewis, Rheolwr Strategol Canolfan Ffilm Cymru:  

“Mae gymaint o arloesi yn digwydd ar draws Gogledd Cymru, ond fe wyddom nad yw’n bosib i gymunedau fynychu digwyddiadau bob tro, pa un ai a ydi hynny o ganlyniad i’r argyfwng costau byw, cysylltiadau trafnidiaeth gwael neu ddiffyg gwasanaethau lleol. Y gymuned fydd yn arwain Neighbourhood Watch, gan greu awch am ffilmiau ar eu stepen drws. Mae Clwb Cyfryngau TAPE yn byrlymu â syniadau creadigol ynglŷn â sut i arwain y prosiect yn eu hardal nhw mewn ffordd gynhwysol – ac mae hyn mor bwysig i ni. Ein gobaith yw y bydd eu gwaith yn annog rhagor o bobl i fynd i’w sinema, gan gefnogi sinemâu a gwyliau lleol yn y tymor hir.”

Mae BFI FAN yn rhaglen genedlaethol sydd yn bodoli diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol sy’n ceisio sicrhau’r dewis gorau posib o sinema i bawb ledled y DU. Yng Nghymru gweinyddir y cyllid gan Ganolfan Ffilm Cymru, drwy Chapter. Cynlluniwyd prosiect Neighbourhood Watch i ateb amcanion Diwylliant Sgrin 2033 sef strategaeth 10 mlynedd y BFI a lansiwyd yn ddiweddar.

Mae dros £30m yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU gan y Loteri Genedlaethol.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma.

Diwedd.

Lleoliad: Canolfan Deulu Llanrwst, Church House, Heol Watling, Llanrwst LL26 0LS

7pm, Dydd Gwener 22nd Medi: Noson Lansio
Mae tocynnau ar gael gan TAPE, Academi Ryder a Chanolfan Deulu Llanrwst ar gyfer gwesteion gwadd
Brian and Charles (gyda sesiwn holi ac ateb)
Mae Brian yn ddyfeisiwr unig yng nghefn gwald Cymru, sy’n adeiladu dyfeisiau rhyfedd sydd bron byth yn gweithio. Yn fuan mae’n cychwyn ar ei brosiect fwyaf erioed – ac yn treulio tridiau yn troi peiriant golchi dillad a darnau sbâr i mewn i Charles, robot gyda deallusrwydd artiffisial sy’n dysgu siarad Saesneg o eiriadur ac sydd ag obsesiwn â bresych. Ffilmiwyd Brian and Charles yn Llyn Gwynant, Ysbyty Ifan, Trefriw, Cwm Penmachno, Betws y Coed a Llangernyw.

Rhagwelir y bydd dangosiadau pellach ar y dyddiadau canlynol: Dydd Gwener 27ed Hydref gyda bil dwbl ar gyfer Calan Gaeaf, dydd Gwener 24ed Tachwedd a detholiad Nadoligaidd ddydd Gwener 15ed Rhagfyr. Bydd gweithdai creadigol a / neu sesiynau holi ac ateb ynghlwm â phob dangosiad. Cadwch lygad ar wefan TAPE i gael manylion ynglŷn â sut i archebu tocynnau.

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda:

Am Canolfan Ffilm Cymru:
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 300 o arddangoswyr Cymreigein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 300 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 560,000 o aelodau cynulleidfa.

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru. Chapter.

Rydym hefyd yn falch o fod wedi arwain ar strategaeth Sinema Cynhwysol y DU ar ran BFI FAN 2017-23.
Gwefan, Twitter, Facebook, Instagram

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI
Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
  • Arweinir Canolfan Ffilm y Gogledd ar y cyd gan Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manchester
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London

Gwefan

Am BFI
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy:

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.

Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.
Gwefan, Facebook, Twitter

Am Chapter
Sefydlwyd Chapter gan artistiaid ym 1971, fel canolfan ryngwladol ar gyfer celfyddydau a diwylliant cyfoes. Mae’n gartref i’r celfyddydau, lle cynhyrchir a chyflwynir gwaith dyfeisgar, apelgar o’r radd flaenaf. Mae eu horiel yn comisiynu ac yn cynhyrchu arddangosfeydd o gelfyddyd gorau’r wlad a’r byd. Mae eu gofodau theatr yn llwyfan i waith arbrofol sy’n procio’r meddwl. Mae eu sinemâu yn cynnig ffilmiau rhyngwladol a heriol ochr yn ochr â nifer o wyliau a digwyddiadau. Mae’r sinemâu yn dod â rhagor o ffilmiau i ragor o bobl mewn rhagor o leoedd drwy Ganolfan Ffilm Cymru.

Ochr yn ochr â’i rhaglen graidd, mae Chapter hefyd yn gartref i 56 o artistiaid a chwmnïau creadigol sy’n gweithio yn eu stiwdios. O animeiddwyr a chwmnïau cynhyrchu ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau, i artistiaid, dylunwyr a ffotograffwyr, yn ogystal â chwmni fframio celf, argraffwyr a stiwdios recordio. Mae’r gymuned greadigol wrth galon holl weithgarwch Chapter.

Daw’r rhaglen a’r gymuned ynghyd yn eu Caffi Bar sydd wedi ennill gwobrau. Gyda lle i hyd at 120 o bobl eistedd, mae’r caffi yn lle gwych i gyfarfod ffrindiau, darganfod lle tawel i weithio, neu i fwynhau diod neu damaid o fwyd blasus, ffres wedi’i baratoi â chynhwysion a brynwyd yn lleol, o fwydlen eang.
Gwefan, Facebook, Twitter, Instagram

Ynglŷn â Cherddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE
Mae Tape, sy’n ymfalchïo mewn hygyrchedd a chynhwysiant, wedi bod yn darparu cyfleoedd cynhwysol, cefnogol, o ansawdd uchel a dan arweiniad pobl ers 2008. O sesiynau blasu 1 awr o hyd a dangosiadau ffilm i gytundebau masnachol a chynhyrchu ffilmiau hir, mae darpariaeth TAPE yn rhoi cyfleoedd i bobl archwilio a datblygu eu creadigrwydd.

Mae TAPE yn cefnogi unigolion a grwpiau, gan gydweithio â phobl o bob oedran a phob lefel o brofiad, gan sicrhau eu bod yn rhan ganolog o’r broses greadigol. O’r rheiny sy’n ymarfer yn greadigol am y tro cyntaf i raddedigion a gweithwyr proffesiynol, gall yr elusen gynnig hyfforddiant, cefnogaeth a chyfleoedd.
Gwefan, Facebook, Twitter, Instagram

 

^
CY